Collen (sant)
Sant Celtaidd cynnar oedd Collen (fl. diwedd y 6g). Mae'n bosibl fod rhai traddodiadau yn ei gymysgu â sant arall o'r enw Colan/Collen.
Collen | |
---|---|
Sant Collen. Ffenestr gwydr lliw yn eglwys plwyf Llangollen. | |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Blodeuodd | 600 |
Hanes a thraddodiadau
golyguYn ôl y testun Cymraeg Canol Diweddar (neu Cymraeg Modern Cynnar) Buchedd Collen (copïwyd yn 1536), roedd Collen yn fab i Gwynog, un o ddisgynyddion Caradog Freichfras, ac Ethinen (neu Ethni) ferch Matholwch 'Arglwydd Iwerddon'. Ond yn ôl traddodiad arall roedd yn fab i Betrwn o linach Rhydderch Hael.[1]
Cysylltir Collen â Llangollen yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Dywedir iddo sefydlu eglwys yn Ninbych hefyd. Ceir Castell Collen yn enw ar gaer Rufeinig fechan ger Llandrindod; dywedir fod cerrig y capel wedi cael eu defnyddio yn ddiweddarach i godi Capel Maelog gerllaw. Bu eglwys Rhiwabon yn gysegredig i Gollen ar un adeg cyn cael ei hailgysegru i'r Forwyn Fair. Roedd 'Trallwng Gollen' yn hen enw ar Y Trallwng.[2]
Ceir Sant Colan yng Nghernyw ac enwir cymuned Langolen yn ardal Penn-ar-Bed, Llydaw, ar ei ôl yn ogystal.[2] Mae Buchedd Collen yn dweud y bu ganddo gell yn Glastonbury.[1]
Ceir chwedl llên gwerin sy'n sôn am ei ymweliad â llys Gwyn ap Nudd (brenin y Tylwyth Teg). Anfonodd Gwyn negesydd i'r sant yn ei gorchymyn i ddod i'w lys yn Y Berwyn. Yno mae Collen yn gweld y castell tegach erioed ac yn cael ei wahodd i mewn gan y porthor. Ond mae'r sant yn chwistrellu dŵr sanctaidd ar y brenin a'i lys ac mae popeth yn diflannu.[3]
Llyfryddiaeth
golyguBuchedd Collen yn, T. H. Parry-Williams (gol.), Rhyddiaith Gymraeg. Y gyfrol gyntaf: Detholiad o lawysgrifau 1488-1609 (Caerdydd, 1954)