Y Creuddyn
ardal yng Nghonwy
Gorynys fechan ym Mwrdeistref Sirol Conwy, Cymru, yw'r Creuddyn. Mae'r enw'n deillio o'r cwmwd canoloesol a oedd yn cynnwys yr orynys. Mae'n ffinio i’r gogledd a’r gorellewin â Môr Iwerddon, Bae Conwy ac Afon Conwy, a phriffordd yr A55 i’r de. Ym mhen draw'r orynys saif Pen y Gogarth; mae Rhiwledyn (Trwyn y Fuwch]] i’r dwyrain. Mae sawl bryn calchfaen tua 100 metr o uchder, gan gynnwys Bryn Pydew a Bryn Euryn. Mae'r Gogarth yn cyrraedd 207 metr, a Rhiwledyn 141 metr.
Math | gorynys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.31°N 3.8°W |
- Am lleoedd eraill o'r un enw, gweler Creuddyn.
Mae'n cynnwys trefi Llandudno, Deganwy, Bae Penrhyn a Chyffordd Llandudno a phentrefi Llandrillo-yn-Rhos, Llangystennin, Llanrhos, Glanwydden ac Esgyryn.
Lleolir Ysgol y Creuddyn ar yr orynys.