Dewi-Prys Thomas
Roedd Yr Athro Dewi-Prys Thomas (5 Awst, 1916—28 Tachwedd, 1985) yn bensaer ac academydd Cymreig. Ef oedd athro pensaernïaeth cyntaf Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru, Caerdydd a bu hefyd yn bennaeth Ysgol Bensaernïaeth Cymru, lle sefydlodd Adran Cynllunio Drefol newydd.[1][2]
Dewi-Prys Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 5 Awst 1916 Toxteth Park |
Bu farw | 28 Tachwedd 1985 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pensaer |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Pencadlys Gwynedd |
Cefndir
golyguGanwyd Dewi-Prys yn Lerpwl, yn blentyn i A Dan Thomas, swyddog banc, a Elysabeth Watkin Thomas ei wraig. Roedd A Dan Thomas yn amlwg yn y byd gwleidyddol. Fe fu'n un o'r dynion amlwg ym mudiad y swffragetiaid ac yn gyd ymgyrchydd efo Christabel Pankhurst, roedd hefyd yn drysorydd i Blaid Cymru ac yn ymgeisydd y Blaid yn etholaeth Wrecsam ym 1951[3]. Chwaer i Dewi-Prys oedd Rhianon Prys Evans ac felly roedd ei gŵr hi Gwynfor Evans yn frawd yng nghyfraith iddo.[4] Roedd yr hanesydd a'r Llenor Gweirydd ap Rhys yn hen daid iddo.[5]
Addysgwyd Dewi-Prys yn ysgol Ravenhead Lerpwl a Phrifysgol Lerpwl lle graddiodd BArch dosbarth cyntaf ym 1938. Bu wedyn yn astudio Cynllunio Trefol wrth draed William Holford, yn yr un brifysgol gan ennill Diploma mewn Dylunio Dinesig ym 1942.[1]
Gyrfa
golyguWedi graddio aeth Dewi-Prys i weithio gyda chwmni pensaernïol T. Alwyn Lloyd, Caerdydd lle fu'n gweithio ar Gynllun Amlinellol De Cymru.[6] Yn ystod ei gyfnod yng Nghaerdydd fe fu hefyd yn actio mewn dramâu radio Cymraeg i'r BBC.[4]
Dychwelodd i Brifysgol Lerpwl ym 1947 i fod yn ddarlithydd ac wedyn yn brif ddarlithydd yn ysgol pensaernïaeth y coleg.
Ym 1960 fe'i penodwyd yn bennaeth Ysgol Bensaernïaeth Cymru, yng Nghaerdydd, lle arhosodd hyd ei ymddeoliad ym 1981.
Yn ystod ei gyrfa academaidd bu hefyd yn parhau i wneud gwaith pensaernïol ymarferol. Ymysg ei greadigaethau mae Tŷ Cwrdd y Crynwyr, Cilgwri,[7] Amlosgfa Llwytgoed[8], a Thalar Wen, Llangadog, cartref ei chwaer a'i frawd yng nghyfraith.[9] Ar ôl ymddeol cynlluniodd Pencadlys Cyngor Sir Gwynedd yng Nghaernarfon.[10]
Roedd Dewi-Prys yn ddyluniwr llyfrau hefyd. Cyfrannodd y clawr i lyfr T. Rowland Hughes, William Jones a'r cloriau a lluniau mewnol i O Law i Law a Chaneuon Siôn gan yr un awdur a'r lluniau ar gyfer adargraffiad o lyfr E Tegla Davies, Hunangofiant Tomi.[11]
Roedd yn aelod o fwrdd Gwasg Brifysgol Cymru, yn aelod o Lys Prifysgol Cymru, yn un o gomisiynwyr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn aelod o fwrdd Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru, Yn aelod o Lys Llywodraethwyr, Theatr Genedlaethol Cymru ac yn sylfaenydd ac aelod o fwrdd Cymdeithas Dinesig Caerdydd.[1]
Fe'i penodwyd yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Llangefni 1983.
Rhwng 2003 a 2015, dyfarnodd Ymddiriedolaeth Dewi-Prys Thomas wobr fawreddog bob tair blynedd a oedd yn cydnabod pwysigrwydd dylunio da i ansawdd bywyd, hunaniaeth ac adfywiad Cymru.[12]
Teulu
golyguYm 1965 priododd Dewi-Prys â Joyce Ffoulkes Davies, merch y Parch Robert Ffoulkes Parry, Ballarat a Geelong, Awstralia.[1]
Marwolaeth
golyguBu farw yng Nghaerdydd yn 69 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel Islawrdref ger Dolgellau[13]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Thomas, Prof. Dewi-Prys, (5 Aug. 1916–28 Nov. 1985), Head of Welsh School of Architecture, 1960–81, and first Professor of Architecture in University of Wales, 1964–81 (Institute of Science and Technology), Cardiff". WHO'S WHO & WHO WAS WHO (yn Saesneg). doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u169748. Cyrchwyd 2022-03-16.
- ↑ "THOMAS, DEWI-PRYS (1916 - 1985), pensaer | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-07-19.
- ↑ "Gwynfor the younger is following in his family's footsteps". Denbighshire Free Press (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-16.
- ↑ 4.0 4.1 "Obituary of Prof D-P Thomas, A passion for architecture" (yn English). The Times (London, England). 1985-12-07. https://go.gale.com/ps/i.do?p=AONE&sw=w&issn=01400460&v=2.1&it=r&id=GALE%7CA117941139&sid=googleScholar&linkaccess=abs.
- ↑ Liverpool Echo 09 Gorffennaf 1960 Tud 11Head of Welsh School of Architecture
- ↑ "Biography". www.dewi-prysthomas.org. Cyrchwyd 2022-03-16.
- ↑ "Heswall Quaker Meeting". Quakers (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-16.
- ↑ Stuff, Good. "Llwydcoed Crematorium, Llwydcoed, Rhondda Cynon Taff". britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 2022-03-16.
- ↑ "Evans, Gwynfor Richard (1912–2005), politician". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/95754. Cyrchwyd 2022-03-16.
- ↑ North Wales Weekly News 13 Medi 1984, tud 30 Triumph of design bequeaths a timeless legacy
- ↑ "Dewi-Prys Thomas Papers, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2022-03-16.
- ↑ "The Dewi-Prys Thomas Prize". www.dewi-prysthomas.org. Cyrchwyd 2022-03-16.
- ↑ "Dolgellau i'r Bermo 14 Mawrth". www.clwbmynyddacymru.com. Cyrchwyd 2022-03-16.