Brian O'Nolan

awdur Gwyddelig
(Ailgyfeiriad o Flann O'Brien)

Nofelydd, colofnydd a dychanwr Gwyddelig oedd Brian O'Nolan (Gwyddeleg: Brian Ó Nualláin; 5 Hydref 19111 Ebrill 1966). Mae’n fwy adnabyddus y tu allan i Iwerddon wrth ei ffugenw Flann O'Brien, sef yr enw a ddefnyddiodd ar nofelau a ysgrifennodd yn Saesneg. Ysgrifennodd yn y Wyddeleg dan y ffugenw Myles na Gopaleen (neu Myles na gCopaleen).

Brian O'Nolan
FfugenwMyles na gCopaleen, Flann O'Brien, Myles na Gopaleen, Brother Barnabas, George Knowall Edit this on Wikidata
Ganwyd5 Hydref 1911 Edit this on Wikidata
Strabane Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ebrill 1966 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, newyddiadurwr, dramodydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAt Swim-Two-Birds, The Third Policeman, An Béal Bocht, The Hard Life, The Dalkey Archive Edit this on Wikidata
llofnod

Fe'i ganwyd yn Strabane, Swydd Tyrone. Roedd ei dad yn swyddog yng ngwasanaeth tollau y Deyrnas Unedig, er ei fod yn gefnogwr i'r achos cenedlaetholgar. Ar ôl i Wladwriaeth Rydd Iwerddon gael ei chreu ym 1921 gweithiodd yng ngwasanaeth tollau Iwerddon, a symudodd y teulu i Ddulyn. Mynychodd Brian ysgolion Cynulleidfa'r Brodyr Cristnogol a Cynulleidfa yr Ysbryd Glan yno, ac wedyn astudiodd yng Coleg Prifysgol Dulyn a dechreuodd ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau myfyrwyr, yn aml dan ffugenwau.

Ym 1935 ymunodd â gwasanaeth sifil Iwerddon, a oedd yn gweithredu polisi y dylai ei swyddogion fod yn anwleidyddol. Cafodd ei ysgogi gan y sefyllfa hon i barhau i ddefnyddio ffugenwau yn ei waith cyhoeddedig, yr oedd llawer ohono yn ddychanol ac yn feirniadol o'r byd yn gyffredinol ac o gymdeithas Wyddelig yn arbennig. Beth bynnag, roedd y ffaith mai'r un person oedd Brian O'Nolan, Flann O'Brien a Myles na gCopaleen yn gyfrinach agored. Er iddo gyrraedd lefel uwch yn y gwasanaeth yn y pen draw fe gafodd ei orfodi i ymddeol o'i swydd ym 1953 wedi iddo fynd yn rhy bell gyda'i feirniadaeth o wleidyddion.

Am ran helaeth o'i oes roedd yn alcoholig, ac yn ei flynyddoedd olaf roedd ei iechyd yn wael. Roedd yn dioddef o ganser y gwddf a bu farw o drawiad ar y galon yn 54 oed.

Plac glas ym man geni O'Nolan yn Strabane

Newyddiaduraeth golygu

O 1940 i 1966 ysgrifennai golofn doniol a dychanol ei naws â theitl "Cruiskeen Lawn" ar gyfer The Irish Times. Defnyddiodd yr enw "Myles na gCopaleen" tan 1952, a "Myles na Gopaleen" ar ôl hynny. Cyn 1953 ysgrifennodd yn y Wyddeleg a'r Saesneg bob yn ail, ond dim ond Saesneg wedyn.

Ffuglen golygu

Mae ei nofel gyntaf, At Swim-Two-Birds (1939), yn cael ei hystyried yn gampwaith ym maes metaffuglen. Mae'r llyfr yn ei osod ei hun fel naratif yn y person cyntaf gan fyfyriwr o Ddulyn sydd â syniadau anghonfensiynol am sut y dylid llunio nofel. O ganlyniad mae'n cychwyn tair stori hollol wahanol ac anghyson ar yr un pryd. Fodd bynnag, yn fuan mae'r tair stori'n cydblethu, mae'r cymeriadau'n cynllwynio gyda'i gilydd ac yn erbyn ei gilydd, ac yn anfon y stori i gyfeiriadau annhebygol. Yn y cyfamser mae elfennau o fywyd y myfyriwr yn cael eu plethu i'r digwyddiadau. Cafodd y llyfr ganmoliaeth gan awduron megis James Joyce, Jorge Luis Borges, Dylan Thomas, Graham Greene ac Anthony Burgess.

Mae ei ail nofel, The Third Policeman (1939–40), yr un mor ddyfeisgar o ran ei phlot a'i strwythur. Fodd bynnag, fe'i gwrthodwyd gan gyhoeddwyr, ac nid ymddangosodd mewn print tan ar ôl ei farwolaeth. Tua diwedd ei oes ymgorfforodd O'Nolan rannau helaeth o'r stori yn ei nofel The Dalkey Archive (1964).

Ei unig nofel yn y Wyddeleg yw An Béal Bocht (1941), sy'n barodi ysgafn o hunangofiannau o'r Gaeltacht (yr ardaloedd yn Iwerddon lle siaredir Gwyddeleg fel y brif iaith) megis An tOileánach ("Yr Ynyswr") gan Tomás Ó Criomhthain.

Ei nofel arall, a ysgrifennodd tua diwedd ei oes, yw The Hard Life: An Exegesis of Squalor, hunangofiant ffuglennol wedi'i osod yn Nulyn ar droad y ganrif.

Gweithiau llenyddol eraill golygu

Perfformiwyd dwy o'i ddramâu yn Nulyn ym 1943, sef Faustus Kelly a Rhapsody in Stephen's Green, ond cawsant dderbyniad gwael. Mae rhai arbenigwyr wedi dyfalu iddo ysgrifennu nofelau ditectif a ffuglen wyddonol o dan ffugenwau.

Llyfryddiaeth golygu

Nofelau golygu

  • Flann O'Brien, At Swim-Two-Birds (1939)
  • Flann O'Brien, The Third Policeman (1939–40; cyhoeddwyd gyntaf 1967)
  • Myles na gCopaleen, An Béal Bocht (1941); cyfieithwyd i'r Saesneg gan Patrick C. Power fel The Poor Mouth (1973)
  • Flann O'Brien, The Hard Life (1961)
  • Flann O'Brien, The Dalkey Archive (1964)

Detholiadau o'i newyddiaduraeth golygu

  • The Best of Myles: a Selection from "Cruiskeen Lawn", gol. Kevin O'Nolan (1968)
  • Further Cuttings from Cruiskeen Lawn (1976)
  • The Hair of the Dogma (1977)
  • Flann O'Brien at War (1999)

Casgliadau eraill ar ôl marwolaeth golygu

  • The Various Lives of Keats and Chapman and The Brother (1976)
  • Myles before Myles (1985)
  • Stories and Plays (1991)
  • The Short Fiction of Flann O’Brien, gol. Neil Murphy a Keith Hopper (2013)
  • The Collected Letters of Flann O’Brien, gol. Maebh Long (2018)
  • Collected Plays and Teleplays (2013)

Astudiaethau golygu

  • Myles: Portraits of Brian O'Nolan, gol. Timothy O'Keeffe (Llundain, 1973)
  • Anne Clissmann, Flann O'Brien: A Critical Introduction to his Writings (Dulyn, 1975)
  • Carol Taaffe, Ireland Through the Looking-Glass: Flann O'Brien, Myles na gCopaleen and Irish Cultural Debate (Corc, 1975)
  • Anthony Cronin, No Laughing Matter: The Life and Times of Flann O'Brien (Llundain, 1989)
  • Keith Hopper, Flann O'Brien: A Portrait of the Artist as a Young Postmodernist (Corc, 1995)
  • Conjuring Complexities: Essays on Flann O'Brien, gol. Anne Clune a Tess Hurson (Belffast, 1997)
  • Joe Brooker, Flann O'Brien (Tavistock, 2004)
  • Maebh Long, Assembling Flann O'Brien (Llundain, 2014)
  • Flann O'Brien: Problems with Authority, gol. Ruben Borg, Paul Fagan a Werner Huber (Corc, 2014)
 
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i: