Owain Waed Da

(Ailgyfeiriad o Ieuan Waed Da)

Un o Feirdd yr Uchelwyr oedd Owain Waed Da (bl. ail hanner y 14g a dechrau'r ganrif olynol). Fe'i gelwir hefyd yn 'Ieuan Waed Da' gan Syr Ifor Williams ac eraill, ond gwyddom bellach mai 'Owain' oedd ei enw.[1]

Owain Waed Da
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Mae'n bosibl mai brodor o gwmwd Eifionydd, Gwynedd oedd Owain, a cheir dau gywydd ganddo sy'n ei gysylltu â'r cwmwd hwnnw. Ond mae Guto'r Glyn yn ei gywydd moliant i dref Croesoswallt yn gyfeirio at ŵr o'r enw Owain Waed Da fel bardd o'r cyfnod blaenorol a oedd yn fwrdais yn y dref honno. Gan fod yr enw mor brin mae bron yn sicr mai'r un gŵr a olygir ac mae'n bosibl felly fod Owain wedi ymsefydlu yng Nghroesoswallt yn nes ymlaen yn ei yrfa.[1]

Cerddi

golygu

Mae'r ddau gywydd o waith Owain a gedwir yn gerddi moliant i Ieuan ab Einion a'i bedwar mab. Bu Ieuan ab Einion yn Siryf Sir Gaernarfon yn 1385-90 ac a gefnogodd wrthryfel Owain Glyn Dŵr; cyfeirir at Gastell Gricieth yn y gerdd i Ieuan a'i bedwar mab, sy'n cryfhau'r cysylltiad ag Eifionydd. Cywydd moliant i Madog ab Ieuan ab Einion yw'r ail gerdd.[1]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Owain Waed Da', yn Gwaith Madog Benfras ac eraill o feirdd y bedwaredd ganrif ar ddeg (Aberystwyth, 2007).

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Barry J. Lewis (gol.), 'Gwaith Owain Waed Da'.