Rhian Morgan

actores

Actores a digrifwraig Gymraeg yw Rhian Morgan. Ganwyd hi yng Nghwm Tawe.

Rhian Morgan
GanwydCwm Tawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Astudiodd Rhian ddrama ym Mhrifysgol Aberystwyth lle daeth o dan ddylanwad y ddiweddar Emily Davies.[1] Bu'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd am gyfnod, ond mae bellach yn byw yn Llandeilo. Mae'n briod â'r cyflwynydd Aled Samuel ac mae ganddynt ddau fab, Ifan (g. 1995) a Mabon (g. 2002).

Daeth yn adnabyddus yn yr wythdegau am y cymeriad Carol Gwyther yn Pobol y Cwm gan adael y gyfres yn 1990.[2][3] Ar ddechrau'r nawdegau roedd yn un o'r perfformwyr ar y gyfres deledu ddychanol Pelydr X ar S4C.[4] Yn 2004 fe chwaraeodd ran Val Vivaldi yn y gyfres ddrama deledu fer Mine all Mine, a ysgrifennwyd gan Russell T. Davies, a'i darlledu ar ITV1.[3]

Yn 2014, enillodd wobr yr Actores Orau yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru am ei rhan fel Eileen Beasley yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Dyled Eileen.[5]

Roedd yn chwarae Gwen Lloyd yng nghyfres ddrama Gwaith/Cartref ar S4C, ac yn 2015 enillodd wobr BAFTA Cymru am yr Actores Orau am ei rhan yn y gyfres.[6]

Soniodd ar raglen Beti a'i Phobol ym mis Ionawr 2023 ei bod wedi cael tröedigaeth ryw bum mlynedd ynghynt a'i bod bellach yn hyfforddi i fod yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru.[7]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu