Creigafal

genws o blanhigion


Genws o blanhigion blodeuol yn y teulu rhosyn, Rosaceae, ac yn frodorol i ranbarth Palearctig ( Asia tymherus , Ewrop, a gogledd Affrica [1] ) yw'r Creigafal, gydag amrywiaeth helaeth o'r genws hefyd ym mynyddoedd de-orllewin Tsieina a'r Himalaya. [2] Maent yn perthyn i'r ddraenen wen ( Crataegus ), drain tân/<i>firethorns</i> ( Pyracantha ), photinias ( Photinia ), a chriafolau ( Sorbus ).

Automatic taxobox help
Thanks for creating an automatic taxobox. We don't know the taxonomy of "Cotoneaster".
  • Is "Cotoneaster" the scientific name of your taxon? If you were editing the page "Animal", you'd need to specify |taxon=Animalia. If you've changed this, press "Preview" to update this message.
  • Click here to enter the taxonomic details for "Cotoneaster".
Common parameters
  • |authority= Who described the taxon
  • |parent authority= Who described the next taxon up the list
  • |display parents=4 force the display of (e.g.) 4 parent taxa
  • |display children= Display any subdivisions already in Wikipedia's database (e.g. genera within a family)
Helpful links
{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/Nodyn:Taxonomy/Cotoneaster|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}} |machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}} |machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}
Creigafal
Cotoneaster frigidus foliage and fruit
Dosbarthiad gwyddonol e
Unrecognized taxon (fix): Cotoneaster
Species

See text

Creigafal
Cotoneaster frigidus deiliach a ffrwyth
Dosbarthiad gwyddonol e
Teyrnas: Plantae
Cytras: Tracheophytes
Cytras: Angiosperms
Cytras: Eudicots
Cytras: Rosids
Trefn: Rosales
Teulu: Rosaceae
Is-deulu: Amygdaloideae
Llwyth: Maleae
Is-lwyth: Malinae
Genws: Cotoneaster

Medik.
Rhywogaeth

Gweler isod

Yn dibynnu ar y diffiniad rhywogaeth a ddefnyddir, disgrifir rhwng 70 a 300 o wahanol rywogaethau o Greigafalau, gyda llawer o ficrorywogaethau apomictig yn cael eu trin fel rhywogaethau gan rai awduron, ond dim ond fel mathau gan eraill. [2] [3]

Mae'r mwyafrif o rywogaethau yn lwyni o 0.5-5 medr o daldra, ac yn amrywio o blanhigion ymledol sy'n cofleidio'r ddaear i lwyni; mae ychydig, yn enwedig C. frigidus, yn goed bach hyd at 15 medr o daldra a 75cm diamedr boncyff. Mae'r rhywogaethau ymledol yn bennaf yn blanhigion alpaidd sy'n tyfu ar uchderau uchel (ee C. integrifolius, sy'n tyfu ar 3,000-4,000 medr yn yr Himalaya), tra bod rhywogaethau mwy i'w gweld mewn bylchau prysgwydd a choetir ar dir is.

Disgrifiad

golygu

Mae'r egin yn dimorffig, gydag egin hir ( 10-40cm hir) gan gynhyrchu tyfiant cangen strwythurol, ac egin byr (0.5-5cm o hir) yn dwyn y blodau; wrth ganhennu, mae'r patrwm hwn yn aml yn datblygu ffurf 'asgwrn penwaig'. Trefnir y dail bob yn ail, 0.5-15cm hir, hirfain i waywffurf mewn siâp, cyfan; ceir rhywogaethau bytholwyrdd a chollddail .

Cynhyrchir y blodau ddiwedd y gwanwyn trwy ddechrau'r haf, yn unigol neu mewn corymbau o hyd at 100 gyda'i gilydd. Mae'r blodyn naill ai'n gwbl agored neu gyda'i bum petal yn hanner agored 5-10mm o ddiamedr. Gallant fod yn unrhyw arlliw o wyn i wyn hufennog i binc golau i binc tywyll i bron goch, 10-20 briger a hyd at bum steil. Mae'r ffrwyth yn afalau bach 5-12mm o ddiamedr, pinc neu goch llachar, oren neu hyd yn oed marŵn neu ddu pan yn aeddfed, yn cynnwys un i dri (anaml hyd at bump) o hadau. [3] [4] Mae ffrwythau ar rai rhywogaethau yn aros ymlaen tan y flwyddyn ganlynol.

Gwerth i fywyd gwyllt

golygu

Mae rhywogaethau creigafal yn cael eu defnyddio fel planhigion bwyd larfaol gan rai rhywogaethau Lepidoptera gan gynnwys y bidog lwyd, y dad-ddeiliwr, y bŵau duon mantellog y brychan y gaeaf, a gwyfyn drain gwynion. Mae'r blodau'n denu gwenyn a gloÿnnod byw ac mae'r ffrwythau'n cael eu bwyta gan adar.

Er mai cymharol ychydig o rywogaethau sy’n frodorol yno'n y DU ac Iwerddon, defnyddir rhywogaethau Creigafal, ynghyd â’r genws cysylltiedig Pyracantha, fel ffynhonnell werthfawr o neithdar pan nad oes gan y gwenyn lawer o borthiant arall yn aml ym mwlch Mehefin . Mae gwenyn yn hoff iawn o'r greigafal ac mae'i haeron coch y greigafal hefyd yn ddeniadol iawn i'r fwyalchen a bronfreithod eraill.

Amaethu a defnyddiau

golygu

Mae creigafalau yn lwyni gardd poblogaidd iawn, wedi'u tyfu am eu harferion deniadol a'u ffrwythau addurniadol. Mae rhai cyltifarau o dras hysbys, megis y <i id="mwXA">Cotoneaster</i> × <i id="mwXQ">watereri</i> Exell yn boblogaidd iawn (cotoneaster Waterer; C. frigidus × C. salicifolius ), tra bod eraill o dreftadaeth gymysg neu'n anhysbys. [4]

Mae'r greigafal hefyd yn boblogaidd fel coed bonsai, diolch i'w caledwch, eu gallu i ffrwytho a blodeuo, a maint eu dail bach. [5]

Mae’r rhywogaethau a’r cyltifarau a ganlyn wedi ennill Gwobr Teilyngdod Gardd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol :-  

Ymledol

golygu

Mae llawer o rywogaethau wedi dod yn chwyn ymledol lle mae amodau hinsoddol yn addas ar eu cyfer, fel y nifer o rywogaethau Tsieineaidd sydd wedi'u brodori yng ngogledd-orllewin Ewrop. Mae C. glaucophyllus wedi dod yn chwynyn ymledol yn Awstralia a Chalifornia . [6] Mae C. simonsii wedi'i restru ar Gytundeb Planhigion Plâu Cenedlaethol Seland Newydd sy'n atal ei werthu a'i ddosbarthu oherwydd ei debygolrwydd o ymledu. Yn Portland, Dorset, y DU, mae wedi dod yn ymledol ac yn cael ei ddifa'n rheolaidd i atal difrod i'r Arfordir Jwrasig.

Enw a dosbarthiad

golygu

Mae enw'r genws Cotoneaster yn deillio o cotoneum, enw Lladin ar y cwins, a'r ôl-ddodiad -aster, 'yn debyg'. Mae'r enw yn gywir wrywaidd, er mewn rhai gweithiau hŷn cafodd ei drin yn anghywir fel benywaidd, gan arwain at derfyniadau enw gwahanol ar gyfer llawer o'r rhywogaethau (e.e. Cotoneaster integerrima yn lle Cotoneaster integerrimus ). [3]

Mae'r genws yn aml yn cael ei rannu'n ddwy adran neu fwy, er bod y sefyllfa'n cael ei chymhlethu gan groesrywio : [3]

  • Sect Cotoneaster . Cotoneaster (syn. sect. Orthopetalwm ). Blodau yn unig neu hyd at 6 gyda'i gilydd; petalau yn pwyntio ymlaen, yn aml yn binc arlliw. Llwyni llai yn bennaf.
  • Sect Cotoneaster . Chaenopetalum . Blodau mwy nag 20 gyda'i gilydd mewn corymbs; petalau yn agor fflat, gwyn hufennog. Llwyni mwy yn bennaf.

Rhywogaethau dethol

golygu

  Ffynonellau: [2] [4] [7] [8] [9]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Sunset Western Garden Book, 1995:606–607 ISBN 9780376038913
  2. 2.0 2.1 2.2 Flora of China: Cotoneaster (includes most of the world's Cotoneaster species) www.efloras.org
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Bean, W. J. (1976). Trees and Shrubs Hardy in the British Isles 8th edition. John Murray ISBN 0-7195-1790-7. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "bean" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  4. 4.0 4.1 4.2 Huxley, A., ed. (1992). New RHS Dictionary of Gardening. Macmillan ISBN 0-333-47494-5. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "rhs" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  5. "Best Bonsai Tree Types For Beginners". Bonsaiable. 16 April 2022. Cyrchwyd 18 April 2022.
  6. Cal-IPC: Invasive Plants of California's Wildlands. www.cal-ipc.org
  7. Flora of Nepal: Cotoneaster www.efloras.org
  8. Flora Europaea: Cotoneaster rbg-web2.rbge.org.uk
  9. Den virtuella floran: Cotoneaster linnaeus.nrm.se(in Swedish)

Dolenni allanol

golygu
  •   Cyfryngau perthnasol Cotoneaster ar Gomin Wicimedia
  • Data related to Cotoneaster at Wikispecies