Idris Foster
Ysgolhaig Cymraeg oedd Idris Llewelyn Foster (23 Gorffennaf 1911 – 18 Mehefin 1984), roedd fwyaf adnabyddus fel Athro Celteg yng Ngholeg Yr Iesu o 1947 hyd 1978.
Idris Foster | |
---|---|
Ganwyd | 23 Gorffennaf 1911 Bethesda |
Bu farw | 18 Mehefin 1984 Bethesda |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | Celtegwr |
Swydd | Jesus Professor of Celtic |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Ganwyd yng Ngharneddi, ger Bethesda, Gwynedd. Addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Apwyntiwyd ef yn bennaeth adran Gelteg ym Mhrifysgol Lerpwl ym 1936. Fe dorrodd yr Ail Ryfel Byd ar draws ei yrfa academaidd, pan weithiodd dros yr Adran Deallusrwydd Llyngesol. Yn 1947 apwyntiwyd ef yn drydydd daliwr y swydd Athro Celteg yng Ngholeg Yr Iesu, Prifysgol Rhydychen, swydd a ddeliwyd yn wreiddiol gan Syr John Rhys. Daeth yn Gymrawd Coleg Yr Iesu yr un adeg. Cafodd ei urddo'n farchog yn 1977, ymddeolodd y flwyddyn ganlynol gan ddychwelyd i'w gynefin, bu farw yn 1984.
Ei waith pwysicaf ym maes Astudiaethau Celtaidd oedd ei astudiaethau o farddoniaeth a llên Cymraeg a Gwyddeleg Canoloesol. Fe wnaeth gyfraniad arbennig i astudiaeth o chwedl Culhwch ac Olwen, yr Hengerdd a'r Cynfeirdd. Cyhoeddwyd ei fersiwn ef o'r chwedl, ar ôl ei farwolaeth, yn 1992.
Bywyd Cyhoeddus
golyguBu'n weithgar yn ymwneud â sawl cymdeithas Gymreig flaengar, yn arbennig yr Eisteddfod Genedlaethol. Roedd yn gadeirydd Cyngor a Llywydd y Llys, roedd yn drysorydd ac islywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn aelod o gorff llywodraethu'r Eglwys yng Nghymru. Bu'n llywydd ar Gymdeithas Dafydd ap Gwilym. Bu'n aelod o Gyngor yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd yn 1973.
Deilir archif o'i bapurau gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dolenni allanol
golygu- Bywgraffiad byr a manylion yr archifau Archifwyd 2011-06-05 yn y Peiriant Wayback