Siroedd cadwedig Cymru
Siroedd cadwedig Cymru yw'r ardaloedd cyfredol a ddefnyddir yng Nghymru at ddibenion seremonïol Rhaglawiaeth a Siryfiaeth. Maent yn seiliedig ar y siroedd a grëwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a ddefnyddiwyd ar gyfer llywodraeth leol a dibenion eraill rhwng 1974 a 1996.
Siroedd Cadwedig (Cymru) | |
---|---|
Categori | Ardal Rhaglawiaeth |
Lleoliad | Cymru |
Crëwyd gan | Deddf Llwyodraeth Leol (Cymru) 1994 (c. 19) |
Crëwyd | 1 Ebrill 1996 |
Nifer | 8 (ar ôl 2008) |
Defnydd
golyguDiddymodd Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 yr wyth sir seremonïol a grëwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Fodd bynnag, mae'n creu'r cysyniad o siroedd cadwedig yn seiliedig ar eu hardaloedd, i'w defnyddio at ddibenion megis Rhaglawiaeth. Roedd hyn yn ddefnydd gyfunol gan Ddeddf Rhaglawiaeth 1997.[1]
Cafodd statudau penodol a oedd mewn grym eu diwygio i gynnwys cyfeiriad atyn nhw:
- Deddf Siryfion 1887 (c. 55) - Y siroedd y penodir Uchel Siryfion iddynt yw'r siroedd cadwedig.
- Deddf Amddiffyn 1842 (c. 94) - Rhaglawiaid yw'r rhai a benodir i'r siroedd cadwedig.
- Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 (c. 83) - ystyrir bod y rhannau perthnasol o lan y môr o fewn siroedd cadwedig.
Newidiadau Ffinau
golyguRoedd y siroedd cadwedig yn wreiddiol bron yn union fel siroedd 1974-1996, ond gydag ychydig o newidiadau mân er sicrhau bod siroedd cadwedig yn cynnwys prif ardaloedd cyfan. Cafodd Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin a Llangedwyn eu trosglwyddo o Glwyd i Bowys, a chafodd Y Wig, Saint-y-brid, Ewenni a Phentyrch eu trosglwyddo o Forgannwg Ganol i Dde Morgannwg. Fodd bynnag, mae'r newidiadau hyn yn dal i adael dwy fwrdeistref sirol, Conwy a Chaerffili wedi eu rhannu rhwng siroedd cadwedig.
Er mwyn cywiro hyn, gwnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2] ddau newid o sylwedd i'r ffiniau. Daeth y newidiadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2003. Cafodd rhan o'r ardal llywodraeth leol o Gonwy a oedd wedi bod yng Ngwynedd ei drosglwyddo i Glwyd, a rhan o'r ardal llywodraeth leol o Gaerffili a oedd wedi bod ym Morgannwg Ganol ei throsglwyddo i Went. Cafodd y ffin rhwng Morgannwg Ganol a De Morgannwg hefyd ei ail-lunio i adlewyrchu newidiadau bychan mewn ffiniau llywodraeth leol. Mae pob sir gadwedig yn awr yn cynnwys rhwng un a phump o ardaloedd llywodraeth leol cyfan.
Newidiwyd y ffin rhwng Morgannwg Ganol ar 1 Ebrill 2010 i adlewyrchu'r newidiadau yn 2009 i ffiniau llywodraeth leol yn ardal Faenor.[3]
Rhestr o Siroedd Cadwedig
golyguMae'r ffigurau poblogaeth yn amcangyfrifon canol-blwyddyn ar gyfer 2007 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn grwpio ffigurau awdurdodau unedol yn eu siroedd cadwedig priodol.[4]
Enw | Yn cynnwys | Arwynebedd (km²) | Poblogaeth |
---|---|---|---|
Clwyd | Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam | 2,910 | 491,100 |
Dyfed | Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro | 5,780 | 375,200 |
Gwent | Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen | 1,553 | 560,500 |
Gwynedd | Gwynedd, Ynys Môn | 3,262 | 187,400 |
Morgannwg Ganol | Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf | 781 | 423,200 |
Powys | Powys | 5,196 | 132,000 |
De Morgannwg | Caerdydd, Bro Morgannwg | 475 | 445,000 |
Gorllewin Morgannwg | Castell-nedd Port Talbot, Abertawe | 820 | 365,500 |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golyguSiroedd Deddf Rhaglawiaethau 1997
Clwyd •
Dyfed •
Gwent •
Gwynedd •
Morgannwg Ganol •
Powys •
De Morgannwg •
Gorllewin Morgannwg