Agor y brif ddewislen

Dydd gŵyl answyddogol a ddethlir yng Nghymru ar 16 Medi i goffáu Owain Glyn Dŵr yw Diwrnod Owain Glyn Dŵr (enwau amgen: Dydd Gŵyl Owain Glyn Dŵr neu Gŵyl Owain Glyn Dŵr; hefyd Diwrnod Glyn Dŵr). Fe ddethlir ar 16 Medi am fod Owain Glyn Dŵr wedi cael ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru ar 16 Medi 1400 yn ystod ei wrthryfel mawr i ryddhau Cymru o ofal rheolaeth y Saeson.

Llun enwog A. C. Michael yn dangos Owain yn arwain ei fyddin i'r gad

Cyndyn fu sefydliadau'r wlad i gydnabod yr ŵyl hon, ond erbyn heddiw, er nad yw'n ŵyl gyhoeddus swyddogol, mae'n mwynhau statws mwy amlwg nag erioed. Un arwydd o'r cynydd fu'r penderfyniad i hedfan baner Glyn Dŵr ar furiau Castell Caerdydd ar 16 Medi 2006, mewn ymateb i bwysau gan y cyhoedd.[1]

Dathliadau 2008Golygu

Yn 2008, gydag Alun Ffred Jones AC (Plaid Cymru) yn Weinidog Treftadaeth yn Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd Cadw eu bod am chwifio baner Owain Glyn Dŵr ar gestyll Caernarfon, Caerffili, Conwy a Harlech. Ymosodwyd ar y tri chastell cyntaf, a godwyd gan y Saeson, gan luoedd y Tywysog a bu Castell Harlech yn ei feddiant ac yn gadarnle pwysig yn y gwrthryfel. Mae'r faner yn cael ei hedfan yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis a'r Pwll Mawr ym Mlaenafon hefyd. Yn nhref Dinbych penderfynodd y Cyngor hedfan Baner Glyn Dŵr ar adeiladau'r cyngor (ymosodiad Glyn Dŵr ar Ddinbych, tref garsiwn Seisnig ar y pryd, oedd un o ddigwyddiadau cyntaf y gwrthryfel). Ym Machynlleth, lle cynhelid Senedd Glyn Dŵr yn ystod y gwrthryfel, trefnwyd dathlu am dri ddiwrnod gyda sesiynau barddoni dan arweiniad Twm Morys a Meirion MacIntyre a gweithgareddau eraill.[2]

Erbyn 2011, mae'r Ŵyl yn ennill ei phlwyf. Cynhelir achlysur i goffáu'r arwr yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog-fawr, yn ogystal â mannau eraill.

CyfeiriadauGolygu

  1. BBC Wales News
  2. BBC Cymru, Newyddion, 16 Medi 2008 "Chwifio baner Owain Glyndwr".

Gweler hefydGolygu