Dyfnog
Sant o Gymru oedd Dyfnog (amrywiadau: Dyfynog, Defynog). Dywedir ei fod yn byw yn y 7g. Roedd yn feudwy yn byw ar ddŵr a bara a wisgai grys rawn a gwregys haearn trwm.[1]
Dyfnog | |
---|---|
Ganwyd | 7 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Blodeuodd | 7 g |
Cysylltir gyda | Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch |
Tras
golyguYn ôl yr achau traddodiadol, roedd Dyfnog yn ŵyr i Cawrdaf mab Caradog Freichfras (bl. 6g), pennaeth a sant o'r Hen Ogledd a fudodd i Gymru.[2]
Eglwysi
golyguDyfnog yw nawddsant plwyf Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, rhwng Dinbych a Rhuthun yn Sir Ddinbych. Ystyrir Eglwys Sant Dyfnog yn un o eglwysi canoloesol pwysicaf Cymru; disgrifiwyd ffenestr Coeden Jesse fawr yr eglwys fel "y ffenestr wydr orau yng Nghymru". Gerllaw mae Ffynnon Sanctaidd Sant Dyfnog, oedd yn arfer bod yn gyrchfan boblogaidd i rai'n dymuno iachad mor ddiweddar â'r 18g yn ôl Thomas Pennant yn ei lyfr Tours in Wales.[1]
Ceir eglwys wedi'i chysegru i Ddyfnog yn ardal Brycheiniog hefyd, er y dywedir hefyd mai Cynog Ferthyr (m. 492) mab Brychan, brenin teyrnas Powys, a'i sefydlodd.[1]