Cytundeb Penmachno
Lluniwyd Cytundeb Penmachno (neu Lythyr Penmachno) yng Ngwynedd ar 19 Rhagfyr 1294 gan Fadog ap Llywelyn ac eraill ar anterth ei ymgyrch yn erbyn Edward I a'i oresgynwyr Seisnig. Pwysigrwydd y ddogfen ydyw'r ffaith fod ei awdur, Madog ap Llywelyn yn defnyddio'r teitl 'Tywysog Cymru, Arglwydd Eryri'; dyma ystîl Tywysogion Gwynedd ers teyrnasiad Llywelyn Fawr.
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
---|
Cytundeb i drosglwyddo dau glwt o dir i berson o'r enw Bleddyn Fychan ydy'r ddogfen, a adnabyddir fel Cytundeb Penmachno.
Gwŷr mawr yn ymffurfio'n ddarpar Llywodraeth
golyguArwyddwyd y cytundeb gan wŷr mawr y genedl, gan gynnwys Ednyfed Fychan, sef distain (seneschal) llys Teyrnas Gwynedd, a wasanaethai Llywelyn Fawr fel ei ganghellor.
Un arall o awduron y dogfen oedd Tudur ap Goronwy sy'n cael ei ddisgrifio fel "ein swyddog". Mae'n ymddangos drwy'r ddogfen hon fod Madog wedi ail-grynhoi at ei gilydd llywodraeth potensial pe bai ei wrthyryfel wedi bod yn llwyddiannus.
Ond er iddynt gipio nifer o gestyll a llosgi nifer o fwrdeistrefi Seisnig gan gynnwys Caernarfon, Rhuthun a Dinbych, roedd byddin Edward I yn rhy gryf i Fadog ac fe'i garcharwyd yn Nhŵr Llundain, ac ni throsglwyddwyd y tir i Fleddyn Fychan gan i'r goresgynwyr Seisnig gymeryd y tir - a llawer iawn o diroedd eraill drwy Gymru.
Gweler hefyd
golygu- Madog ap Llywelyn
- Teyrnas Gwynedd
- Cytundeb Middle, 1234
- Cytundeb Trefaldwyn, 29 Medi 1267
- Cytundeb Aberconwy, 1277
Ffynhonnell
golygu- Cledwyn Fychan, 'Bleddyn Fychan a Gwrthryfel Madog ap Llywelyn, 1294-5', Transactions of the Denbighshire Historical Society Vol. 49, pp. 15–22 (2000).
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan 'Medieval News