Defnyddiwr:AlunWynHalen/Carina
Cytser | |
Byrfodd | Car |
---|---|
Cyflwr genidol | Carinae |
Ynganiad | /kəˈraɪnə/, genitive /kəˈraɪniː/ |
Symboliaeth | y cilbren |
Esgyniad cywir | 06h 02m 59.7365s–11h 20m 37.4211s[1] |
Gogwydd | −50.7545471°–−75.6840134°[1] |
Teulu | Dyfroedd Nefolaidd |
Arwynebedd | 494 deg. sg. (34ed) |
Prif Sêr | 9 |
Dynodiad Bayer/ Flamsteed sêr | 52 |
Sêr gyda phlanedau | 11 |
Sêr goleuach na 3.00m | 6 |
Sêr o fewn 10.00 pc (32.62 blwydd gol.) | 1 |
Seren fwyaf llachar | Canopus (α Car) (−0.72m) |
Seren agosaf | LHS 288 (14.64 ly, 4.49 pc) |
Gwrthrychau Messier | 0 |
Cawodydd o sêr gwib | |
Cytser cyfagos | |
Yn weladwy ar +20fed Paralel Gogleddol° a −90°. Mwayf gweladwy am 21:00 (9 y. h.) yn ystod mis Mawrth. |
Cytser yn yr wybren ddeheuol yw Carina. Daw'r enw o'r Lladin am gilbren y llong Argo Navis, sef enw llong mythgolegol Jason a'i Argonauts. Arferai Carina fod mewn cytser mwy a oedd hefyd yn cynnwys Vela, yr hwyl, a Puppis, to a bwrdd y llong, hyd nes i'r seryddwr Ffrengig, Nicolas Louis de Lacaille, ddarnio'r cytser yn dair rhan yn y 18g.[2]
Serch y rhaniad, ac er mwyn cofio'r hen chwedl, cadwodd Lacaille y dynodiadau Bayer Argo Navis. Felly mae'r α, β ac ε gyda Carina, mae'r γ a'r δ gyda Vela ac mae'r ζ gyda Puppis ayb.
Gogwydd Carina yw rhwng -50° a -75° (yn fanwl: -50.7545471 a -75.6840134), ac mae hi felly'n rhy bell yn y de i'w gweld o Gymru.
Sêr
golyguMae Carina'n cynnwys Canopus, seren orgawr wen a'r ail disgleiriaf yn awyr y nos, gyda maintioli serol o -0.72 a phellter o 313 blwyddyn golau. Mae'r enw traddodiadol yn dod o'r mordwywr (neu 'fforiwr') Menelaus, brenin Sparta.[2] Alpha Carinae yw'r dynodiad Bayer.
Alpha Carinae, as Canopus is formally designated, is a variable star that varies by approximately 0.1 magnitudes. Its traditional name comes from the mythological Canopus, who was a navigator for Menelaus, king of Sparta.
Seren newidiol amlycaf yn Carina yw Eta Carinae. Mae hi'n pwyso tua 100 màs haul, ac mae hi'n 4 miliwn gwaith mwy disglair na'r Haul. Atynnodd hi sylw yn 1677, pan gododd ei maintioli'n sydyn i 4 fel y sylwodd y seryddwr Edmond Halley. Yn 1827 cododd y maintioli i 1, gwanhaodd ei golau i faintioli 1.5 yn 1828. Pan ymfflamychodd Eta Carinae yn 1843, cododd ei maintioli i -1.5, fel Sirius. Ers 1843 mae'r Eta Carinae wedi bod yn ddiddig gyda maintioli o rhwng 6.5 a 7.9. Seren ddwbl yw Eta Carinae. Mae ganddi gyfnod o 5.5 blwyddyn gyda'r cydymaith. Y Homunculus Nebula sy'n amgáu'r ddwy seren. Ganwyd ei nifwl yn 1843 pan allfwriwyd eu nwy.[2]
Ceir sawl seren newidiol llai amlwg yng ngysawd Carina. Seren newidiol Cepheid yw l Carinae. Mae hi'n nodedig am fod y Cepheid mwyaf disglair i'r llygad noeth (hy heb gymorth). Seren orgawr felyn yw hi, gyda maintioli lleiaf o 4.2 a maintioli mwyaf o 3.3. Mae ei chyfnod yn 35.5 diwrnod.[2]
Mae dwy seren newidiol Mira yn Carina: R Carinae a S Carinae. Sêr cawraidd coch yw'r ddwy. Mae maintioli lleiaf R Carinae yn 10.0 a'i maintioli mwyaf yn 4.3. 309 diwrnod yw ei chyfnod hi ac mae hi'n 416 blwyddyn golau o'r Ddaear. Mae'r S Carina yn debyg, gyda maintioli lleiaf o 10.0 a maintioli mwyaf o 5.5. Fodd bynnag, mae ganddi gyfnod byrrach: 150 dirwnod, gan ei bod llawer pellach o'r Ddaear (1300 blwyddyn golau).
Mae yn ei chysawd sawl seren ddwbl a sawl seren ddeuol. Seren ddwbl gyda dwy seren gawraidd glaswen yw Upsilon Carinae sy'n 1600 blwyddyn golau o'r Ddaear. Mae maintioli 3.0 gyda'r seren gynradd ac mae maintioli 6.0 gyda'r seren eilaidd. Gellir gwahaniaethu rhwng y ddwy gyda thelesgop bach amatur hyd yn oed.[2]
Dwy seroliaeth (asterism yn Saesneg) sy'n amlwg yn Carina. Mae'r Groes Ddiemwnt yn fwy na'r Groes Ddeheuol ond yn llai disglair. Camgymerir y Groes Anwir, seroliaeth arall, yn aml am y Groes Ddeheuol, seroliaeth yn Crux. Mae'r Groes Anwir yn cynnwys Iota Carinae ac Episilon Carinae a dwy seren yn Vela, Kappa Velorum a Delta Velorum.[2]
Gwrthrychau Awyr Dwfn
golyguMae Carina'n adnabyddus am y nifwl o'r un enw (Nifwl Carina), NGC 3372,[3]. Darganfuwyd ef gan seryddwr Ffrengig Nicolas Louis de Lacaille yn 1751, Nifwl allyriad enfawr yw'r Nifwl Carina ac mae'n cynnwys sawl nifwl. Mae tua 8,000 blwyddyn golau i ffwrdd a 300 blwyddyn golau llydan gyda bröydd anferth sy'n creu sêr.[4] Mae'r maintioli cyflawn yn 8.0[5] a'i ddiamedr ymddangosiadol yn fwy na dwy radd.[2]
Y 'nifwl twll clo' (neu'r Keyhole Nebula) yw rhan ganolog Nifwl Carina. Rhoddodd John Herschel yr enw i'r ardal yma yn 1847. Mae'r twll clo yn 7 blwyddyn golau lydan, ac fe'i adeiladwyd o atomau Hydrogen wedi'u hïoneiddio, gyda dwy ardal 'creu sêr' amlwg.[6]. Nifwl planedol yw'r Homunculus Nebula sy'n weledig i'r llygad noeth. Creodd Eta Carinae y nifwl yn 1840 tra alldaflodd y seren nwy mewn ffrwydrad enfawr.[4]
Ceir nifer enfawr o glystyrau agored yng nghytser Carina, oherwydd fod y Llwybr Llaethog yn llifo drwy Carina. Mae NGC 2516 sy'n clwstwr agored eithaf mawr, tua hanner gradd sgwâr, ac yn ddisglair, yn weledig i'r llygad noeth. Mae e'n 1,100 blwyddyn golau o'r Ddaear, ac mae ganddo 80 seren. Y disgleiriaf sydd seren gawr goch gyda maintioli 5.2. Clwstwr agored arall yw NGC 3114, ond mae e'n fwy pell, 3,000 blwyddyn golau o'r Ddaear. Mae e'n fwy ar chwâl a llai llachar na NGC 2516 gan nad yw ei sêr mwyaf disglair yn ddim ond maintioli chwech. Y clwstwr agored mwyaf amlwg yn Carina yw IC 2602, a elwir hefyd yn 'Pleiades Deheuol'. Mae'n cynnwys Theta Carinae yn ogystal â sêr eraill sy'n weledig i'r llygad noeth. Mae gan y clwstwr cyfan 60 seren. Mae'r Pleiades Deheuol yn arbennig o fawr i glwstwr agored, gyda diamedr o tua un radd. Fel IC 2602, NGC 3532 mae'n weledig i'r llygad ac mae e'n debyg o ran maint. Mae ganddo 150 seren, ac maen nhw'n gwneud siâp fel elips, gydag ardal ganolog dywyll.
Hefyd, mae'r Carina yn cynnwys y clwstwr crwn NGC 2808 ac mae e'n weledig i'r llygad noeth.
Un clwstwr galaeth amlwg yw 1E 0657-56 y 'Clwstwr Bwled'). Enwyd y clwstwr hwn oherwydd y 'don sioc' (shock wave) a welir yn y 'cyfrwng rhwng clystyrau' ac sy'n ymdebygu i don sioc o fwled uwchsonig. Credir bod y don sioc yn weledig achos fod y clwstwr galaeth bach yn symud gyda chyflymder o rhwng 3000-4000 cilometr yr eiliad yn erbyn y clwstwr galaeth fawr. Dinistrir y clwstwr bach gan y clwstwr mawr trwy ryngweithiad disgyrchol. Ar ddiwedd y dydd, bydd yn cyfuno gyda'r clwstwr mawr.[7]
Sêr gwib
golyguMae Carina'n cynnwys trwyn pelydrol y gawod feteor Eta Carinids sy'n dod i'w hanterth oddeutu 21 Ionawr pob blwyddyn.
Hanes a Mytholeg
golyguCeir y disgrifiad cynharaf o'r Argo Navis, y llong mytholegol roedd Carina'n rhan ohoni, yn y chweban Phaenomena gan Aratus o Soli. Mae'n disgrifio llong gyda dim ond hanner y starn, neu ben-ôl y cwch yn weladwy a'i bod wysg y chefn, fel llong symud mewn harbwr. [8] Pseudo-Eratosthenes sydd yn dweud y rhoddwyd y llong yn yr wybren gan Athena, fel y llong gyntaf. [9] Mynnodd Hyginus mai llong Jason yw hi i fynd ar antur i chwilio am y cnu aur.[10]
Ganwyd Carina pan gatalogiodd Lacaille y sêr deheuol o'r Penrhyn Gobaith Da. Tra'n gweithio, creodd 14 cytser newydd yn yr awyr ddeheuol, gyda ffiniau newydd i dri chytser yn Argo Navis: Carina, Vela a Puppis. Cyhoeddwyd y catalog yn 1763, ar ôl marwolaeth Lacaille yn 1762.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Carina, constellation boundary". The Constellations (International Astronomical Union). http://www.iau.org/public/constellations/#car. Adalwyd 15 Chwefror 2014.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 Ridpath & Tirion 2001, tt. 104–106.
- ↑ Levy 2005, t. 100.
- ↑ 4.0 4.1 Wilkins & Dunn 2006, t. 220.
- ↑ Levy 2005, t. 101.
- ↑ Wilkins & Dunn 2006, t. 218.
- ↑ Wilkins & Dunn 2006, t. 472-3.
- ↑ Kidd 1997, t. 99 & 311.
- ↑ Condos 1997, t. 39.
- ↑ Condos 1997, t. 40.
- Condos, Theony (1997). Star Myths of the Greeks and Romans: A Sourcebook. Phanos. ISBN 1-890482-93-5.CS1 maint: ref=harv (link)
- HubbleSite (22 Ebrill 2010). "Starry-Eyed Hubble Celebrates 20 Years of Awe and Discovery". HubbleSite. NASA. Cyrchwyd 5 Chwefror 2015.
- Kidd, Douglas (1997). Aratus: Phaenomena. CUP. ISBN 0-521-58230-X.CS1 maint: ref=harv (link)
- Levy, David H. (2005). Deep Sky Objects. Prometheus Books. ISBN 978-1-59102-361-6.CS1 maint: ref=harv (link)
- Makemson, Maud Worcester (1941). The Morning Star Rises: an account of Polynesian astronomy. Yale University Press.CS1 maint: ref=harv (link)
- Ridpath, Ian; Tirion, Wil (2001). Stars and Planets Guide. Princeton University Press. ISBN 978-0-691-08913-3.CS1 maint: ref=harv (link)
- Wilkins, Jamie; Dunn, Robert (2006). 300 Astronomical Objects: A Visual Reference to the Universe (arg. 1st). Buffalo, New York: Firefly Books. ISBN 978-1-55407-175-3.CS1 maint: ref=harv (link)
Dolenni allanol
golyguCyfryngau perthnasol Carina (constellation) ar Gomin Wicimedia