Covent Garden

(Ailgyfeiriad o Covent Garden Piazza)

Ardal yn Llundain yw Covent Garden. Lleolir ym mwrdeistrefi Dinas Westminster a Camden ar ochr ddwyreiniol y West End rhwng St. Martin's Lane a Drury Lane. Daeth yn enwog yn wreiddiol am y farchnad ffrwythau a llysiau yng nghanol y sgwâr ond mae erbyn heddiw yn enwog fel atyniad poblogaidd i dwristiaid ac i siopwyr, ynghyd â bod yn gartref i'r Tŷ Opera Brenhinol. Caiff yr ardal ei rhannu gan brif dramwyfa Long Acre sy'n rhedeg o St Martin's Lane yn y gorllewin i Drury Lane tua'r dwyrain. I'r gogledd o Long Acre mae ardaloedd siopau a thai bwyta annibynnol wedi eu canoli o gwmpas Neal's Yard a Seven Dials. Yn y de lleolir y sgwâr ganolog sy'n enwog am ei pherfformwyr stryd ac adeiladau mawreddog y Theatre Royal ac Amgueddfa Drafnidiaeth Llundain.

Covent Garden
Mathardal o Lundain, ardal siopa, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Westminster
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaSgwâr Leicester, Charing Cross Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5125°N 0.1225°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ303809 Edit this on Wikidata
Map

Mae Covent Garden yn gorwedd ychydig i'r gogledd-orllewin i'r Strand ar ochr gorllewinol Charing Cross a Dury Lane. Am fwy na 300 o flynyddoedd, cynhaliodd brif farchnad ffrwythau, blodau a llysiau'r ddinas. Wrth ymyl hen safle' marchnad, saif y Tŷ Opera Brenhinol (Covent Garden), cartref cwmnïau opera a ballet cenedlaethol hynaf Prydain.[1]

Rhennir yr ardal gan dramwyfa Long Acre. I'r gogledd o Long Acre mae nifer o siopau annibynnol wedi eu canoli ar Neal's Yard a Seven Dials. I'r de o Long Acre mae'r sgwâr canolog gyda'i berfformwyr stryd a'r rhan fwyaf o'r adeiladau hanesyddol, theatrau a chyfleusterau adloniant gan gynnwys Amgueddfa Trafnidiaeth Llundain a'r Theatr Frenhinol, Drury Lane.[2]

Cafodd yr ardal ei setlo am gyfnod byr yn yr 7fed ganrif pan ddaeth yn ganolfan masnachu'r dref Eingl-sacsonaidd Lundenwic[3], ond roedd yr ardal wedi dod yn anghyfannedd erbyn diwedd y 9fed ganrif. Erbyn 1200, roedd Abaty Westminster wedi adeiladu wal o ambell ran o'r ardal i'w defnyddio ar gyfer tir âr a pherllannau. Fe'i cyfeiriwyd ato fel gardd yr abaty a'r cwfaint, ac yn ddiweddarach fel gardd y cwfaint sef tarddiad yr enw "Covent Garden". Wedi i Harri VIII diddymu'r mynachlogydd cafodd tir yr ardd ei atafaelu a'i roi i Iarll Bedford ym 1552. Comisiynodd y 4ydd Iarll y pensaer Inigo Jones i adeiladu tai crand er mwyn denu tenantiaid cyfoethog. Dyluniodd Jones sgwâr bwaog mewn dull Eidalaidd ynghyd ag eglwys St Paul. Roedd dyluniad y sgwâr yn newydd i Lundain ac roedd ganddo ddylanwad sylweddol ar gynllunio tref fodern, gan weithredu fel y prototeip ar gyfer ystadau newydd wrth i Lundain dyfu.

Erbyn 1654 roedd marchnad ffrwythau a llysiau bach awyr agored wedi datblygu ar ochr ddeheuol y sgwâr ffasiynol. Yn raddol, daeth y farchnad a'r ardal gyfagos yn ardal afradlon wrth i dafarndai, theatrau, tai coffi a phuteindai agor yno. [4] Erbyn y 18fed ganrif, daeth yn ardal adnabyddus fel ardal golau goch. Lluniwyd Deddf Seneddol i reoli'r ardal, ac adeiladwyd adeilad neo-glasurol Charles Fowler ym 1830 i orchuddio a threfnu'r farchnad. Tyfodd y farchnad a chafodd adeiladau pellach eu hychwanegu: y Neuadd Flodau, y Farchnad Siarter, ac ym 1904 Marchnad y Jiwbilî. Erbyn diwedd y 1960au bu tagfeydd traffig yn achosi problemau, ac ym 1974 symudodd y farchnad i New Covent Garden[5] tua thair milltir (5 km) i'r de-orllewin yn Nine Elms. Ail-agorwyd yr adeilad canolog fel canolfan siopa yn 1980 ac mae bellach yn lleoliad twristaidd sy'n cynnwys caffis, tafarndai, siopau bach, a marchnad grefftau o'r enw Apple Market, ynghyd â marchnad arall yn Neuadd y Jiwbilî.

Trafnidiaeth

golygu

Mae Covent Garden yn cael ei wasanaethu gan linell Piccadilly trwy orsaf danddaearol Covent Garden ar gornel Long Acre a James Street. Cynlluniwyd yr orsaf gan Leslie Green ac fe'i hagorwyd gan Great Northern, Piccadilly a Brompton Railway ar 11 Ebrill 1907, pedwar mis ar ôl i'r gwasanaethau ar weddill y llinell ddechrau ar 15 Rhagfyr 1906. Mae'r pellter o Covent Garden i Leicester Square yn llai na 300 llath yn ei wneud y daith tiwb byrraf yn Llundain. Mae gorsafoedd ychydig y tu allan i'r ardal yn cynnwys gorsaf drenau tanddaearol Charing Cross a gorsaf reilffordd Charing Cross, gorsaf danddaearol Embankment, gorsaf danddaearol Square Square, a gorsaf danddaearol Holborn. [6][7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Encyclopaedia Britannica Covent Garden adalwyd 31 Hydref 2018
  2. Gwefan Covent Garden adalwyd 31 Hydref 2018
  3. Bedford.htm Excavations at 15-16 Bedford Street, Covent Garden, London (BDO 05) TQ 3025 8075 adalwyd 31 Hydref 2018
  4. E. J. Burford (1986). Wits, Wenchers and Wantons – London's Low Life: Covent Garden in the Eighteenth Century. Robert Hale Ltd. tud. 1–3. ISBN 0-7090-2629-3
  5. New Covent Garden Market: Wholesale Market for Fruit, Veg adalwyd 31 Hydref 2018
  6. Oliver Green (20 Tachwedd 2012). The Tube: Station to Station on the London Underground. Bloomsbury Publishing. t. 132. ISBN 978-0-7478-1287-6.
  7. "Piccadilly line facts". Transport for London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ebrill 2008. Cyrchwyd 31 Hydref 2018. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)