Diwrnod Owain Glyn Dŵr
Dydd gŵyl answyddogol a ddethlir yng Nghymru ar 16 Medi i goffáu Owain Glyn Dŵr yw Dydd Owain Glyn Dŵr[1] (neu Diwrnod Owain Glyndŵr).
Llun enwog A.C.Michael yn dangos Owain Glyndŵr yn arwain ei fyddin i'r gad | |
Enghraifft o'r canlynol | Gŵyl |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe ddethlir ar 16 Medi am fod Owain Glyn Dŵr wedi cael ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru ar 16 Medi 1400 yn ystod ei wrthryfel mawr i ryddhau Cymru o ofal rheolaeth y Saeson.
Gwneud yn Wŷl y Banc
golyguYn 2021, galwodd Nia Jones o Bwyllgor Gŵyl Dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr Corwen, i wneud Dydd Glyndŵr yn Ŵyl y Banc. Bu Dafydd Wigley hefyd yn cefnogi'r galw gan ddweud, "dylai unrhyw wyliau cenedlaethol newydd gynnwys 16 Medi fel Diwrnod Owain Glyndŵr.”[2]
Dathliadau
golygu2000au
golyguYn 2006, hedfannwyd baner Glyn Dŵr ar furiau Castell Caerdydd ar 16 Medi mewn ymateb i nifer o geisiadau gan y cyhoedd.[3] Bu Sain Ffagan (Amgueddfa Werin Cymru) yn cynnal nifer o ddigwyddiadau dros y penwythnos er cof am Glyndŵr.[4]
Yn 2008, gydag Alun Ffred Jones AC (Plaid Cymru) yn Weinidog Treftadaeth yn Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd Cadw eu bod am chwifio baner Owain Glyn Dŵr ar gestyll Caernarfon, Caerffili, Conwy a Harlech. Ymosodwyd ar y tri chastell cyntaf, a godwyd gan y Saeson, gan luoedd y Tywysog a bu Castell Harlech yn ei feddiant ac yn gadarnle pwysig yn y gwrthryfel. Mae'r faner yn cael ei hedfan yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis a'r Pwll Mawr ym Mlaenafon hefyd. Yn nhref Dinbych penderfynodd y Cyngor hedfan Baner Glyn Dŵr ar adeiladau'r cyngor (ymosodiad Glyn Dŵr ar Ddinbych, tref garsiwn Seisnig ar y pryd, oedd un o ddigwyddiadau cyntaf y gwrthryfel). Ym Machynlleth, lle cynhelid Senedd Glyn Dŵr yn ystod y gwrthryfel, trefnwyd dathlu am dri ddiwrnod gyda sesiynau barddoni dan arweiniad Twm Morys a Meirion MacIntyre a gweithgareddau eraill.[5]
2010au
golyguYn 2012, fe wnaeth cwmni IAITH Cyf. O Gastellnewydd Emlyn gynnig i’w gweithwyr beidio â dathlu Jiwbili Brenhines Lloegr gyda diwrnod o wyliau ac yn lle i gael y cyfle i ddathlu Diwrnod Owan Glyndŵr.[6]
2020au
golyguYn 2019, cynaliwyd Gŵyl y Fflam yng Nghorwen i godi ymwybyddiaeth o hanes Cymru ar benwythnos Dydd Glyndŵr (14 ac 15 Medi). Ailgrewyd cartref a llys Glyndŵr, Sycharth yn rithiol fel rhan o'r wŷl.[7][8]
Yn 2022, cafodd gorymdaith flynyddol Corwen ei chanslo yn dilyn marwolaeth Elizabeth Windsor (brenhines y Deyrnas Unedig).[9] Er hyn, bu dathliadau ger cerflun Owain Glyndŵr, Corwen beth bynnag. Bu disgyblion Ysgol y Felinheli fyn dathlu'r diwrnod ar y dydd Gwener fel sawl ysgol arall. Bu'r disgyblion yn gwisgo crysau t coch a melyn i ddathlu.[10][9]
Yn 2023, cynlluniodd Cadw cyfres o weithgareddau i'r diwrnod yng Nghastell Rhuddlan.[11] Trafodwyd y posibilirwydd o ddod a chartref Owain Glyndŵr, sef Sycharth i berchnogaeth cyhoeddus ar 13 Medi 2023. Roedd hyn yn dilyn deiseb gan gynghorydd Gwynedd Plaid Cymru, Elfed Wyn ap Elwyn a gyflwynwyd i'r Senedd gyda dros 10,000 o lofnodion.[12]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Owain Glyndŵr". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 2023-09-14.
- ↑ "Galw am Ŵyl y Banc i ddathlu Diwrnod Owain Glyndŵr". newyddion.s4c.cymru. 2023-09-14. Cyrchwyd 2023-09-14.
- ↑ "Glyndwr flag flies at city castle" (yn Saesneg). 2005-09-12. Cyrchwyd 2023-09-14.
- ↑ "Dathlu Arwr o Gymru - Diwrnod Owain Glyndŵr yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru". Museum Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-07. Cyrchwyd 2023-09-14.
- ↑ "Chwifio baner Owain Glyndwr" (yn Saesneg). 2008-09-16. Cyrchwyd 2023-09-14.
- ↑ "Gŵyl Banc Owain Glyndŵr". Golwg360. 2012-05-11. Cyrchwyd 2023-09-14.
- ↑ "Gŵyl newydd i 'ddeffro' ymwybyddiaeth o hanes Cymru". BBC Cymru Fyw. 2019-09-12. Cyrchwyd 2023-09-14.
- ↑ "Gŵyl y Fflam: codi ymwybyddiaeth o hanes Cymru". Golwg360. 2019-09-12. Cyrchwyd 2023-09-14.
- ↑ 9.0 9.1 "Canslo digwyddiad i gofio Owain Glyndŵr yn 'eironig'". BBC Cymru Fyw. 2022-09-15. Cyrchwyd 2023-09-14.
- ↑ "Pobl ar draws Cymru yn nodi diwrnod Owain Glyndŵr". newyddion.s4c.cymru. 2023-09-14. Cyrchwyd 2023-09-14.
- ↑ "Diwrnod Owain Glyndŵr | Cadw". cadw.llyw.cymru. Cyrchwyd 2023-09-14.
- ↑ "Dadl am brynu Sycharth ar drothwy Diwrnod Owain Glyndŵr". Golwg360. 2023-09-13. Cyrchwyd 2023-09-14.