Cwmbwrla

maesdref o Abertawe

Mae Cwmbwrla yn un o faesdrefi dinas Abertawe, Cymru. Fe'i lleolir tua milltir (1.5 km) i'r gogledd o ganol y ddinas. Tarddia'r enw o'r gair 'Burlais' sef enw'r nant sy'n rhedeg trwy'r pentref.[1]

Cwmbwrla
Mathardal breswyl, maestref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,423 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd150.35 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6369°N 3.9578°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000962 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMike Hedges (Llafur)
AS/au y DUCarolyn Harris (Llafur)
Map

Mae'n ardal boblog gydag ond ychydig o siopau bychain. Mae cyfleusterau lleol yn cynnwys Ysgol Gynradd Cwmbwrla, canolfan ddydd gwasanaethau iechyd meddyliol a Pharc Cwmbwrla sydd a nifer o gaeau chwarae a dau faes pel-droed. Mae'r tîm pêl-droed lleol wedi'i leoli yng Nghlwb Cymdeithasol Cwmfelin ar Stryd Courtney.

Ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au, aeth Cwmbwrla trwy nifer o newidiadau. Tan bod y penderfyniad o adeiladu cylchdro yno wedi cael ei wneud, roedd y pentref yn nodweddiadol o nifer o bentrefi Cymreig eraill. Roedd yno res o siopau ar y naill ochr, gyda'r Tivoli (sef y sinema) a oedd yn gwasanaethu fel canolfan gymunedol hefyd ar yr ochor arall. Roedd yno flwch heddlu du a gwyn yno hefyd, arwerthiant ceir Cyril Price a thafarn y Gate House a gafodd ei enw ar ôl y tollborth a oedd yno yn ystod y 19g.

Roedd pedwar Capel Anghydffurfiol yno hefyd sef Capel-y-Gat a'r Babell (sydd bellach wedi eu dymchwel), y Gorse Mission sydd ar waelod Heol y Gors a Libanus. Mae'r Missionn yn parhau i fod yno ond gaeth Capel Libanus ei chwalu ar ôl iddo gael ei ddifrodi gan dân ym 2012.[2]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mike Hedges (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Carolyn Harris (Llafur).[3][4]

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cwmbwrla (pob oed) (7,972)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cwmbwrla) (517)
  
6.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cwmbwrla) (7107)
  
89.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Cwmbwrla) (1,272)
  
36.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. Winstone, Marilyn (2001). "Rhagymadrodd", Before The Roundabout - A Swansea Childhood (yn Saesneg). Port Talbot, Gorllewin Morgannwg: The Author, tud. 7
  2. "Capel yn Abertawe yn llosgi’n ulw", Golwg360, Ionawr 21 2012
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]