Cyngor Sir De Morgannwg

Cyngor Sir De Morgannwg (Saesneg: South Glamorgan County Council) oedd awdurdod llywodraeth leol a weinyddodd sir De Morgannwg, Cymru rhwng 1974 a 1996.

Cyngor Sir De Morgannwg
Enghraifft o'r canlynolCyngor Sir, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
Daeth i ben31 Mawrth 1996 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1974 Edit this on Wikidata
LleoliadCymru Edit this on Wikidata
OlynyddCyngor Caerdydd Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol 1972. Isrannwyd ur hen sir Morgannwg, gyda Bro Morgannwg a Chaerdydd yn ffurfio De Morgannwg. Daeth Cyngor Sir De Morgannwg i fodolaeth ar 1 Ebrill 1974.[1] Rhannwyd gweinyddiaeth yr ardal ymhellach rhwng y ddau gyngor dosbarth, Cyngor Dinas Caerdydd (Cyngor Caerdydd yn ddiweddarach) a Cyngor Bwrdeistref Bro Morgannwg (Cyngor Bro Morgannwg yn ddiweddarach).[2]

Cyngor Sir Morgannwg oedd yr unig enghraifft yng Nghymru a Lloegr o gyngor yn cael ei rannu, yn hytrach na'i gyfuno.[3] Bwriad y Blaid Lafur, pe bai wedi ennill etholiad cyffredinol 1970, oedd rhannu Morgannwg yn Nwyrain a Gorllewin. Fodd bynnag, trechodd y Blaid Geidwadol yn yr etholiad a bwrw ymlaen i rannu'r sir yn dair, gan obeithio y byddai De Morgannwg yn dod yn weinyddiaeth a reolir gan y Torïaid.[4]

Disgrifiad

golygu

Roedd y cyngor newydd yn cynnwys 80 o gynghorwyr, yn cynrychioli wardiau yn y Barri, Caerdydd, Caerdydd Gwledig, y Bont-faen a Phenarth.[1] Roedd ei bencadlys mewn adeilad ar Ffordd Casnewydd, Caerdydd,[5] nes i Neuadd y Sir gael ei hadeiladu yn Atlantic Wharf ym 1986.

Er gwaethaf y gobeithion y byddai De Morgannwg yn ethol gweinyddiaeth Geidwadol, enillodd y Blaid Lafur fwyafrif ym 1974. Daliodd Llafur y cyngor rhwng 1974 a 1977 ac o 1981 i 1996, gyda’r Ceidwadwyr yn dal pŵer am y pedair blynedd yn y cyfamser.[6]Emyr Currie-Jones oedd Cadeirydd cychwynnol y Cyngor rhwng 1973 a 1975.[7] Arweiniodd y Parch Bob Morgan (tâd y gwleidydd Eluned Morgan) y weinyddiaeth Lafur o 1982, nes i Jack Brooks gymryd yr awenau ym 1989.[8] Daeth Russell Goodway yn arweinydd y cyngor ym 1992, yn 35 oed yn arweinydd cyngor ieuengaf y DU ar y pryd.[9]

Party in control[10] Years
Llafur 1974 - 1977
Ceidwadwyr 1977 - 1981
Llafur 1981 - 1996

Diddymu

golygu

Peidiodd Cyngor Sir De Morgannwg â bod yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996, a ddisodlwyd gan awdurdodau unedol Caerdydd, a Bro Morgannwg.

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 South Glamorgan/De Morgannwg: Directory of Services. South Glamorgan County Council. March 1975.
  2. Stewart Williams (Ed.), The Cardiff Book: Volume I., Stewart Williams Publishers (1973), p. 8. ISBN 0-900807-05-9.
  3. Capital Cardiff 1975–2020, "Chapter 3: Governing Cardiff: politics, power and personalities", p. 31
  4. Capital Cardiff 1975–2020, "Chapter 3: Governing Cardiff: politics, power and personalities", p. 32
  5. "Jack Brooks", South Wales Echo, 25 February 2005. Retrieved 2013-05-04.
  6. Hooper, Alan; Punter, John (2006). Capital Cardiff 1975-2020: Regeneration, Competitiveness and the Urban Environment. University of Wales Press. tt. 34–35. ISBN 0-7083-2063-5.
  7. "Obituary: Emyr Currie-Jones". South Wales Echo. 2 December 2008. Cyrchwyd 2019-08-26.
  8. "The Reverend Bob Morgan". The Telegraph. London. 8 January 2012. Cyrchwyd 2018-11-10.
  9. Hooper, Alan; Punter, John (2006). Capital Cardiff 1975-2020: Regeneration, Competitiveness and the Urban Environment. University of Wales Press. t. 37. ISBN 0-7083-2063-5.
  10. Capital Cardiff 1975–2020, "Chapter 3: Governing Cardiff: politics, power and personalities", p. 35
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.