Dai Davies (pêl-droediwr)

pêl-droediwr Cymreig (ganwyd 1948)
(Ailgyfeiriad o Dai Davies (pêl-droedwr))

Cyn-chwaraewr pêl-droed o Gymro oedd Dai Davies (1 Ebrill 194810 Chwefror 2021).

Dai Davies
Ganwyd1 Ebrill 1948 Edit this on Wikidata
Glanaman Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 2021 Edit this on Wikidata
o canser y pancreas Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra190 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau85 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auC.P.D. Dinas Abertawe, C.P.D. Wrecsam, C.P.D. Dinas Bangor, Tranmere Rovers F.C., Everton F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, C.P.D. Dinas Abertawe, C.P.D. Dinas Abertawe, C.P.D. Wrecsam Edit this on Wikidata
Saflegôl-geidwad Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata
Dai Davies (pêl-droediwr)
Gwybodaeth Bersonol
SafleGolwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1969–1970Dinas Abertawe9(0)
1970–1977Everton82(0)
1974Dinas Abertawe (ar fenthyg)6(0)
1977–1981Wrecsam144(0)
1981–1983Dinas Abertawe71(0)
1983–1984Tranmere Rovers42(0)
1985Bangor
1986Wrecsam0(0)
Tîm Cenedlaethol
1975–1982Cymru52(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Ganwyd William David 'Dai' Davies yng Nglanaman, ac mae'n siaradwr Cymraeg rhugl. Mynychodd Ysgol Dyffryn Aman, ble roedd yn chwarae pêl-droed a rygbi'r undeb. Hyfforddodd i weithio fel athro ymarfer corff, ond ymunodd gyda C.P.D. Dinas Abertawe yn 1969 yn fuan ar ôl gorffen ei hyfforddiant.

Chwaraeodd fel gôl-geidwad dros glybiau Dinas Abertawe, Everton, Wrecsam, Tranmere Rovers, Bangor a Wrecsam rhwng 1969 a 1987.

Enillodd 52 cap fel gôl-geidwad dros Gymru, ac roedd yn aelod o dîm Cymru pan lwyddasant i drechu Lloegr am y tro cyntaf oddi-cartref ers 1936 ar 31 Mai 1977.[1]

Bywyd personol golygu

Roedd yn byw yn Llangollen [2], ac yn darparu sylwebaeth ar gemau pêl-droed ar S4C yn achlysurol.[3]

Yn Awst 2020, cyhoeddwyd ei fod wedi cael diagnosis o ganser y pancreas ac roedd yn derbyn triniaeth yn Hosbis Tŷ’r Eos yn Wrecsam.[4] Bu farw yn Chwefror 2021.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan BBC (Saesneg)
  2. "Stori pêl-droed Cymru - Gwefan S4C". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-11-24.
  3. - Gwefan S4C
  4. Cyn gôl geidwad Cymru wedi cael diagnosis o ganser y pancreas , Golwg360, 17 Awst 2020.
  5. Dai Davies, cyn-golwr Cymru, wedi marw , Golwg360, 10 Chwefror 2021.