Cynhadledd eglwysig ym 1661 oedd Cynhadledd Savoy a gynhaliwyd yn Ysbyty'r Savoy, Llundain, gan esgobion Eglwys Loegr a gweinidogion Presbyteraidd, i'r diben o gael allan pa faint y gofynnid i'r blaenaf ei ganiatáu er boddloni y diweddaf yn sgil yr Adferiad, a disgwylid i hynny "arwain i undeb ac unffurfiaeth drwy yr holl deyrnas".

Cynhadledd Savoy
Ysbry'r Savoy, 1747

Trefn golygu

Cyfarfu deuddeg o glerigwyr, gyda naw o gynorthwywyr diwinyddol, o naill ochr a'r llall yn y Savoy, a safasai rhwng y Strand a glannau Afon Tafwys, dan gadeiryddiaeth Gilbert Sheldon, Esgob Llundain, a fyddai'n gael ei ddyrchafu'n Archesgob Caergaint ym 1663. Canolbwynt y gynhadledd oedd cael cytundeb rhwng y ddwy blaid ar ddiwygiadau i'r Llyfr Gweddi Cyffredin. Chwalodd y trafodaethau ac yng Ngorffennaf 1661 cyhoeddodd y cynrychiolwyr "na allent ddod i unrhyw gytgord". O ganlyniad, fe wnaeth y mwyafrif o Biwritaniaid wrthgilio o Eglwys Loegr, a dilynwyd yr ymgais aflwyddiannus hwn i wneud ymheddychiad gan Ddeddf Unffurfiaeth 1662, pryd y gorfodwyd dwy fil o glerigwyr yr Eglwys Sefydledig i droi allan ohoni.

Cyd-destun golygu

 
Argraffiad 1662 o'r Llyfr Gweddi Gyffredin Saesneg, (argraffiad 1760) un o'r rhesymau dros y Gynhadledd

Yr oedd Eglwys Loegr mewn sefyllfa hynod anhrefnus am yr ysbaid o amser y bu Oliver Cromwell a'i fab Richard yn Arglwyddi Amddiffynyddion y Werinlywodraeth (1649–60). Yr oedd y mwyafrif o'r clerigwyr a ddalient swydd yn nhymor boreuaf Rhyfeloedd Cartref Lloegr (1642–51) yn bleidiol iawn i frenhiniaeth, a throwyd hwynt allan, neu ddihangasant, yn sgil buddugoliaeth achos y senedd. Cymerwyd eu lleoedd mewn llawer o amgylchiadau gan Bresbyteriaid selog, corff lled luosog yn Lloegr ar y pryd, ac o'r herwydd, ar adferiad y Brenin Siarl II, yr oedd cryn nifer o weinidogion o fewn yr eglwys yn wrthwynebol i ddwyn yn ôl iddi'r drefn esgobyddol. Gwyddai y Brenin Siarl hyn, a chan ei fod yn awyddus, i raddau, i osgoi mesurau llymion, pe y gellid eu gochelyd, anfonodd freintlythyrau allan, a phenododd ddeuddeg o esgobion, a naw o glerigwyr fel cynorthwywyr ar yr ochr esgobaethol, i gyfarfod yr un nifer o ddiwinyddion Presbyteraidd i ymgynghori ynghylch y Llyfr Gweddi Cyffredin a'i adolygu.

Ymysg y dirprwywyr esgobaethol yr oedd Accepted Frewen, Archesgob Efrog; Gilbert Sheldon, Esgob Llundain;[1][2] a John Gauden, Esgob Caerwysg; ac ymhlith eu cynorthwywyr yr oedd y doctoriaid Peter Heylyn, John Pearson, a Thomas Pierce. Ymysg y rhai enwocaf o'r cynrychiolwyr o'r ochr arall yr oedd Richard Baxter, y Dr John Wallis, Edmund Calamy, William Spurstowe, a Mathew Newcomen.

Canlyniad golygu

Agorwyd y gynhadledd, yr hon a barhaodd am bedwar mis, ar 13 Ebrill 1661. Yn ôl Burnet, yr oedd y Presbyteriaid yn hawlio ar fod cynllun yr Archesgob James Ussher o "adferiad esgobyddiaeth", yn yr hwn yr oedd elfennau'r gyfundrefn Albanaidd o henaduriaethau, synodau, a chymanfaoedd yn cael eu cyfuno gyda'r gwahaniaethau mewn swyddogaethau eglwysig, yn cael ei wneud yn sylfaen i ddechrau gweithio. Hawlient hefyd ar fod i'r ail adroddiadau neu'r atebion yn y gwasanaeth cyhoeddus gael eu rhoddi heibio; ar fod i'r gweddïau yn y litani i gael eu cyfuno yn un; na byddai un o'r llithoedd i gael eu cymryd o'r Apocryffa; fod i'r salmau a ddarllenid yn y gwasanaeth dyddiol i fod yn ôl y cyfieithiad newydd; fod y term "ailanedig" (ymysg eraill) yn cael ei dynnu allan o'r gwasanaeth bedyddiol; a bod arfer y wenwisg, y groes yn y bedydd, a defnyddio tadau a mamau bedydd, a dyddiau'r gwyliau, yn cael eu troi heibio.

Mewn atebiad, mynegid iddynt nad oedd gan y ddirprwyaeth un awdurdod i ymdrin â chwestiynau yn dwyn perthynas â llywodraethiad yr eglwys – y fath ag oedd yn gynwysedig yng nghynllun yr Archesgob Ussher; ac ar hynny aethpwyd i ystyried pynciau a dybid yn fwy dibwys i'w cyfnewid yn y ffurfwasanaeth. Tynnodd Baxter allan, trwy gydsyniad ac ar gais ei blaid, Ffurfwasanaeth Diwygiedig, ar yr hwn nid edrychai y dirprwywyr esgobaethol, gan y tybient fod ymwrthod â'r hen un yn beth nad oedd ganddynt hawl i'w wneuthur. O'r diwedd, ymwahanodd y pleidiau heb ddyfod i un math o benderfyniad. Adferwyd yr esgobion yn Nhŷ'r Arglwyddi, a Ni wnaeth y Llyfr Gweddi diwygiedig fawr ddim i leddfu cydwybodau'r Piwritaniaid. Daeth diwedd felly ar y breuddwyd o eglwys gyfun yn Nheyrnas Lloegr.

Cyfeiriadau golygu

  1. Bosher, Robert S. (1957). The Making of the Restoration Settlement: The Influence of the Laudians, 1649-1662 (yn Saesneg). Dacre Press. t. 226.
  2. Seaward, Paul (2003). The Cavalier Parliament and the Reconstruction of the Old Regime, 1661-1667 (yn Saesneg). Cambridge University Press. t. 166. ISBN 978-0-521-53131-3.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.