David Bevan Jones (Dewi Elfed)
Bardd, emynydd a gweinidog o Gymru oedd David Bevan Jones (Dewi Elfed) (1807) – 18 Gorffennaf 1863).[1] Roedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr i ddechrau ac wedyn gyda'r Mormoniaid.
David Bevan Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1807 Llandysul |
Bu farw | 18 Gorffennaf 1863 Logan |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Cefndir
golyguGanwyd Dewi Elfed yn Gellifaharen, Llandysul, Ceredigion yn blentyn i John a Hannah Jones. Does dim cofnod o union ddyddiad ei eni ond cafodd ei fedyddio yn Eglwys Dewi Sant, Llandysul ar 30 Gorffennaf 1807 [2] mewn cyfnod pan oedd tuedd i fedyddio plentyn o fewn dyddiau i'w geni.
Gyrfa
golyguEr ei fod wedi ei fedyddio yn Eglwys Loegr ymunodd Dewi Elfed a'i deulu ag enwad y Bedyddwyr yng Nghapel Pen-y-bont Llanfihangel-ar-arth gan dderbyn bedydd oedolyn tua 1822. Ym 1833, fodd bynnag, digwyddodd rhaniad yng nghynulleidfa Pen-y-bont a arweiniodd at sefydlu achos ar wahân yn Ebeneser, Llandysul. Mae'n ymddangos bod teulu Dewi Elfed ymhlith y rhai a symudodd i Ebeneser. Fel aelod o gapel Ebeneser ddechreuodd bregethu. Fe'i hordeiniwyd yn weinidog ar gapeli Crugmaen a'r Cwrtnewydd ar 18 Mehefin, 1841.[3] Ym 1846 derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar gapel Jerwsalem, Rhymni.[4]
Wedi dwy flynedd yn y Rhymni symudodd Dewi Elfed i fugeilio Capel Gwawr, Aberaman. Roedd Capel Gwawr yn un o'r nifer o gapeli a agorwyd gan Thomas Price (Calfaria, Aberdâr) wrth i gynulleidfaoedd y Bedyddwyr tyfu'n aruthrol gyda dyfodiad mewnfudwyr i Gwm Dâr yn sgil twf y fasnach glo. Erbyn cyrraedd Aberaman roedd Dewi Elfed wedi dod o dan ddylanwad Mormoniaeth. Ar 27 Ebrill 1851 cafodd Dewi ei fedyddio yn aelod o'r Mormoniaid yn Afon Cynon a cheisiodd troi Capel y Wawr yn gapel Mormonaidd. Aeth y Bedyddwyr i gyfraith i gael yr adeilad yn ôl. Ym mis Tachwedd 1851, arweiniodd Price orymdaith o Fedyddwyr i Aberaman i adennill yr adeilad. Ar ôl iddynt gyrraedd Gwawr, daeth yn amlwg bod Dewi Elfed wedi cloi ei hun y tu mewn i'r capel, ynghyd ag un o'i gefnogwyr. Dywedodd swyddog llys nad oedd ganddo'r awdurdod i gael mynediad trwy orfodi'r drws. Ond fe lwyddodd Price i gael mynediad i'r adeilad ynghyd ag un o'i diaconiaid. Bu Price yn ymlid Dewi Elfed o amgylch feinciau ac orielau'r capel mewn modd “gwyllt a chyffroes” hyd ei ddal a'i droi allan o'r capel.[5]
Wedi ei droi allan o'r capel ac enwad y Bedyddwyr dechreuodd Dewi Elfed gweithio fel cenhadwr i'r Mormoniaid ym Morgannwg a Gwent a fei a benodwyd yn drysorydd cenhadaeth y sect. 1853 penodwyd Dewi Elfed yn llywydd Cynhadledd Mormoniaid Llanelli, cynhadledd Llanelli oedd y bedwaredd fwyaf yng Nghymru ar y pryd [6] Penodwyd Aneurin Jones, ei fab, yn ysgrifennydd cynhadledd Llanelli. Ym 1854, wedi i'r Capten Dan Jones, Mormon amlygaf Cymru, symud pencadlys y sect o Ferthyr i Abertawe penodwyd Dewi Emlyn yn llywydd cynhadledd Abertawe.[7] Yn Abertawe sefydlodd eisteddfod Formonaidd, lle'r oedd testunau'r holl gystadlaethau yn ymwneud â llwyddiant gwaith y sect ym Morgannwg. Daeth ei lywyddiaeth i ben ym mis Gorffennaf, 1855 pan gafodd ei gyhuddo'n gyhoeddus a’i ysgymuno am gamymddwyn ariannol.[6] Cyn pen blwyddyn cafodd ei adfer yn aelod o Eglwys y Mormoniaid; er na ddaliodd swydd ffurfiol eto yn ei lywodraeth na'i weinyddiaeth, ond parhaodd i bregethu ac i genhadu ym Morgannwg.
Gyrfa lenyddol
golyguYn ôl llyfryn John Davies Llenorion a Llenyddiaeth Ceredigion cyhoeddwyd tair gwaith gan Dewi Elfed:
- Eos Dyssul (1838)
- Can Newydd yn dangos Niweidiau Meddwdod ynghyd a'r budd a'r Lles sydd o lwyrymwrthod a hwynt
- Serch Gerdd a gyfansoddwyd ar daer Dymuniad y sawl y perthynai iddynt ac un neillduawl y Claf o gariad
Dim ond yr olaf sydd dal ar gael.[6] Cafodd nifer o gerddi ac emynau Dewi Emlyn eu cyhoeddi yn Yr Haul a Seren Gomer yn ystod ei gyfnod fel Bedyddiwr ac wedyn yn Udgorn Seion wedi iddo droi at y Mormoniaid.
Teulu
golyguMae cyfrifiad 1851 yn dweud bod Dewi yn briod a gwraig o'r enw Ann a bod ganddynt bump o blant tair merch a ddau fab.[8] Ym 1860 ymfudodd Dewi ei wraig a'i fab a merch ieuengaf i'r America.[1]
Marwolaeth
golyguBu farw o'r diciâu yn Logan, Cache County, Utah Territory yn 54 mlwydd.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Davies, D. L., (1997). JONES, DAVID BEVAN (‘Dewi Elfed’ 1807 - 1863), gweinidog (B ac Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf — Mormoniaid). Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 23 Ion 2020
- ↑ Bedydd David Jones ar wefan Family Search Eglwys Iesu Grist a Saint y Dyddiau Diwethaf adalwyd 23 Ionawr 2020
- ↑ Seren Gomer Cyf. XXIV - Rhif. 311 - Awst 1841 Urddiad adalwyd 23 Ionawr 2020
- ↑ Seren Gomer Cyf. XXIX - Rhif. 374 - Tachwedd 1846 Symudiad Gweinidogion adalwyd 23 Ionawr 2020
- ↑ Evans, Benjamin; Bywgraffiad y diweddar Barchedig T. Price; Aberdâr 1891; tud:109-111 adalwyd 23 Ionawr 2020
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Prifysgol Brigham Young - Welsh Mormon History[dolen farw] adalwyd 23 Ionawr 2020
- ↑ Udgorn Seion Cyf. VII rhif. 28 - Gorffennaf 29 1854 adalwyd 23 Ionawr 2020
- ↑ Yr Archif Genedlaethol. Cyfrifiad Aberdâr 1851 HO107/ 2460; Ffolio: 293; Tudalen: 38
- ↑ "Geni, Marw, Priodi - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1863-08-28. Cyrchwyd 2020-01-23.