Ednyfed Hudson Davies
Roedd Gwilym Ednyfed Hudson Davies a adwaenid fel Ednyfed Hudson Davies (4 Rhagfyr 1929 – 11 Ionawr 2018)[1] yn wleidydd Cymreig. Yn fab i'r Parch Curig Davies, defnyddiodd yr enw Ednyfed Curig Davies am gyfnod. Yn y 1960au roedd yn gyflwynydd teledu ar BBC Cymru a TWW.
Ednyfed Hudson Davies | |
---|---|
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1929 |
Bu farw | 11 Ionawr 2018 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gyrfa
golyguAddysgwyd Hudson Davies yn Ysgol Ramadeg Dinefwr, Abertawe, Prifysgol Cymru, Abertawe, a Choleg Balliol, Rhydychen. Daeth yn ddarlithydd ar lywodraeth ac yn ddarlledwr.
Ymunodd â'r Blaid Lafur a chafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Conwy yn 1966, ond collodd y sedd i'r Ceidwadwr Wyn Roberts yn 1970. Cafodd ei ethol i gynrychioli Caerffili, yn 1979. Yn 1981 yr oedd ymhlith yr ASau Llafur a ymunodd â Phlaid y Democratiaid Cymdeithasol (SDP) newydd.
Yn 1983 safodd fel ymgeisydd yr SDP yn Basingstoke ond collodd. Ers hynny ymddeolodd o wleidyddiaeth plaid a cymerodd sawl swydd gyhoeddus. Daeth yn Gadeirydd ar Fwrdd Croeso Cymru yn 1975 a bu'n Gyfarwyddwyr Awdurdod Twristiaeth Prydain. Roedd yn gyfarwyddwyr cychwynnol ac yn cadeirydd i Ganolfan Fenter Fforest Newydd. Am sawl blwyddyn roedd yn Ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Wessex. Roedd hefyd yn Gadeirydd ar Grŵp radio masnachol Lincs FM a Llywydd Canolfan ac Amgueddfa Y Fforest Newydd yn Lyndhurst.[2]
Bu farw'n 2018, yn 88 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ednyfed Hudson Davies: gwleidydd oedd yn “gwrando ar bobol” , Golwg360.
- ↑ (Saesneg) Wessex Heritage Trust - Trustees. Wessex Heritage Trust. Adalwyd ar 11 Ionawr 2018.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Peter Thomas |
Aelod Seneddol dros Gonwy 1966 – 1970 |
Olynydd: Wyn Roberts |
Rhagflaenydd: Fred Evans |
Aelod Seneddol dros Gaerffili 1979 – 1983 |
Olynydd: Ron Davies |