Emyr Currie-Jones

Gwleidydd a chyfreithwr o Gymro

Roedd Emyr Currie-Jones CBE (17 Ionawr 191713 Hydref 2008) yn gyfreithiwr a gwleidydd lleol y Blaid Lafur yng Nghaerdydd. Roedd yn Gadeirydd Cyngor Sir De Morgannwg ac yn adnabyddus am ei rôl yn cyflwyno addysg Gymraeg yng Nghaerdydd. Fe’i disgrifiwyd fel “enghraifft ragorol o gynghorydd lleol a lywiodd addysg gyfrwng Cymru trwy lawer o storm wleidyddol.”[1]

Emyr Currie-Jones
Ganwyd17 Ionawr 1917 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
Bu farw13 Hydref 2008 Edit this on Wikidata
Ysbyty Athrofaol Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Currie-Jones ar 17 Ionawr 1917 yng Nghaernarfon, i Grace Currie a Lewis Jones.[2] Roedd yn siaradwr Cymraeg rhugl ac aeth i Ysgol Sir Gaernarfon cyn graddio o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, [2] lle rhannodd lety gyda D. Myrddin Lloyd,[3] a'r awdur adnabyddus, Emyr Humphreys.[2].[4] Yn dilyn hynny daeth Currie-Jones yn gyfreithiwr yng Nghaerdydd. Priododd â Mary Catherine Jones.[2]

Gyrfa gyfreithiol

golygu

Daeth Currie-Jones yn gyfreithiwr yng Nghaerdydd ac roedd yn erlyn cyfreithiwr i Gyngor Dinas Caerdydd rhwng 1950 a 1955.[5] Daeth yn bartner yn y cwmni cyfreithiol, Rees, Currie-Jones, Davies ac Evans, a leolir yn Arcêd y Castell ac roedd hefyd yn llywydd Cymdeithas Cyfraith Caerdydd a'r Cylch. Ymddeolodd o'r arfer cyfreithiol ym 1987.[5]

Gwleidyddiaeth a gwasanaeth cyhoeddus

golygu

Etholwyd Currie-Jones yn gynghorydd Llafur ar Gyngor Dinas Caerdydd ym 1966,[1] gan ddod yn Gadeirydd y Pwyllgor Addysg, gan golli ei sedd cyngor wedi hynny ond cael ei ailethol ym 1971 ar gyfer ward Cathays.[6] Ar ôl creu De Morgannwg, daeth Currie-Jones yn Gadeirydd cyntaf Cyngor Sir De Morgannwg, rhwng 1973 a 1975.[7] Cynrychiolodd ward Cathays rhwng 1973 a 1977, gan golli ei sedd yn etholiad 1977.[8] Cafodd ei ailethol i Gyngor wardiau "Trelái ac Ely" rhwng 1981 a 1989.[5]

Fel Cadeirydd y Pwyllgor Addysg ar Gyngor Dinas Caerdydd llwyddodd i osod y sylfaen ar gyfer ysgol Gymraeg gyntaf Caerdydd, Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Yn erbyn gwrthwynebiad cryf i'r syniad, perswadiodd Undeb Cenedlaethol yr Athrawon (NUT) a llefarydd y Ceidwadwyr ar y Gymraeg, i'w gefnogi.[1]

Dyfarnwyd CBE iddo yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 1976 am wasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol yn Ne Cymru.

Roedd yn Gristion o ran ffydd ac yn ddiacon ac ysgrifennydd yng Nghapel Minny Street, Caerdydd. Roedd hefyd yn heddychwr gydol ei oes.[9]

Roedd Currie-Jones hefyd yn aelod o Gyd-bwyllgor Addysg Cymru, Cyngor Coleg Prifysgol Caerdydd a Chyngor yr Iaith Gymraeg.[5] Roedd yn gaderydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Caerdydd 1978 [10] ac roedd yn Llywydd anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol Cymru pan ddaeth i Gaerdydd yn 2008, hefyd yn Gadeirydd y pwyllgor trefnu.[11]

Roedd yn aeod o lys Llywodraethwyr Prifysgol Abertawe, Cyngor Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru, Llys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.[10]

Gwaith gwirfoddol

golygu

Bu'n gwasanaethu'n wirfoddol yn y Dwyrain Canol a'r Eidal gyda mudiad Cronfa Achub y Plant a'r UNRRA (United Nations Relief and Rehabilitation Administration).[2] Roedd yn gefnogwr o Urdd Gobaith Cymru a chyfrannodd £3,000 yn ei cymunrodd i'r mudiad.[12]

Bu farw Currie-Jones ar 13 Hydref 2008, yn 91 oed.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Huw Thomas; Colin H. Williams, eds. (2013), "Political Power in Cardiff Council", Parents, Personalities and Power: Welsh-medium Schools in South-east Wales, University of Wales Press, pp. 143-144, ISBN 978-0-7083-2584-1, https://books.google.co.uk/books?id=IFeuBwAAQBAJ&pg=PA144#v=onepage&q&f=false
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Un o'r 'hoelion wyth' yn marw". BBC Cymru (yn Welsh). 16 November 2008. Cyrchwyd 26 August 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. https://books.google.co.uk/books?id=WUWuBwAAQBAJ&pg=PA223&lpg=PA223&dq=Emyr+Currie-Jones&source=bl&ots=DwCTuVYpHq&sig=ACfU3U3A37HxQiFHwW2r8punGlYbU64A7g&hl=cy&sa=X&ved=2ahUKEwiXoIHnjIXlAhXkoFwKHW_fBlE4ChDoATADegQICBAE#v=onepage&q=Emyr%20Currie-Jones&f=false
  4. M. Wynn Thomas (2018), Emyr Humphreys, University of Wales Press, p. 10, ISBN 978-1-78683-297-9, https://books.google.co.uk/books?id=p-yVDwAAQBAJ&pg=PA10#v=onepage&q&f=false
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 "Obituary: Emyr Currie-Jones". South Wales Echo. 2 December 2008. Cyrchwyd 26 August 2019.
  6. "Labour landslide turns Town Hall tables". South Wales Echo. 14 May 1971. t. 13. Labour's gains in Cardiff will bring back some familiar faces to the council chamber... the former Labour chairman of the Education Committee, Coun. Emyr Currie-Jones, ousted one of the Tory whips, Mr Herbert Nunn, in Cathays.
  7. "South Glamorgan County Council Election Results 1973-1993" (PDF). The Elections Centre (Plymouth University). Cyrchwyd 27 August 2019.
  8. "South Glamorgan County Council Election Results 1973-1993" (PDF). The Elections Centre (Plymouth University). Cyrchwyd 27 August 2019.
  9. http://dinesydd.cymru/blw2008/dinesydd333p.pdf[dolen farw]
  10. 10.0 10.1 https://obitresearch.medill.northwestern.edu/2009/11/13/obituaries-in-wales-are-just-so-different/index.html[dolen farw]
  11. "2008: 'Y bylchau yn y wal'". BBC Online (yn Welsh). 31 December 2008. Cyrchwyd 28 August 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)
  12. https://www.urdd.cymru/files/6014/1690/8522/AdolygiadBlynyddol2009-2010.pdf

Dolenni allanol

golygu