Cynog Ferthyr

sant

Sant o Gymru oedd Cynog Ferthyr, Cynog ap Brychan neu'r Abad Cynog (bu farw 492). Dethlir ei ddydd gŵyl ar 7 neu 8 Hydref.

Cynog Ferthyr
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Teyrnas Brycheiniog Edit this on Wikidata
Bu farw492 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcenhadwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd5 g Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl7 Hydref Edit this on Wikidata
TadBrychan Edit this on Wikidata
Erthygl am y sant cynnar yw hon. Gweler hefyd Cynog (gwahaniaethu) a Cynog (esgob).

Yn ôl De Situ Brecheniauc Cynog oedd mab hynaf Brychan, brenin Brycheiniog. Yn ôl y Cognatio Brychan fe'i bedyddiwyd gan Sant Gastayn a oedd ag eglwys yn Mara, ger Llangasty Tal-y-llyn.

Dywedir i dad Brychan, Anlach, ei roi fel gwystl i Banadl, brenin Powys, pan oedd yn ifanc, ond cafodd Brychan berthynas gyda merch Banadl, sef Banhadlwedd a chafodd fab - Cynog.[1] Rhoddodd Brychan un o sawl torch o'i fraich yn anrheg i Cynon a chadwyd hi fel crair am ganrifoedd. Claddwyd ef ym Merthyr Cynog. Disgrifiodd Gerallt Gymro'r dorch fel 'breichled o liw, pwysau a theimlad ag aur; mae mewn pedair rhan wedi'u cysylltu gyda'i gilydd gan ben ci a'i ddannedd am allan' (Itin.Kamb., I.2). Cuddiodd Rhys ap Gruffudd, neu'r 'Arglwydd Rhys' y dorch er mwyn ei gadw'n ofalus yn Ninefwr (Itin. Kamb., II.2).

Cafodd ei ladd naill ai gan y Sacsoniaid neu gan fôrladron o Iwerddon ym Merthyr Gynog, Brycheiniog, yn y flwyddyn 492.

Eglwysi golygu

Dywedir fod Cynog wedi sefydlu eglwysi yn Llangynog ym Mhowys, Defynnog, Ystrad Gynlais, Penderyn a Merthyr Cynog. Fe'i cysylltir hefyd â Llangynog (Sir Fynwy) (Llangunnock yn Saesneg; i'r de o Llanfihangel Tor-y-mynydd) a Llangunnock (Llangynog) yn Sir Henffordd[2].

Nodir ei enw yn y rhestr Gernyweg o blant Brychan, a cheir 'Boconnoc' ('Bod-conoke' yn 1382) (II.269) dair milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lostwydhyel (Saesneg: Lostwithiel). Ceisiodd rhai ei gysylltu gyda Mochonóc, yn y rhestr Wyddelig, ond mae hyn yn annhebygol.

Rhestr Wicidata:

# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Defynnog
 
51°56′22″N 3°33′53″W / 51.9395°N 3.56468°W / 51.9395; -3.56468 Maescar Q5251744
2 Eglwys Sant Cynog
 
52°01′34″N 3°28′52″W / 52.0261°N 3.481°W / 52.0261; -3.481 Merthyr Cynog Q17741862
3 Eglwys Sant Cynog
 
51°48′30″N 4°24′41″W / 51.8082°N 4.41143°W / 51.8082; -4.41143 Powys
Llangynog
Q17743050
4 Eglwys Sant Cynog
 
51°56′22″N 3°33′53″W / 51.9395°N 3.56468°W / 51.9395; -3.56468 Maescar Q17743393
5 Eglwys Sant Cynog 51°58′06″N 3°26′42″W / 51.968362°N 3.4449923°W / 51.968362; -3.4449923 Ysgir Q29485864
6 Eglwys Sant Cynog
 
52°02′42″N 3°16′23″W / 52.045118°N 3.2730695°W / 52.045118; -3.2730695 Y Clas-ar-Wy Q29494786
7 Eglwys Sant Cynog
 
51°45′56″N 3°31′50″W / 51.765653°N 3.5304875°W / 51.765653; -3.5304875 Hirwaun Q29495593
8 Eglwys Sant Cynog
 
52°49′27″N 3°24′24″W / 52.824118°N 3.4067829°W / 52.824118; -3.4067829 Llangynog, Powys Q29504306
9 Eglwys Sant Gwynog
 
52°32′01″N 3°26′34″W / 52.5335°N 3.44284°W / 52.5335; -3.44284 Caersŵs Q17744091
10 Eglwys St Cynog
 
51°46′33″N 3°45′33″W / 51.775938°N 3.759281°W / 51.775938; -3.759281 Powys Q114614829
11 Llangynog
 
51°49′12″N 4°24′39″W / 51.82°N 4.41083°W / 51.82; -4.41083 Sir Gaerfyrddin Q6661578
12 Llangynog, Powys
 
52°49′28″N 3°24′19″W / 52.824406°N 3.405141°W / 52.824406; -3.405141 Powys Q13129653
13 Merthyr Cynog
 
52°01′00″N 3°29′00″W / 52.0167°N 3.48333°W / 52.0167; -3.48333 Powys Q3404562
14 Pluw Voskennek
 
50°24′58″N 4°36′40″W / 50.416°N 4.611°W / 50.416; -4.611 Cernyw Q1969237
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Teithio golygu

Mae'n debyg y bu ganddo gell meudwy. Ceir traddodiad iddo deithio i Gernyw gyda Sant Cadog.

Cyfeiria Gerallt Gymro at freichled a roddwyd i Gynog gan Frychan ac a addolwyd fel crair ar ddiwedd y 12g.

Iolo Morgannwg golygu

Priodolodd Iolo Morgannwg nifer o wirebau (dywediadau doeth) i Gynog a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology of Wales, ond gwyddys erbyn hyn eu bod yn ffrwyth dychymyg Iolo ei hun.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  • T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000)
  1. Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000; adalwyd 8 Hydref 2017.
  2. .visionofbritain.org.uk; adalwyd 8 Hydref 2017