Peter Thomas
Peter John Mitchell Thomas, Barwn Thomas o Wydir (31 Gorffennaf 1920 - 4 Chwefror 2008), oedd y Ceidwadwr cyntaf i weithredu fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, swydd a ddaliodd o 20 Mehefin 1970 hyd 5 Mawrth 1974.
Peter Thomas, Barwn Thomas o Wydir | |
Cyfnod yn y swydd 20 Mehefin 1970 – 5 Mawrth 1974 | |
Rhagflaenydd | George Thomas |
---|---|
Olynydd | John Morris |
Geni | 31 Gorffennaf 1920 |
Marw | 4 Chwefror 2008 |
Etholaeth | Conwy (1951-1966) De Hendon (1970-1987) |
Plaid wleidyddol | Ceidwadol |
GyrfaGolygu
Ganed ef yn fab i gyfreithiwr yn Llanrwst, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Epworth, Y Rhyl a Coleg yr Iesu, Rhydychen. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd treuliodd y cyfnod 1941-1945 yn garcharor rhyfel yn yr Almaen. Bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Conwy am 15 mlynedd, o 1951 hyd 1966, pan gollodd y sedd i Ednyfed Hudson Davies (Llafur). Daeth yn Aelod Seneddol dros etholaeth Hendon South yn 1970, a'r un flwyddyn penododd Edward Heath ef yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ef oedd yr Ysgrifennydd cyntaf nad oedd yn cynrychioli etholaeth Gymreig.
Cadwodd sedd Hendon South nes iddi ymddeol yn 1987. Y flwyddyn honno cafodd y teitl Barwn Thomas o Wydir.
Bu'n gadeirydd y Blaid Geidwadol am ddwy flynedd. Fel Aelod Seneddol ar y meinciau cefn, bu'n gyfrifol am newid y ddeddf i alluogi cynghorau lleol i roi cefnogaeth ariannol i'r Eisteddfod Genedlaethol. Bu hefyd yn gyfrifol am Gyngor yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd yn 1973.
Dolen allanolGolygu
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Elwyn Jones |
Aelod Seneddol dros Gonwy 1951 – 1966 |
Olynydd: Ednyfed Hudson Davies |
Rhagflaenydd: Syr Hugh Lucas-Tooth |
Aelod Seneddol dros Dde Hendon 1970 – 1987 |
Olynydd: John Leslie Marshall |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: George Thomas |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru 20 Mehefin 1970 – 5 Mawrth 1974 |
Olynydd: John Morris |