Edeulys Turner

rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu
Edeulys Turner
Cephaloziella turneri
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Cephaloziellaceae
Genws: Cephaloziella
Rhywogaeth: C. turneri
Enw deuenwol
Cephaloziella turneri

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys Turner (enw gwyddonol: Cephaloziella turneri; enw Saesneg: Turner's threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae'r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru ond yn eithriadol brin: fe'i ceir ar arfordir deheuol Sir Benfro ac un lle yn sir Fynwy. mewn un neu ddau o lefydd mae'n tyfu yn Iwerddon ac yn yr Alban hefyd, ond fe'i ceir yng Nghernyw a Dyfnaint.

Disgrifiad

golygu

Dyma un o lysiau'r afu mwyaf prydferth Mae'r dail tua 0.25 mm gyda dau labed anghyfartal eu maint, gyda phob un yn ddaneddog; maent i'w gweld yn glir trwy chwyddwydr. Mae ei egin gwyrdd, main yn llai na 0.5 mm o led, ac mae'r planhigyn fel pe tai'n ymlusgo ymysg mwsoglau bach.

Yn aml, fe'i ceir ar bridd asidig serth, ymysg gwreiddiau coed, arfordirol.

Llysiau'r afu

golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

  Safonwyd yr enw Edeulys Turner gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.