David Jones (gwleidydd Cymreig)

gwleidydd Cymreig ac AS

Mae David Jones (ganwyd 22 Mawrth 1952) yn wleidydd Cymreig ac yn aelod o'r Blaid Ceidwadol. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Gorllewin Clwyd yn Etholiad Cyffredin 2005, gyda mwyafrif o dim ond 133 pleidlais, ac ei ailethol yn 2010 a 2015 gyda mwyafrif o fwy na 6000 bob tro. Yn etholiad brys 2017 hanerwyd ei fwyafrif wrth i'r Blaid Lafur gynyddu eu pleidlais yn sylweddol (14%).

Y Gwir Anrhydeddus
David Jones
MP
Gweinidog Gwladol yn yr Adran Dros Adael yr Undeb Ewropeaidd
Yn ei swydd
17 Gorffennaf 2016 – 12 Mehefin 2017
Prif Weinidog Theresa May
Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Yn ei swydd
4 Medi 2012 – 14 Gorffennaf 2014
Prif Weinidog David Cameron
Rhagflaenydd Cheryl Gillan
Olynydd Stephen Crabb
Aelod Seneddol
dros Gorllewin Clwyd
Yn ei swydd
Dechrau
5 Mai 2005
Rhagflaenydd Gareth Thomas
Mwyafrif 3,437 (8.5%)
Aelod Cynulliad
dros Ogledd Cymru
Yn ei swydd
10 Medi 2002 – 1 Mai 2003
Rhagflaenydd Rod Richards
Manylion personol
Ganwyd (1952-03-22) 22 Mawrth 1952 (71 oed)
Llundain
Plaid wleidyddol Ceidwadol
Gŵr neu wraig Sara Jones
Alma mater Coleg Prifysgol Llundain
Crefydd Anglicaniaeth[1]
Gwefan Gwefan swyddogol

Gyrfa Wleidyddol golygu

Safodd David Jones i fod yn Aelod Seneddol ar ddwy achlysur cyn iddo gael ei ethol yng Ngorllewin Clwyd. Methodd a chipio sedd Conwy yn 1997 a Dinas Caer yn 2001. Yn 2002, cymerodd David Jones lle Rod Richards yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymddiswyddiad Mr Richards. Nid oedd gan Mr Jones unrhyw fwriad i barhau fel Aelod Cynulliad ac ni safodd yn etholaethau'r Cynulliad yn 2003. Wedi ei ethol fel Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, cafodd David Jones hefyd le ar y Pwyllgor Materion Cymreig yn 2005.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru golygu

Roedd David Jones yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru o 4 Medi 2012 hyd at gael ei ddiswyddo ar 14 Gorffennaf 2014, pan gafodd ei olynu gan Stephen Crabb.[2][3] Yn ei amser fel arweinydd y Swyddfa Gymreig, gweithiodd i sicrhau bod carchar ar gyfer dros 2,000 o ddynion - yr ail mwyaf yn Ewrop - yn cael ei adeiladu ar gyrion Wrecsam a bod atomfa ynni niwclear newydd yn cael ei godi ar Ynys Môn.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "...given that I'm an Anglican". Twitter post. 27 December 2010. Cyrchwyd 10 September 2012.
  2. "Bywgraffiad David Jones MP". Llywodraeth y Deyrnas Gyfunedig. Cyrchwyd 15 Awst 2014.
  3. "David Jones yn colli ei swydd yn sgil ad-drefnu'r Cabinet". Golwg360. 14 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 15 Awst 2014.
  4. "Wales Office Annual Report 2013-14". 26 Mehefin 2014. Cyrchwyd 15 Awst 2014.