Cywyddau Iolo Goch ac Eraill
Golygiad o waith Iolo Goch a beirdd eraill, golygwyd gan Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams, yw Cywyddau Iolo Goch ac Eraill. Gwasg Prifysgol Cymru a gyhoeddodd y gyfrol yn 1937; cafwyd argraffiad newydd ar 01 Hydref 1979. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Golygydd | Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams |
Awdur | Iolo Goch ac eraill |
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Pwnc | Astudiaethau Llenyddol |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9780708304778 |
Genre | Llenyddiaeth Gymraeg |
Disgrifiad
golyguMae'r gyfrol hon yn cynnwys golygiadau o gywyddau gan Iolo Goch, Gruffudd Llwyd, Rhys Goch Eryri, Llywelyn ab y Moel, Siôn Cent, Sypyn Cyfeiliog, Iorwerth ab y Cyriog, Ieuan ap Rhydderch a Ieuan Waed Da. Beirdd yr Uchelwyr o'r 15g ydy'r beirdd hyn i gyd. Ar un adeg roedd y gyfrol yn olygiad safonol o waith y beirdd hyn ond bellach mae golygiadau diweddarach ar gael, sef golygiad yr Athro Dafydd Johnston o Waith Iolo Goch a'r gyfres newydd Cyfres Beirdd yr Uchelwyr.
Ceir rhagymadrodd, golygiadau o waith y beirdd unigol wedi'u trefnu dan eu henwau, nodiadau, geirfa a mynegai.