Dinistr Jerusalem
Awdl yw Dinistr Jerusalem (orgraff wreiddiol: Dinystr Jerusalem)[1] gan Eben Fardd (Ebenezer Thomas, 1802-1863) a gyfansoddwyd yn 1824 ar gyfer Eisteddfod y Trallwng pan oedd y bardd yn 22 oed. Mae'r gerdd yn disgrifio gwarchae Jerusalem yn 70 O.C. gan y Rhufeiniaid dan arweinyddiaeth Titus. Hwryach mai'r gerdd hon yw cerdd enwocaf Eben Fardd, ac mae wedi'i ddisgrifio fel un o awdlau gorau'r bedwaredd ganrif ar gymtheg,[2][3] ac yn benllanw yn y traddodiad clasurol mewn llenyddiaeth Gymraeg.[4]
Braslun o Gynnwys y Gerdd
golyguFfynhonell Eben Fardd ar gyfer y gerdd oedd disgrifiad Josephus a fu'n dyst i'r gwarchae ("Josephus" oedd y ffugenw a ddefnyddiodd ar gyfer y gystadleuaeth). Roedd cyfieithiad Cymraeg o waith Josephus gan Hugh Jones wedi ymddangos yn 1819.[2] Mae'r gerdd wedi'i hysgrifennu o safbwynt gwyliwr di-enw sy'n dyst i'r gwarchae a'r gyflafan.
Mae'r gerdd yn dechrau â disgrifiad o ddinas Jerusalem yn ei ogoniant yn y cyfnod yn cyn y gwarchae.
Crêf iawn oedd, ac ar fynyddau—dilyth
Adeiliwyd ei chaerau;
Yn ei bri hon wnâi barhau
Yn addurn byd flynyddau.
Ymddengys yr Iesu, nad oedd yn bresennol yn ystod y gwarchae, ond a broffwydodd ffawd y ddinas:
Yn awr darogana ryw drigiannydd,
Rhua drwy alar hyd yr heolydd,
Ac o’i ben “Gwae!” “Gwae!” beunydd—a glywaf,
Effro y sylwaf ar ei phreswylydd.
Mae ymddangosiad yr Iesu-a fyddai'n farw ers deugain mlynedd adeg y gwarchae-yn awgrymu nad yw'r darllenydd i fod i ystyried y traethydd yn unigolyn go iawn nac yn fersiwn o Josephus; dim ond ymgais i ddwyn perthnasedd Cristnogol i gerdd nad yw fel arall yn codi o'r traddodiad hwnnw. Aiff y gerdd ymlaen wedyn i ddisgrifio'r gwarchae ei hun, gyda nifer o ddelweddau dramatig a gwaedlyd o'r gyflafan:
Llithrig yw’r palmant llathrwyn,
Môr gwaed ar y Marmor gwyn.
Mae'r gerdd yn gorffen gyda disgrifiad o'r ddinas yn dilyn gwarchae, a'r milwyr rhufeinig proffesiynol a dideimlad. Cerdd ddisgrifiadol yw'r gerdd ar y cyfan; er gwaethaf ymddangosiad yr Iesu am ychydig linellau, sy'n cysylltu'r gerdd â'r traddodiad Beiblaidd, ar y cyfan disgrifio'r olygfa yn unig mae'r gerdd. Awgrymir mai cosb am anwybyddu rhybuddion yr Iesu fu'r dinistr, ond ar wahân i hyny nid oes i'r gerdd na moesoli nac athronyddu nac ymgais i ddwyn unrhyw gymhariaethau at faterion cyfoes y nodweddi'r gerdd. Mae'r gerdd tua 500 o linellau o hyd, sydd yn hir yn ôl safonau awdlau yr unfed ganrif ar hugain, ond yn gymharol byr o'i chymharu â cherddi Eisteddfodol y cyfnod.
Dylanwadau a Beirniadaeth
golyguYstyrir mai Cywydd y Farn Fawr[5] Goronwy Owen yw un o'r prif ddylanwadau ar y gerdd.[2][6] Roedd William Owen Pughe yn ddylanwad hefyd: ymddangosodd ei gyfieithiad o Paradise Lost John Milton ychydig flynyddoedd cyn cyfansoddi Dinistr Jerusalem, a nodweddwyd gan ei orgraff ansafonol, sydd wedi'i adlewyrchu rhywfaint yng ngherdd Eben Fardd.[2]
Disgrifiodd W. J. Gruffydd y gerdd yn un o "awdlau gwychaf yr iaith Gymraeg".[3] Ym marn Thomas Parry, y gerdd hon oedd "uchafbwynt yr hen ganu clasurol disgrifiadol".[4] Er gwaethaf rhai diffygion ieithyddol yn deillio o ddylanwad William Owen Pughe, ystyriai R. M. Jones mai'r gerdd hon oedd un o gerddi hir orau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y Gymraeg (ynghyd â dwy gerdd Y Storm gan Islwyn ac Iesu Golyddan).[7] Cytuna Robert Rhys, gan nodi bod y gerdd yn "un o uchafbwyntiau y canu caeth eisteddfodol," er gwaethaf dylanwad Owen Pughe.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Awdl Dinyster Jerusalem gan Eben Fardd ar Wicidestun
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Stephens, Meic (gol.) (1997), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t.195.
- ↑ 3.0 3.1 Gruffydd, W. J. 'Eben Fardd' yn Y Llenor 1926 t.252
- ↑ 4.0 4.1 Thomas Parry. "Thomas, Ebenezer (Eben Fardd; 1802-1863". Cyrchwyd 23 Medi 2024.
- ↑ Cywydd y Farn Fawr ar wicidestun
- ↑ Stephens, Meic (gol.) (1997), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t.705.
- ↑ Jones, R. M. (1988) 'Rhagymadrodd' yn Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Barddas.
- ↑ Rhys, Robert (1999) 'Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg' yn Gwnewch Bopeth yn Gymraeg: Yr Iaith Gymraeg a'i pheuoedd, 1801-1911. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t.256