Cafflogion
Un o dri chwmwd cantref Llŷn, teyrnas Gwynedd, oedd Cafflogion (amrywiadau: Afflogion, Afloegion). Dywedir iddo gael ei sefydlu gan Afloeg, un o feibion Cunedda (er bod 'Afloegion' yn ffurf gywirach at enw'r cwmwd felly, Cafflogion sy'n arferol yn nogfennau'r Oesoedd Canol).
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Llŷn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.887°N 4.418°W |
Gorweddai ar lan Bae Ceredigion, rhwng Ynysoedd Tudwal ac afon Erch. I'r gorllewin gorweddai cwmwd Cymydmaen a phenrhyn eithaf Llŷn, ac i'r gorllewin roedd y trydydd cwmwd, Dinllaen.
Lleolid llys y cwmwd ym Mhwllheli, "tref" fechan ganoesol ar y pryd, i fyny yng nghornel dwyreiniol y cwmwd. Roedd y "trefi" eraill yn cynnwys Abersoch (Soch), Castellmarch, a Penyberth.
Fel ei gymdogion, gorweddai cwmwd Cafflogion ar un o lwybrau'r pererinion i Enlli, ond roedd yn llai prysur na'r llwybr gogleddol trwy Ddinllaen. Roedd y canolfannau eglwysig yn cynnwys Penrhos, Llanfihangel Bachellaeth, Llaniestyn, Llanbedrog a Llangïan.
Plwyfi
golygu- Botwnnog
- Denïo (ger Pwllheli)
- Llanbedrog
- Llanfihangel Bachellaeth
- Llangïan
- Llaniestyn
- Penrhos
Gweler hefyd
golyguFfynhonnell
golygu- A. D. Carr, 'Medieval Administrative Units', yn Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1977)