Coniston Water

llyn yn Cumbria

Llyn yn Ardal y Llynnoedd, Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Coniston Water. Mae'n 5 milltir o hyd, hanner millter o led.[1] a dyfnder o 184 troedfedd. Mae pentref Coniston tua hanner milltir o'r llyn a cheir tair ynys.

Coniston Water
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd Edit this on Wikidata
LleoliadArdal y Llynnoedd, Lloegr Edit this on Wikidata
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd4.7 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr43 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.35°N 3.0667°W Edit this on Wikidata
Hyd8.8 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddArdal y Llynnoedd, Lloegr Edit this on Wikidata
Map

Gwelir cwch stêm, neu "Gondola", yn gweithio rhwng Mawrth a Thachwedd, sy'n eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.[2]

Map 1925 Arolwg Ordnans o'r llyn

Perchnogion y llyn yn 13eg a 14eg canrifoedd oedd mynachod Abaty Furness.[3] Mae tŷ John Ruskin, Brantwood, ar lan ddwyreiniol y llyn, ac yn agored i ymwelwyr. Prynodd Ruskin y tŷ ym 1871. Mae Amgueddfa Ruskin yn y pentref yn cynnwys arddangosfa am Syr Donald Campbell, a laddwyd ar 4ydd Ionawr 1967 tra'n ceiso am record y byd am gyflymder yn ei gwch Bluebird. Codwyd Bluebird o waelod y llyn ar 8fed Mawrth 2001, a darganfuwyd ei gorff ar 28ain Mai 2001. Fe'i claddwyd ym mynwent Coniston.[3]

Torrwyd record y byd ar ddŵr ar y llyn gan Syr Malcolm Campbell, tad Donald, ym 1939 efo cyflymder o dros 141 milltir yr awr.

Seiliwyd "Swallows and Amazons" gan Arthur Ransome ar y llyn.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "tudalen Coniston ar wefan Ardal y Llynnoedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-06. Cyrchwyd 2014-02-09.
  2. [gwefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol]
  3. 3.0 3.1 gwefan visit Cumbria