Raidió Fáilte

Gorsaf radio gymunedol Wyddeleg Belffast.

Mae Raidió Fáilte (ynganiad Gwyddeleg: [ˈɾˠadʲiːoː ˈfˠaːlʲtʲə]; sy'n golygu "Radio Croeso") yn orsaf radio gymunedol Wyddeleg, sy'n darlledu o ddinas Belffast, yng Ngogledd Iwerddon. Dechreuodd ddarlledu o dan ei drwydded bresennol ar 15 Medi 2006 ar ôl gweithredu fel gorsaf radio môr-leidr am beth amser cyn hynny.

Raidió Fáilte
Ardal DdarlleduDinas a maestrefi Belffast
Dyddiad Cychwyn15 Medi 2006
TonfeddFM: 107.1
Pencadlys30 Sráid Dhubhaise/Divis St Belffast
Perchennog
Webcasthttps://onlineradiobox.com/uk/raidiofailte/
Gwefanhttps://raidiofailte.com/
FformatCymunedol: cerddoriaeth a siarad
IaithGwyddeleg a pheth Saesneg
Cultúrlann McAdam Ó Fiaich ar y Falls Road - lleoliad gyntaf Raidió Fáilte

Mae’r orsaf i’w chlywed ar 107.1 FM yn ardal Belfast, ac ar-lein trwy lif byw ar wefan yr orsaf. Mae’n cael ei darlledu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Fe'i darlledwyd yn wreiddiol o ganolfan ddiwylliannol iaith Wyddeleg, Cultúrlann McAdam Ó Fiaich ar y Falls Road am nifer o flynyddoedd ac wedi hynny o Ganolfan Twin Spiers ar Northumberland Street oddi ar Falls Road, Belfast. Ym mis Hydref 2018 symudodd yr orsaf i adeilad newydd o'r radd flaenaf ar gyffordd Ffordd Falls a thraffordd Westlink.[1][2]

Hanes golygu

Dechreuodd Raidió Fáilte ddarlledu’n rhan-amser o Cultúrlann McAdam Ó Fiaich yn y 1990au.

Ail-lansiwyd Raidió Fáilte yn Neuadd y Ddinas, Belfast ar 15 Medi 2006 pan gyflwynodd y Rheolwr Gorsaf, Fergus Ó hÍr, siaradwyr gwadd Ferdia Mac an Fhailigh, Prif Weithredwr Foras na Gaeilge, a Bob Collins, Comisiynydd y Comisiwn Cydraddoldeb. Cafodd neges wedi’i recordio gan Arlywydd Iwerddon Mary McAleese yn croesawu lansiad Raidió Fáilte ei chwarae ar ddechrau’r darlledu. Mae'r pencadlys yn "borth i Gaeltacht Belfast" neu'r "Cwarter Gaeltacht" fel mae'n cael ei galw gan rai. Mae'r adeilad yn cynnal digwyddiadau ac arddangosfeyss ac yn cynnwys caffe o'r enw An Lon Dubh ("y fwyalchen).[3]

Rhaglennu golygu

Anelir rhaglenni at y gymuned Wyddelig yn Belfast a'r ardal fetropolitan y bwrdeistrefi cyfagos. Cymysgedd o gerddoriaeth draddodiadol Wyddelig, indie, roc a cherddoriaeth y byd a gellir ei glywed, ynghyd â darllediadau materion cyfoes a chwaraeon a sgwrs. Mae rhaglenni arbennig yn ymwneud â gwasanaethau eglwysig Catholig a Phresbyteraidd trwy gyfrwng y Wyddeleg hefyd wedi cael eu darlledu.

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "'NÍL FOIRGNEAMH RAIDIÓ NÍOS FEARR IN ÉIRINN' Raidió Fáilte ag craoladh ó stiúideo úrnua- NÓS". Cyrchwyd 6 October 2018.
  2. "Raidió Fáilte in 2018- Raidió na Life & Near FM podcast". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-21. Cyrchwyd 6 October 2018.Nodyn:Cbignore
  3. "Raidió Fáilte – An Lon Dubh". Visit Belast. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-26. Cyrchwyd 2022-05-29.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.