Economi Casnewydd

Yn hanesyddol diwydiant trwm, yn enwedig cynhyrchu dur, oedd sail economi Casnewydd. Tyfodd y dref[1] yn gyflym yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, ac erbyn hanner cyntaf y 19g Casnewydd oedd brif dref y De gyda mwy o gyfoeth na Chaerdydd ac Abertawe gyda'i gilydd. Ar ôl eu gorffen, Dociau'r Hen Dref oedd y dociau mwyaf yn Ewrop yn anterth y diwydiant llongau. Yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol mae'r ddinas wedi teimlo ergydion cau a lleihau'r gweithlu mewn gweithfeydd diwydiannol.[2]

Dociau Casnewydd yn 2010

Heddiw saif Casnewydd ar Goridor yr M4, rhwng prifddinas Cymru, Caerdydd, a Bryste yn Lloegr. Ym mlynyddoedd diweddar mae'r ddinas wedi buddsoddi'n uchel mewn sectorau economaidd modern, yn bennaf diwydiannau gwasanaethau ac uwch-dechnoleg. Yn y degawd diwethaf bu mwy na £3 biliwn o fuddsoddiad preifat a chrewyd dros 10 000 o swyddi. Mae Casnewydd ymhlith y pum lleoliad uchaf o ran sefydlu busnesau yn y Deyrnas Unedig.[2]

Casnewydd fydd yn cynnal Cwpan Ryder 2010 ar gwrs golff y Celtic Manor. Ystyrid y fydd hyn yn hwb i economi Casnewydd a Chymru i gyd, yn enwedig y diwydiant twristiaeth; rhagwelir y bydd y gystadleuaeth golff yn denu 30 000 o ymwelwyr ychwanegol i Gymru.[3] Yn ôl gwefan swyddogol y gystadleuaeth, "amcangyfrifir bod cynnal y digwyddiad yng Nghymru (gwerth) dros £40m mewn mewnlif arian uniongyrchol, gyda chyfanswm effaith gwariant o £67m o bosibl".[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwnaed Casnewydd yn ddinas yn 2002.
  2. 2.0 2.1  Strategaeth Gymunedol Casnewydd – llunio'r dyfodol gyda'n gilydd 2005 - 2015. Adalwyd ar 26 Medi, 2008.
  3.  Cwpan Ryder Cymru 2010. Llywodraeth Cynulliad Cymru. Adalwyd ar 26 Medi, 2008.
  4.  Busnes. Cwpan Ryder Cymru 2010. Adalwyd ar 26 Medi, 2008.

Dolenni allanol golygu