Richard Robert Jones

ieithydd
(Ailgyfeiriad o Dic Aberdaron)

Amlieithydd hunanaddysgedig a chrwydryn o Gymro oedd Richard Robert Jones neu Dic Aberdaron (178018 Rhagfyr 1843).[1]

Richard Robert Jones
Dic Aberdaron tua 1823.
Ganwyd1780 Edit this on Wikidata
Aberdaron Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 1843 Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithydd Edit this on Wikidata

Saer coed yn arbenigo mewn gwenud a thrwsio cychod oedd ei dad, ac o'r herwydd agadwodd y cartref yn gynnar iawn.

Gafodd Dic ddim addysg ffurfiol ond roedd e'n adnabyddus am ddysgu hyd at 14 neu 15 iaith gan gynnwys y Gymraeg, Saesneg, Lladin, Groeg, Hebraeg, Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg, a rhywfaint o'r Galdeeg a'r Syrieg.[2] gwyddys iddo ddysgu Lladin pan oedd yn ddim ond 12 oed, a'i fod wedi dysgu Groeg cyn ei fod yn ugain. Roedd yn Lerpwl yn 1804 ac yn Llundain yn 1807 ac arhosodd ym Mangor, Caernarfon ac Ynys Môn.

Paentiad olew o tua 1850, gan William Roos (1808–1878), ac a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ysgrifennodd William Roscoe gofiant amdano fe.

Ysgrifennodd R. S. Thomas, a oedd yn weinidog yn Aberdaron am gyfnod, gerdd amdano fe o'r enw "Dic Aberdaron". Ceir cerdd arall o'r un enw gan T. H. Parry-Williams sydd yn gorffen gyda'r frawddeg "Chwarae-teg i Dic - nid yw pawb yn gwirioni'r un fath".[1]

Ffotograff gan John Thomas o gartref Dic yn Aberdaron.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Parry, Gruffydd. JONES , RICHARD ROBERT (‘Dic Aberdaron’; 1780 - 1843). Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2013.
  2. (Saesneg) Thomas, D. L.; Haigh, John D. (2004). "Jones, Richard Roberts (1780–1843)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/15076.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.