Cynghanedd bengoll

Mewn barddoniaeth gaeth, ceir cynghanedd bengoll pan na fo gair neu eiriau ar ddiwedd llinell yn rhan o'r gyfatebiaeth gynganeddol. Nid yw cynghanedd bengoll yn gynghanedd gywir yn ôl rheolau heddiw ag eithrio'r gyfatebiaeth rhwng gair cyrch ac ail linell englyn unodl union ac englyn penfyr.

Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Pan fo cynghanedd groes neu gynghanedd draws yn cael ei defnyddio rhwng gair cyrch ac ail linell englyn unodl union neu englyn penfyr, mae gair neu eiriau olaf yr ail linell yn bengoll; hynny yw; nid ydynt yn rhan o'r gyfatebiaeth gynganeddol. Dyma enghraifft, sef englyn adnabyddus Dewi Emrys i'r Gorwel, gyda'r geiriau pengoll wedi'i duo:

Wele rith fel ymyl rhod - o'n cwmpas,
Campwaith dewin hynod...

Yma, nid yw dewin hynod yn rhan o'r gynghanedd, ond mae'n cynnal y brifodl od.

Pan ddefnyddir y Gynghanedd Sain rhwng y gair cyrch a'r ail linell, fe'i cynganeddir yn ddibengoll. Dyma enghraifft o waith John Morris-Jones:

Di fegi bendefigion, - oreugwyr
Uchelwyr, â chalon...

Nid yw'r ail linell yn bengoll yma. Pan ddefnyddir y Gynghanedd Sain Alun, mae'r ail linell yn bengoll, fel yn yr enghraifft hon o waith T. Arfon Williams, Gwastraff, gyda'r rhan bengoll wedi'i duo:

Mae'r ifainc mawr eu hafiaith - aeth Gatraeth
Un tro yn llawn gobaith?

Yng nghyfnod y Gogynfeirdd ac yn gynnar yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr, cenid y gynghanedd sain yn bengoll yn aml, fel y ddwy linell hyn o waith Dafydd ap Gwilym:

Duw a'th gatwo, tro traserch

a

Gwedi cysgu, tru tremyn

Diflannodd y gynghanedd bengoll yn raddol wrth i gyfundrefn y gynghanedd esblygu, ac erbyn cyfnod Tudur Aled, prin iawn yw'r enghreifftiau o'r gynghanedd hon, ac eithrio llinellau fel

Oni chaf a chwi ymddiddan.

Nid yw'r gynghanedd hon yn gywir yn ôl rheolau modern.

Llyfryddiaeth golygu

  • John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1925)
  • Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd (Argraffiad diwygiedig, Cyhoeddiadau Barddas, 2007)

Gweler hefyd golygu