Daeargryn Llŷn 1984

Tarwyd Penrhyn Llŷn yng Ngwynedd, gogledd-orllewin Cymru, gan Ddaeargryn Llŷn 1984 ddydd Iau 19 Gorffennaf 1984 am 06:56 UTC (07:56 BST). Mesurodd 5.4 ar raddfa Richter, a hwn yw'r daeargryn mwyaf i ddigwydd ar dir y DG ers dechrau cadw cofnodion peirianyddol.[1][2]

Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolDaeargryn Edit this on Wikidata
Dyddiad19 Gorffennaf 1984 Edit this on Wikidata
LleoliadY Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon, Penrhyn Llŷn Edit this on Wikidata
GwladwriaethY Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Teimlid yr effeithiau dros Gymru benbaladr, y rhan fwyaf o Loegr a rhannau o'r Alban. Cafwyd adroddiadau am fân ddifrod i simneydd a gwaith adeiladu ar draws Cymru a Lloegr, yr effeithiau dwysaf yn cael eu teimlo yn Lerpwl, lleoliad 65 milltir i'r gogledd-ddwyrain o ganolbwynt y ddaeargryn.[2] Bu adroddiadau o fân anafiadau yng nghynefin canolbwynt y daeargryn ac roedd llithriadau cerrig yn Nhremadog yng Ngwynedd.[3]

Fe'u dilynwyd gan nifer o ôl-gryniadau yn y misoedd dilynol, y mwyaf ohonyn nhw yn mesur 4.3 ar raddfa Richter, crynfa ddigon cryf ynddo'i hunan i'w glywed mor bell i ffwrdd a Dulyn, Iwerddon.[4]

ArwyddocadGolygu

Daeargryn Llŷn 1984 oedd crynfa-dir fwyaf y ganrif yn y Deyrnas Gyfunol, ac fe'i teimlwyd dros arwynebedd o 240,000 cilomedr sgwar. Digwyydodd y grynfa yn y gramen isaf ar ddyfnder o 22 cilomedr ac fe'i dilynwyd gan nifer o ôl-gryniadau. Dangosodd mapio manwl i'r ôl-grynfeydd ymestyn y ar blân yn gogwyddo i'r gogledd ogledd-ddwyrain ar gyfeiriad o'r gorllewin gogledd-orllewin - dwyrain de-ddwyrain. Cynrychiola hyn y plân ffawt sy'n cyd-fynd yn dda gydag un o brif blanau'r grynfa er nad oes, fodd bynnag, modd gweld unrhyw ffawt na nodwedd ar yr wyneb sydd yn cydfynd â'r plân hwn.

Dwysedd uchaf y grynfa oedd 6 EMS (European macroseismic scale) a natur y difrod oedd craciau yn ymddangos mewn plastr a chwymp rhai simneau. Ymddengys bod y lefelau EMS uchel a adroddwyd amdanynt yn Lerpwl wedi eu hachosi gan gyflwr gwael llawer o'r adeiladau.

Llygad-dystionGolygu

Gellir cyrchu'r holl gofnodion canlynol drwy adran fapiau gwefan Llên Natur [1]

Ar y prydGolygu

Arawn Jones19/7/1984: Daear Gryn 7.56am Dydd Iau 19 Clir chydig cymylau ar D. Tawch Llwyth gwair dwad 8.15A[M?] Sych (dyddiadur Arawn Jones, Cerrig Gwaenydd)[2]
Roger Redfern ..on 19 Gorffennaf 1984 my late aunt was walking on the golden strand by Bae Ceredigion when the earth shook. Her first reaction was that she must have gone dizzy for a few seconds - the long line of the blue sea and the far hills of Llŷn tilted for a few seconds, the beach under her feet shuddered. Soon everything was back to normal... She`d just experienced at first hand the Llŷn earthquake; with a local magnitude of 5.4 on the Richter scale it was the largest onshore shock of the twentieth century in this country. Across the bay on Llŷn proper the quake caused all sorts of problems, from broken crockery to cracking the arch of the gatehouse of Cefnamwlch, originally put up by John Griffith, MP for Caernarfon, in 1607 as a symbol of his rising local status[5]

O'r cofGolygu

Mae'r ddaeargryn yn y cof poblogaidd erbyn hyn. Yn 2018 cynhaliwyd arolwg ar Grwp Facebook "Cymuned Llên Natur" o atgofion pobl o'r daeargryn 34 o flynyddoedd wedyn ac fe gyhoeddwyd y canlyniadau ym Mwletin misol ar-lein Prosiect Llên Natur [3][4]. Cynhaliwyd arolwg arall yn 2020. Rhestrir y cofnodion yma yn nhrefn eu pellter o Nefyn sef canolbwynt y grynfa.

Sian Evans Cofio hyn fel ddoe! Meddwl mai Mam oedd yn cael ffrae hefo'r 'chester drôrs' 😉 yn y llofft drws nesa imi. Dyma droi rownd yn bwdlyd yn fy ngwely a rhoi'r blanced am fy mhen! Stori hir yn fyr....rhedeg tu allan a gweld y tý yn ysgwyd! Tro cynta, a'r olaf, imi weld dad di dychryn! (Dinas, Edern, Llŷn) 5.8Km
Glenys Mair Roberts ....ac ôlgryniadau yn Llŷn rai wythnosau wedyn - y plant yn y bath gen i a finnau ddim yn siwr a ddylwn redeg allan efo nhw. Craciau yn nheils cegin fy mam yng nghyfraith yn Edern.
Richard Parry Hughes Wrthi'n godro ar gyrrion mynydd Carnguwch lle roeddynt wedi pwyntio cannol y daeargryn, a teimlo y concrid dan fy nhraed yn symud. Gosodwyd offer monitro ar fy nhir gan Brifysgol Caeredin.
Catrin Lliar Jones Yn y gwely bync uchaf yn Llanaelhaearn a Mam wrthi'n y gegin yn rhoi matsien mewn stôf nwy i neud brecwast!
Selwyn Thomas On i yn un o’r rhai yn adeiladu canolfan newydd Trefor, newydd orffan panad barod i fynd allan o cwt, just cyn 8yb dwi meddwl oedd hi
Catherine Pritchard Pawb allan yn eu gwisg nos wrth i mi fynd ir gwaith a llawer o bethau wedi disgyn oddi ar y silffoedd yn Woolworth Pwllheli ble'r oeddwn yn gweithio. Cofio'r cryndod melltigedig pan oeddwn yn codi ac o arolwg 2020 Cofio'n iawn. Bod adra efo fy rhieni yn Sarn [Mellteyrn]. Wrthi'n newid i fynd am fy ngwaith i Woolworth Pwllheli. Rhedeg allan wedi hanner wisgo, methu deallt beth oedd. Mynd i'r gwaith a petha ar y llawr, wedi disgyn oddi ar y silffoedd..
Meira Jones Dreifio fyny stryd Penlan Pwllheli, a rwbel yn landio ar bonat y car -meddwl wnes fod yr adeiladwyr oedd yn toi siop Maggie Ann wedi lluchio peth ar ben y car, ond pan es i mewn i'r parking dros ffordd....... Roedd cydweithiwr yno yn welw ac wedi bod yn dyst i simdda Midlan Bank ddymchwel. Gan mod i yn y car wnes i ddim teimlo'r cryndod
Helen Jones Cofio cydio yn Ffion oedd yn flwydd oed a rhedeg allan, a sylwi ar hèn fyrddyn oedd ar ochor Mynydd y Rhiw yn disgyn a llwch yn codi fel niwl. Bu i ni sylwi ar amryw o graciau yn ymddangos yn waliau y tý ar òl hyn.
Hugh Gwynne Simdde uchel yn disgyn ar Stryd Fawr Cricieth...
Annwen Hughes Cofio clywed y dresal yn ysgwyd ond Diolch ir drefn nath run or platiau glas ddisgyn .Dad allan yn y caeau nath o ddim teimlo na clywed dim. Yn Pontllyfni. cofio hefyd yr after shocks a spio allan trwy ddrws a phob man yn ysgwyd
Keith Jones Wal y ffordd uwchben Penygroes ar Lon Garmel) ochrau Clogwyn Melyn. Y clip drwg lle roedd bus ysgol nedw methu mynd mewn rhew ) o ni yn y gwely pan ddoth ac yn meddwl fod tanc dwr poeth ni wedi ffrwydro. (Newydd weld ffilm am danc stem yn ffrwydro dwi yn meddwl!) Mi roedd yna lun or wal wedi dymchwell yn 'stafell aros Dr JCB Thompson. ac eto yn arolwg 2020: Cofio yn iawn. O ni yn byw ym Mhenygroes. O ni yn meddwl bod y boilar yn mynd i ffrwydro. Wal lon ochrau Clogwyn Melyn (lon Garmel o Benygroes) wedi disgyn gyda’r ysgwyd. Pawb yn y stryd allan yn ei ‘jamas yn edrych yn ddryslyd!
Iwan Williams Cofio pawb allan yn y stryd yn eu pyjamas yn y Groeslon. Amau bod atomfa Traws wedi ffrwydro. Hefyd yn ystod y nifer helaeth o sgil-ddirgryniadau dwi’n cofio clywed y llestri yn ysgwyd ar y ddresel a ffenestri yn ysgwyd.
Meira Owen Cofio'n iawn. Diwrnod cyntaf gwyliau ysgol. Pawb allan yn y stâd wedyn yn meddwl beth oedd wedi digwydd. Teimlad fel trén yn mynd o dan y ddaear! (Bontnewydd.)
Eleri Lewis Yn fy ngwely a cofio clywed y joists yn y to yn gwichian, neindio allan a rhedeg lawr y grisiau ond gadael y plant yn eu gwlau!!! - byth anghofio y dychryn! (Llanfairfechan)
Eirlys Ruhi-Edwards Behi Paratoi i fynd i’r gwaith, tegell ymlaen am banad, clwad swn rhyfedd a rhyw gyffro od. Meddwl bod rhywbeth am ffrwydro yn y tŷ, allan a fi a cwrdd ar postmon ar y pafin, “tremors” medda fo. (Llanfairfechan)
Megan Pritchard Cofio yn iawn drysau y wardrobes yn ysgwyd. Rhedeg lawr grisia meddwl fod rwbath wedi crashio ir ty. Penysarn Sir Fon.
Luned Meredith Clywed sŵn mawr a phopeth yn ratlo. Neidio allan o'r gwely a rhuthro i weld oedd y plant yn iawn. Gymodd funud imi sylweddoli mai effaith daeargryn oedd o. Llanuwchllyn.
Elin Meredith Diwrnod cynta gwyliau haf yr ysgol (ond gweld mai dydd Iau oedd hi, felly falle mod i di cam-gofio hyn?) a chael fy neffro gan y gwely'n bownsio a lluniau'n ysgwyd a chlecio yn erbyn y wal. Ar ol gweld nad oedd na lori di crashio o dan y ty, Trawsfynydd wedi ffrwydro oedd y meddwl nesaf. Cwm Cynllwyd ger Llanuwchllyn.
Eirwyn Williams Hanner lawr y grisiau oeddwn yn meddwl na Taran oedd o ond clywed y ffenestri yn ysgwyd mi nes i feddwl na Deargryn oedd yn digwydd yn Bethesda. Mi oedd yna newydd yn dod trywedd ar y Radio tua 8.15 am bod yna Deargryn wedi digwydd mewn ardaloedd yn Gwynedd.
Duncan Brown Roedden ni yn y ty yn Nyffryn Ardudwy, bron a’i werthu i ddod i Waunfawr. Dyma Mistar Cyfrifol y ty yn rhedeg allan am ei fywyd a gadael ei wraig a’i blentyn ar ei ôl! Nymbar Wan oedd hi o ran greddf - a dysgu i mi rhywbeth am y bod dynol, neu y bod dynol hwn o leiaf! Bu bron i werthiant y ty ddisgyn trwodd gan i’r darpar brynwyr ofyn am ail arolwg ar y tŷ. Yn ffodus doedd y tŷ ddim gwaeth!
Dwynwen Roberts Mam yn meddwl fod na lorri ‘di mynd i mewn i ochor y ty, ar boi yn siop papur Newydd yn poeni fod ‘na “nuclear war” yn cychwyn wrth i nwydda syrthio oddi ar y silffoedd! Yn Llandudno...
Gareth Pritchard Cofio Marian, y wraig, yn gweiddi, “Beth wyt ti wedi wneud rwan?” (Llandudno)
Morwen Rowlands Roeddwn i mewn awyren ar y ffordd i Bortiwgal. Pan ddychwelais adre i Benllech, sir Fôn, mi sylwes ar grac amlwg yn y gwaith brics a ymledai o'r llawr at y silff ben tân. Roedd rhaid ei drin (yswiriant!)
Jackie Willmington Rwyf yn cofio clywed to sinc ysgubor y Ganolfan Bridio Gwartheg yn ratlo a hynny yn Rhuthun.
Rwth Tomos Roeddwn i yn byw yn Wrecsam ar y pryd. Teimlais y ty yn crynu a gweld llestri yn cwympo. Rhedais allan o'r ty gan feddwl fod to wedi disgyn mewn o'r pwllau glo sy'n rhedeg o dan Wrecsam ac un ohonynt (nid oedd neb yn gwybod ei fod yna) wedi cwimpo o dan fy nhy.
Chris Simpkins Me - bed shook and ornaments jumped off shelves! Moore in Cheshire near Warrington. [Dyma gofnod o effaith pell a dderbyniwyd].
Glenys Mair Roberts Cofio ei deimlo hyd yn oed yn y Creigiau, ger Caerdydd

Cofnodon di-leoliadGolygu

Dafydd Richard Hughes Mi graciodd y tŷ, modfedd o fwlch yn y gwaith cerrig a daeth glaw i fewn drwy’r “valley” yn y to. Gwaith mis i ddau i ail addurno tu fewn. Miloedd o gostau ar yswyriant. Y tŷ wedi ei adeiladu ar y graig
Gwyneth Ffrancon Lewis Ydw cofio yn iawn. Fy merch yn dathlu ei phenblwydd yn dair oed a finnau yn disgwyl fy nhrydedd plentyn o fewn chydig wythnosau! Codi o’r gwely a theimlo y llawr yn crynu. Daria y babi yn dod yn gynnar!!! Penblwydd hapus i fy merch Elliw [yn 44!]!
Lis Puw Cofio meddwl fod lori fawr yn dod trwy’r ardd at y tŷ. Bachais Dafydd, yn ddwy oed, o’i wely bach a rhedeg allan yn droednoeth. A rhyfeddu fod pob peth yn edrych yn normal.

CyfeiriadauGolygu

  1. "BGS FAQ What are the largest two instrumental, onshore earthquakes?". BGS. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Hydref 2007. Cyrchwyd 10 Hydref 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 "19 Gorllewin 1984 Lleyn Peninsula". BGS. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-09. Cyrchwyd 10 Hydref 2007.
  3. "USGS Significant earthquakes of the world 1984". USGS. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Hydref 2007. Cyrchwyd 10 Hydref 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Manchester Earthquake Sequence report (Mentions this event)". BGS. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-06. Cyrchwyd 10 Hydref 2007.
  5. A Snowdonia Country Diary (Gwasg Carreg Gwalch)

External linksGolygu