Dai Davies (pêl-droediwr)
Cyn-chwaraewr pêl-droed o Gymro oedd Dai Davies (1 Ebrill 1948 – 10 Chwefror 2021).
Dai Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ebrill 1948 Glanaman |
Bu farw | 10 Chwefror 2021 o canser y pancreas |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Taldra | 190 centimetr |
Pwysau | 85 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | C.P.D. Dinas Abertawe, C.P.D. Wrecsam, C.P.D. Dinas Bangor, Tranmere Rovers F.C., Everton F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, C.P.D. Dinas Abertawe, C.P.D. Dinas Abertawe, C.P.D. Wrecsam |
Safle | gôl-geidwad |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Safle | Golwr | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1969–1970 | Dinas Abertawe | 9 | (0) |
1970–1977 | Everton | 82 | (0) |
1974 | → Dinas Abertawe (ar fenthyg) | 6 | (0) |
1977–1981 | Wrecsam | 144 | (0) |
1981–1983 | Dinas Abertawe | 71 | (0) |
1983–1984 | Tranmere Rovers | 42 | (0) |
1985 | Bangor | ||
1986 | Wrecsam | 0 | (0) |
Tîm Cenedlaethol | |||
1975–1982 | Cymru | 52 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Ganwyd William David 'Dai' Davies yng Nglanaman, ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl. Mynychodd Ysgol Dyffryn Aman, ble roedd yn chwarae pêl-droed a rygbi'r undeb. Hyfforddodd i weithio fel athro ymarfer corff, ond ymunodd gyda C.P.D. Dinas Abertawe yn 1969 yn fuan ar ôl gorffen ei hyfforddiant.
Chwaraeodd fel gôl-geidwad dros glybiau Dinas Abertawe, Everton, Wrecsam, Tranmere Rovers, Bangor a Wrecsam rhwng 1969 a 1987.
Enillodd 52 cap fel gôl-geidwad dros Gymru, ac roedd yn aelod o dîm Cymru pan lwyddasant i drechu Lloegr am y tro cyntaf oddi-cartref ers 1936 ar 31 Mai 1977.[1]
Bywyd personol
golyguRoedd yn byw yn Llangollen [2], ac yn darparu sylwebaeth ar gemau pêl-droed ar S4C yn achlysurol.[3]
Yn Awst 2020, cyhoeddwyd ei fod wedi cael diagnosis o ganser y pancreas ac roedd yn derbyn triniaeth yn Hosbis Tŷ’r Eos yn Wrecsam.[4] Bu farw yn Chwefror 2021.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan BBC (Saesneg)
- ↑ "Stori pêl-droed Cymru - Gwefan S4C". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-11-24.
- ↑ - Gwefan S4C
- ↑ Cyn gôl geidwad Cymru wedi cael diagnosis o ganser y pancreas , Golwg360, 17 Awst 2020.
- ↑ Dai Davies, cyn-golwr Cymru, wedi marw , Golwg360, 10 Chwefror 2021.