Cyfri'n Cewri
Cyfrol am fathemategwyr Cymreig gan yr Athro Gareth Ffowc Roberts yw Cyfri'n Cewri (Hanes Mawrion ein Mathemateg) a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yng Ngorffennaf 2020.[1] Ceir 171 tudalen ac fe'i argraffwyd ar ffurf clawr meddal ac fel elyfr (ISBN 9781786835963). Pris y llyfr yn 2020 oedd £11.99.[2]
Enghraifft o'r canlynol | llyfr |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Gorffennaf 2020 |
Tudalennau | 224 |
Prif bwnc | mathemateg |
Yn ôl y llenor Angharad Tomos, "Gwnaeth [Gareth] i fathemateg Cymru yr hyn a wnaeth Peter Lord i gelf Cymru – cryfhau ein ymwybyddiaeth o gewri ein gwlad, ac ymfalchïo ynddynt." Dywedodd yr hanesydd Dr Elin Jones, "Fe ddylai hwn fod ar silff lyfrau unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes Cymru, oherwydd mae gorchestion ein mathemategwyr yn rhan mor bwysig o'r hanes hwnnw, ac yn allweddol i'n dealltwriaeth o’n byd ni heddiw.'
Yr awdur
golyguMae Gareth (ganwyd 23 Mai 1945) yn awdur ac yn Athro Emeritws mewn Addysg ym Mhrifysgol Bangor ac yn ŵr sydd wedi poblogeiddio mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg ers y 1980au mewn erthyglau a llyfrau ac ar y cyfryngau. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y dulliau newydd o gaffael cysyniadau mathemategol mewn cyd-destunau dwyieithog. Dywed ar ei wefan: "Poblogeiddio mathemateg yw fy nod trwy ddangos fod y pwnc difyr hwn yn cyffwrdd pob un ohonom."[3][4]
Yn 2010 dyfarnwyd iddo'r Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg gan yr Eisteddfod Genedlaethol[4] a blwyddyn yn ddiweddarach, yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro yn 2011, fe'i derbyniwyd i wisg wen er anrhydedd, Gorsedd y Beirdd[4].
Cynnwys
golyguMae'r gyfrol yn fywgraffiad 12 o fathemategwyr gyda chysylltiad Cymreig, gan gynnwys:
- Mary Wynne Warner (1932-98) o Gaerfyrddin, a ddatblygodd 'algebra fodern' yn arf i ddadansoddi digwyddiadau amhendant, fel y tywydd a daeargrynfeydd. Arbenigai hefyd mewn mathemateg niwlog (fuzzy mathematics).[5][6]
- George Hartley Bryan (1864-1928) - Mathemategydd cymhwysol Seisnig gyda chysylltiadau Cymreig, a oedd yn awdurdod ar thermodynameg ac awyrenneg. Drwy gydol ei yrfa, bu'n athro mathemateg ym Mhrifysgol Bangor. Ef oedd awdur y gyfrol Stability in Aviation (1911). Yn ei gyfrol, mae Gareth yn cymharu Bryan gyda mathemategydd arall a arbenigodd yn y Gymraeg, sef John Morris-Jones, ac yn nodi y dyrchafwyd J.M.J. i'r entrychion, ond nad oes fawr o sôn am Bryan yn y Coleg nac unrhyw fan arall bron!
- Richard Price (1723-1791), o Langeinwyr ger Maesteg. Roedd yn athronydd radicalaidd ac yn awdur a galwyd ef yn "Gyfaill Dynolryw". Ef a'i fab-yng-nghyfraith William Morgan (1750-1833) o Ben-y-bont ar Ogwr oedd y ddau a osododd seiliau yswiriant.
- William Jones (1674-1749), o Ynys Môn, un o'r mathemategwyr mwyaf adnabyddus yn y gyfrol, yn bennaf am mai ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r symbol π (pai). Yn ôl Gareth, Pai yw draig goch ein mathemateg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwasg Prifysgol Cymru; adalwyd 12 Medi 2020.
- ↑ www.waterstones.com; adalwyd 12 Medi 2020.
- ↑ Gwefan Gareth Ffowc Roberts; adalwyd 27 Tachwedd 2015
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Gwefan Llenyddiaeth Cymru; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 27 Tachwedd 2015
- ↑ M. W. Warner, "Fuzzy topology with respect to continuous lattices," Fuzzy Sets and Systems 35(1)(1990): 85–91. doi:10.1016/0165-0114(90)90020-7
- ↑ M. W. Warner, "Towards a Mathematical Theory of Fuzzy Topology" in R. Lowen and M. R. Roubens, eds., Fuzzy Logic: State of the Art (Springer 1993): 83–94. ISBN 9789401048903
- Bryan G.H. Stability in Aviation. – Macmillan. 1911. Fersiwn Arlein (Y sgan gwreiddiol gan Google Books).