William Williams (Creuddynfab)
Beirniad llenyddol a golygydd Cymraeg oedd William Williams (20 Awst 1814 – 26 Awst 1869), a adnabyddid gan amlaf wrth ei enw barddol Creuddynfab. Roedd yn frodor o ardal Y Creuddyn ger Llandudno yn yr hen Sir Gaernarfon (yn Sir Conwy heddiw).[1]
William Williams | |
---|---|
Ffugenw | Creuddynfab |
Ganwyd | 20 Awst 1814 Y Creuddyn |
Bu farw | 26 Awst 1869 Llandudno |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | beirniad llenyddol, golygydd, bardd, gweithiwr amaethyddol |
Bywgraffiad
golyguGaned Creuddynfab yn 1814. Saer maen oedd ei dad. Ni chafodd ond ychydig o addysg a dechreuodd ei yrfa fel gwas fferm yn y Creuddyn.[1] Yn y cyfnod 1845-1862 bu'n gweithio fel meistr stesion ar y rheilffordd newydd yn ardal y Pennines yng ngogledd Lloegr. Yno daeth yn gyfaill i'r bardd Ceiriog. Cafodd waith i Geiriog ar y rheilffordd a daeth yn ddylanwad mawr ar y bardd ieuanc, megis perthynas athro a disgybl.[2]
Pan ddychwelodd i Gymru daeth yn Ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol ond bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'r swydd oherwydd afiechyd.[1] Yn 1864 daeth yn olygydd cylchgrawn Yr Eisteddfod.
Roedd cryn fri i Greuddynfab fel beirniad llenyddol yn ei gyfnod. Roedd o blaid y mesurau rhydd newydd yn enwedig y delyneg gan ymosod ar y beirdd Neo-Glasuraidd fel Caledfryn. Gosododd ei feirniadaeth yn ei unig gyhoeddiad, Y Barddoniadur Cymmreig; yn ôl Saunders Lewis, hwn oedd "un o'r ychydig bethau pwysig mewn beirniadaeth Gymraeg rhwng Goronwy Owen ac Emrys ap Iwan."[1]
Bu farw yn 1869.
Llyfryddiaeth
golygu- Y Barddoniadur Cymmreig (2 gyfrol, 1855, 1857)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
- ↑ Saunders Lewis, Ceiriog (Gwasg Aberystwyth, 1929).