Cystadleuaeth Cân Eurovision 1969

cystadleuaeth cerddoriaeth Ewropeaidd

Cystadleuaeth Cân Eurovision 1969 oedd y 14eg Cystadleuaeth Cân Eurovision. Cynhaliwyd y gystadleuaeth ym Madrid, Sbaen wedi i'r wlad ennill y gystadleuaeth 1968 gyda'r gân "La La La" gan Massiel.

Cystadleuaeth Cân Eurovision 1969
Dyddiad(au)
Dyddiad29 Mawrth 1969
Cynhyrchiad
Lleoliad
CyflwynyddionLaurita Valenzuela
DarlledwrTelevisión Española (TVE)
Cyfarwyddwyd ganRamón Díez
Cystadleuwyr
Nifer16
Dangosiad cyntafDim
DychweliadauDim
Tynnu'n ôlBaner Awstria Awstria
Canlyniadau
System pleidleisioRoedd beirniaid deg aelod gan bob wlad yn rhannu deg pwynt ymhlith eu hoff caneuon.
Cân fuddugol
◀1968   Cystadleuaeth Cân Eurovision   1970▶

Mae'r gystadleuaeth 1969 yn adnabyddus am ei phedwar enillydd, sef Sbaen gyda "Vivo cantando" gan Salomé, Y Deyrnas Unedig gyda "Boom Bang-a-Bang" gan Lulu, Yr Iseldiroedd gyda "De troubadour" gan Lenny Kuhr, a Ffrainc gydag "Un jour, un enfant" gan Frida Boccara. Nid oedd rheolau'r gystadleuaeth ar y pryd yn ystyried y posibilrwydd o dorri cyfartaledd, felly penderfynwyd bod y pedair gwlad yn gyd-ennillwyr.[1] Ni fydd angen torri cyfartaledd eto hyd at y gystadleuaeth 1991.

Enillodd Ffrainc am y pedwerydd tro, a oedd yn record ar y pryd. Enillodd yr Iseldiroedd am y drydedd tro, gyda Sbaen a'r Deyrnas Unedig yn ennill am yr eildro wrth i Sbaen fod y wlad gyntaf i ennill dau Eurovision yn olynol.

Cystadleuwyr golygu

Cymerodd 16 gwlad ran yn y gystadleuaeth ond bu Awstria yn absennol.[1] Nid oedd unrhyw newidiadau eraill o ran gwledydd yn cystadlu am y tro cyntaf, tynnu'n ôl neu ddychwelyd i'r gystadleuaeth.

Cymru golygu

Roedd yna ymgais gan BBC Cymru i gystadlu yn y gystadleuaeth o dan faner Cymru gyda chân Gymraeg. Fe ddatblygwyd Cân i Gymru i ddewis y gân a pherfformiwr ar gyfer Eurovision, ond yn anffodus penderfynwyd nad oedd modd i'r BBC anfon dau berfformiwr i'r gystadleuaeth.[2]

Ennillodd Margaret Williams Gân i Gymru 1969 gyda'r gân "Y Cwilt Cymreig".

Canlyniadau golygu

Canlyniadau'r Gystadleuaeth Cân Eurovision 1969[1]
Trefn Gwlad Artist Cân Iaith Safle Pwyntiau
01   Iwgoslafia Ivan "Pozdrav svijetu" Serbo-Croateg 13 5
02   Lwcsembwrg Romuald "Catherine" Ffrangeg 11 7
03   Sbaen Salomé "Vivo cantando" Sbaeneg 1 18
04   Monaco Jean Jacques "Maman, Maman" Ffrangeg 6 11
05   Iwerddon Muriel Day "The Wages of Love" Saesneg 7 10
06   Yr Eidal Iva Zanicchi "Due grosse lacrime bianche" Eidaleg 13 5
07   Y Deyrnas Unedig Lulu "Boom Bang-a-Bang" Saesneg 1 18
08   Yr Iseldiroedd Lenny Kuhr "De troubadour" Iseldireg 1 18
09   Sweden Tommy Körberg "Judy, min vän" Swedeg 9 8
10   Gwlad Belg Louis Neefs "Jennifer Jennings" Iseldireg 7 10
11   Y Swistir Paola del Medico "Bonjour, Bonjour" Almaeneg 5 13
12   Norwy Kirsti Sparboe "Oj, oj, oj, så glad jeg skal bli" Norwyeg 16 1
13   Yr Almaen Siw Malmkvist "Primaballerina" Almaeneg 9 8
14   Ffrainc Frida Boccara "Un jour, un enfant" Ffrangeg 1 18
15   Portiwgal Simone de Oliveira "Desfolhada portuguesa" Portiwgaleg 15 4
16   Y Ffindir Jarkko a Laura "Kuin silloin ennen" Ffinneg 12 6

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Madrid 1969". eurovision.tv. Cyrchwyd 2024-04-16.
  2. "Can i Gymru". ukgameshows.com. Cyrchwyd 2024-04-16.