Hugh Jones

cyfieithydd ac emynydd

Emynwr, awdwr, bardd a chyfieithydd oedd Hugh Jones (tua Hydref 1749 - 16 Ebrill 1825), y cyfeirir ato'n aml fel Hugh Jones o Faesglasau.

Hugh Jones
Ganwyd24 Tachwedd 1749 Edit this on Wikidata
Mallwyd Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 1825 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Ni ddylid cymysgu Hugh Jones â'r baledwr ac anterliwtwr o'r un cyfnod, Huw Jones.

Gyrfa golygu

Ganwyd Hugh yn fab i William ac Elisabeth Jones yn eu tyddyn o'r enw Maesglasau, yng nghysgod Craig Maesglasau, plwyf Mallwyd, ger Dinas Mawddwy. Mae dyddiad ei eni yn anhysbys, ond cafodd ei fedyddio ar 24 Tachwedd, 1749.

Cafodd ei addysg elfennol gan gurad y plwyf. Aeth i Lundain lle cafodd swydd fel athro ysgol cynorthwyol. Ni arosodd yno'n hir a daeth adref yn 1774 i fugeilio ym Maesglasau. Yn ddiweddarach bu'n cadw ysgol yn Sir Feirionnydd (Dinas Mawddwy, Abercywarch, Mallwyd) a Sir Drefaldwyn.

Ar ôl rhoi'r gorau i'w swydd fel athro treuliodd weddill ei oes fel cyfieithydd yng ngwasanaeth cyhoeddwyr gogledd Cymru, yn cynnwys Richard Jones, Dolgellau, Lewis Evan Jones, Caernarfon, a Thomas Gee'r hynaf (tad Thomas Gee) yn Ninbych. Bu farw ar 16 Ebrill, 1825, ac fe'i claddwyd ym mynwent Henllan, ger Dinbych.

Gwaith llenyddol golygu

Gwaith cyntaf Hugh Jones yw ei lyfr mwyaf adnabyddus o lawer, sef Cydymaith i'r Hwsmon, a gyhoeddwyd ganddo yn Llundain yn 1774. Cyfres o fyfyrdodau gan Gristion ar y pedwar tymor a bywyd yr hwsmon yw'r llyfr. Er bod yr awdur yn tynnu nifer o foeswersi Beiblaidd mae'r gyfrol fechan yn cynnwys enghreifftiau o ryddiaith gaboledig ac arddull naturiol gyda gorau'r ganrif. Dyma ran o'i ddisgrifiad o'r Gaeaf, er enghraifft:

'Wele'r gaeaf wedi dyfod, ac yn dechrau tywallt ei ystormydd am ein pennau. Y ddaear fel gweddw alaethus, sydd yn gorwedd yn ei galarwisg, wedi ei diosg o'i holl wychder a'i thegwch gynt. Nid oes yn awr yn lle claearwch twymyn i'w thymheru, ond rhew caled, afrywiog yn llochesu yn ei mynwes; a'r eira megis cynfas wen, yn ymdannu drosti; fel na adwaenir ond prin y naill le oddi ar y llall. // Brigau'r coed a wisgir â lasiau gwynion, a'r bargodydd â chleddyfau llymion.'

Mae ei weithiau rhyddiaith eraill yn cynnwys cyfieithiad o waith Josephus (1,200 tudalen) ac Y Byd a Ddaw o waith y Dr Isaac Watts.

Fel bardd ac emynydd fe'i cofir yn bennaf am ei emyn 'O tyn y gorchudd yn y mynydd hyn', a ddisgrifwyd gan O. M. Edwards fel "yr emyn gorau yn yr iaith Gymraeg." Cyhoeddodd yn ogystal ddwy gyfrol o gerddi ac emynau, Gardd y Caniadau (1776) a Hymnau Newyddion (1797).

Dywedir fod Hugh Jones wedi ymddiddori yn yr anterliwtiau yn ei ieuenctid ac wedi ysgrifennu rhai, ond nid oes yr un i'w cael heddiw. Yn ôl yr hanes trôdd ei gefn arnynt dan ddylanwad Methodistiaeth.

Llyfrau Hugh Jones (detholiad) golygu

  • Cydymaith i'r Hwsmon (1774). Golygwyd gan Henry Lewis, Gwasg Prifysgol Cymru, 1949.
  • Gardd y Caniadau (1776)
  • Hymnau Newyddion (1797)

Ffynonellau golygu

  • Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1650 hyd 1850 (Lerpwl, 1893)
  • Henry Lewis (gol.), Cydymaith i'r Hwsmon (Caerdydd, 1949)