John Strand-Jones

chwarewr rygbi'r unded

Chwaraewr rygbi'r undeb dros Gymru oedd John Strand-Jones (2 Rhagfyr 18773 Ebrill 1958). Cynrychiolodd ei wlad bum gwaith ym 1902 a 1903. Roedd hefyd yn offeiriad Anglicanaidd.

John Strand-Jones
Jones ym 1901
Enw llawn John Jones
Dyddiad geni (1877-12-02)2 Rhagfyr 1877
Man geni Caeo
Dyddiad marw 3 Ebrill 1958(1958-04-03) (80 oed)
Lle marw Pencarreg,
Ysgol U. Ysgol Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan
Prifysgol Prifysgol Rhydychen
Gwaith Offeiriad Eglwys Loegr
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Cefnwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
Llanbedr Pont Steffan
Llanelli
Prifysgol Rhydychen
Cymry Llundain
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1902–1903 Cymru 5 (11)

Cefndir

golygu

Ganwyd John Jones yn Llwyncelyn Mawr, Caeo, Sir Gaerfyrddin,[1] yn fab i Evan Jones, amaethwr a Margaret (née Davies) ei wraig. Bu farw ei dad pan oedd John yn llai na blwydd oed. Ychwanegodd "Strand", (enw tŷ byrddio oedd yn cael ei gadw gan ei fam) i'w enw pan aeth i Ysgol Coleg Dewi Sant, er mwyn ei wahaniaethu oddi wrth fechgyn eraill o'r enw John Jones oedd yn yr ysgol.[2] Addysgwyd ef yn Ysgol Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, roedd yn gapten tîm rygbi'r coleg.[3] Ar ôl Dewi Sant aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen rhwng 1898 a 1901, gan raddio BA ym 1899. Gorffennodd ei hyfforddiant diwinyddol yng Ngholeg Mihangel Sant, Aberdâr.[4]

Gyrfa rygbi

golygu

Cyn mynd i Rydychen chwaraeodd rygbi clwb i Lanbedr Pont Steffan a Llanelli.[5][6] Chwaraeodd rygbi i Glwb Rygbi Prifysgol Rhydychen [7] ym 1899 yn y canol ac ym 1900 a 1901 yn gefnwr.[8] Ar ôl coleg bu'n chware i dîm Cymru Llundain am ychydig gemau cyn ddychwelyd i Lanelli.

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gymru ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad 1902 yn erbyn Lloegr, gan chwarae yn safle'r cefnwr a sgorio gyda chic gosb.[1] Fe greodd hefyd un o geisiadau Cymru.[9] Chwaraeodd yn y gemau eraill yn erbyn yr Alban (gan sgorio trosiad ) ac Iwerddon. Enillodd Cymru'r tair gêm, gan ennill y bencampwriaeth a'r Goron Driphlyg. Y flwyddyn ganlynol, chwaraeodd yn erbyn Lloegr (gan sgorio trosiad) a'r Alban.

Enillodd Strand-Jones ragoriaeth hefyd fel chwaraewr criced,[10] tenis a hoci,[11] a chwaraeodd unwaith i dîm hoci Rhyngwladol Cymru.[12]

Gemau rhyngwladol wedi'u chwarae

golygu

Gyrfa eglwysig

golygu

Ordeiniwyd Strand-Jones yn ddiacon Eglwys Loegr ym 1903 [19] ac yn offeiriad ym 1904.[20] Bu'n gurad yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint rhwng 1903 a 1908, ac yng Nghorwen, Sir Feirionnydd [21] cyn mynd i wasanaethu fel caplan y fyddin yn India ym 1909.[22] Cafodd ei leoli mewn garsiynau yn y Punjab o dan Esgobaeth Lahore, (y mae'r rhan fwyaf ohoni bellach yn rhan o Bacistan).[23] Yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf gwasanaethodd yn yr India a daeth yn uwch gaplan i Lu Faes Waziristan ar Ffin y Gogledd-orllewin ym 1916-17. Fe'i cofiwyd fel trefnydd brwd gemau hoci, pêl-droed a gemau criced i'r milwyr.[12]

Wedi ymadael a'r fyddin, bu wedyn yn gweinidogaethu yn Lloegr fel Rheithor Hanwood, Swydd Amwythig rhwng 1929 a 1934 ac fel Caplan Carchar yr Amwythig.[4]

Ar ôl ymddeol, symudodd yn ôl i Gymru i ddod yn ffermwr ger Llanbedr Pont Steffan.[8] Roedd yn gadeirydd Clwb Rygbi'r dref 1947 – 48.

Bywyd personol

golygu

Ym mis Hydref 1909 ychydig cyn iddo ymadael am India priododd Winifred Farrant, merch y Cyrnol Farrant, cynt o droedfilwyr Madras.[24] Bu iddynt o leiaf un fab sef John Harland Strand-Jones, y dewin dŵr o Gwmann.[25]

Bu farw ym 1958 yn 80 oed. Dywedodd un o'i gyn-gydweithwyr rhyngwladol, Rhys Gabe, fod Strand-Jones "bob amser yn ddibynadwy ar y cae ac yn ŵr bonheddig â theimladau caredig ac egwyddorion uchel oddi ar y cae".[9]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Strand Jones". Player stats. www.scrum.com. Cyrchwyd 2008-05-12.
  2. "MAN OF THE MOMENT - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-12-21. Cyrchwyd 2021-02-22.
  3. "Llith Coleg Dewi Sant - Y Llan". J. Morris. 1898-02-25. Cyrchwyd 2021-02-22.
  4. 4.0 4.1 Crockford's Clerical Directory 1957-58. t. 631.
  5. "LLAHELLYVTUDHOE - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1898-12-24. Cyrchwyd 2021-02-22.
  6. "A LOSS TO LLANELLY - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1899-01-12. Cyrchwyd 2021-02-22.
  7. "CARDIFF v OXFORD UNIVERSITY - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1899-12-16. Cyrchwyd 2021-02-22.
  8. 8.0 8.1 Baker, J. N. L. (1971). Jesus College, Oxford 1571–1971. Llundain: Oxonian Press Ltd. t. 98. ISBN 0-9502164-0-2.
  9. 9.0 9.1 "Lampeter Town RFC – History". Lampeter Town RFC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-28. Cyrchwyd 2008-05-12.
  10. "CRICKET CLUB BANQUET - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1897-11-26. Cyrchwyd 2021-02-22.
  11. "InternationalTrialHockeyMatchatDenbigh - Denbighshire Free Press". Charles Cottom & Co. 1908-12-26. Cyrchwyd 2021-02-22.
  12. 12.0 12.1 "New Rector of Hanwood. A Rugby International. 20 Years as Chaplain in India". Shrewsbury Chronicle. 25 October 1929. t. 3.
  13. "WALES'S VICTORY - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1902-01-13. Cyrchwyd 2021-02-22.
  14. "THE GREAT WELSH VICTORY - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1903-01-10. Cyrchwyd 2021-02-22.
  15. "WALES V SCOTLAND - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1902-02-03. Cyrchwyd 2021-02-22.
  16. "The Game - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1903-02-07. Cyrchwyd 2021-02-22.
  17. "THETRIPLECROWN - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1902-03-08. Cyrchwyd 2021-02-22.
  18. "Wales v Scotland - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-02-15. Cyrchwyd 2021-02-22.
  19. "PERSONAL - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1903-12-25. Cyrchwyd 2021-02-22.
  20. "StAsaphOrdination - Denbighshire Free Press". Charles Cottom & Co. 1904-12-24. Cyrchwyd 2021-02-22.
  21. "PERSONAU A PHETHAU - Yr Herald Cymraeg". Daniel Rees. 1907-12-24. Cyrchwyd 2021-02-22.
  22. "Y Parch J Strand-Jones - The Welsh Coast Pioneer and Review for North Cambria". W. H. Evans. 1909-07-29. Cyrchwyd 2021-02-22.
  23. Mangan J.A., Pleasure, Profit, Proselytism British Culture and Sport at Home and Abroad 1700-1914, Frank Cass. London pg. 138
  24. "LAMPETER - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1909-10-22. Cyrchwyd 2021-02-22.
  25. digiDo LlGC John Strand Jones, dewin dŵr Cwmann![dolen farw] adalwyd 22 Chwefror 2021