Dinbych (arglwyddiaeth)
Un o arglwyddiaethau'r Mers yng ngogledd-ddwyrain Cymru oedd Arglwyddiaeth Dinbych. Fe'i crëwyd yn 1282.
Math | arglwyddiaeth y Mers |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.180496°N 3.42041°W |
Ymosododd Edward I, brenin Lloegr, ar Dywysogaeth Cymru yn 1282. Lladdwyd Llywelyn Ein Llyw Olaf mewn sgarmes ger Cilmeri ac er i'r frawd Dafydd ap Gruffudd barhau i ymladd, daeth annibyniaeth Cymru i ben yn 1283. Creodd brenin Lloegr gyfres o siroedd newydd yn nhywysogaeth Llywelyn, dan reolaeth uniongyrchol Coron Lloegr, ond rhoddodd y brenin diroedd eraill i arglwyddi Seisnig. Un o'r rhain oedd Arglwyddiaeth Dinbych.
Ffurfiwyd yr arglwyddiaeth newydd allan o gantrefi Cymreig Rhos (ond heb cwmwd Y Creuddyn, a aeth yn rhan o Sir Gaernarfon) a Rhufoniog. Ychwanegwyd cwmwd Dinmael hefyd.
Gorweddai'r arglwyddiaeth, yn fras, rhwng afonydd Conwy a Chlwyd. I'r gorllewin roedd Sir Gaernarfon ('Sir Arfon') i ddechrau) ac i'r de roedd Sir Feirionnydd. I'r gogledd-ddwyrain roedd hen gantref Tegeingl, a wnaed yn rhan o'r Sir y Fflint newydd. Roedd y tair sir hon ym meddiant y brenin. I'r de-orllewin roedd arglwyddiaeth Rhuthun (cantref Dyffryn Clwyd), ym meddiant y teulu Grey. Hon, felly, oedd y mwyaf gogleddol mewn cadwyn o arglwyddiaethau ym meddiant arglwyddi'r Mers a ymestynnai o arfordir gogledd-ddwyrain Cymru (ac eithrio Sir y Fflint) i lawr i dde Cymru a Dyfed.
Rhoddwyd yr arglwyddiaeth newydd i Henry de Lacy, Iarll Lincoln. Roedd Castell Dinbych eisoes yn sefyll, a ddefnyddiodd de Lacy y castell a'i dref gaerog fel canolfan yr arglwyddiaeth. Ar ôl mynd trwy ddwylo sawl arglwydd, daeth i feddiant Roger Mortimer o Wigmor yn 1355.
Er bod y de yn fynyddig, roedd yr arglwyddiaeth yn cynnwys tir ffrwythlon yn y dyffrynnoedd ac ar hyd yr arfordir. Yn ôl y stentiau, roedd yn werth tua £1,000 y flwyddyn.
Yn 1536 daeth y diriogaeth yn rhan orllewinol y Sir Ddinbych newydd. Heddiw mae'n gorwedd yn sir Conwy yn bennaf, gyda'r rhan ddwyreiniol yn Sir Ddinbych.
Cyfeiriadau
golygu- R. R. Davies, Conquest, coexistence and change (Rhydychen, 1987)