Edward Grey, Is-iarll 1af Grey o Fallodon
Gwleidydd o'r Blaid Ryddfrydol o Sais oedd Syr Edward Grey, 3ydd Barwnig (wedi 1916: Edward Grey, Is-iarll 1af Grey o Fallodon; 25 Ebrill 1862 – 7 Medi 1933) a wasanaethodd yn Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig o 1905 i 1916.
Edward Grey, Is-iarll 1af Grey o Fallodon | |
---|---|
Syr Edward Grey, tua 1914 | |
Ganwyd | 25 Ebrill 1862 Fallodon |
Bu farw | 7 Medi 1933 Fallodon |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, adaregydd, chwaraewr tenis brenhinol, pendefig |
Swydd | Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor a'r Gymanwlad, Parliamentary Under-Secretary of State for Foreign Affairs, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, llysgennad, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Chancellor of the University of Oxford |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | George Henry Grey |
Mam | Harriet Jane Pearson |
Priod | Pamela Wyndham, Dorothy Widdrington |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Sŵolegol, Urdd y Gardas |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Ganed yn Llundain i deulu bonheddig o'r traddodiad Chwig–Ryddfrydol. Ei hen, hen ewythr oedd Charles Grey, 2ail Iarll Grey, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig o 1830 i 1834. Astudiodd yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, er nad oedd yn fyfyriwr astud. Etifeddodd farwnigiaeth ac ystâd ei dad-cu ym 1882. Eisteddai yn Nhŷ'r Cyffredin o 1885 nes iddo gael ei greu'n is-iarll ym 1916. Yn ystod y rhwyg yn y Blaid Ryddfrydol dros Ail Ryfel y Boer (1899–1902), ymochrai Grey â'r garfan imperialaidd dan arweiniad H. H. Asquith.
Penodwyd Grey yn Ysgrifennydd Tramor y Deyrnas Unedig ar 10 Rhagfyr 1905, yn llywodraeth Ryddfrydol y Prif Weinidog Syr Henry Campbell-Bannerman. Ni wyrodd oddi ar bolisi ei ragflaenydd, yr Ardalydd Lawnsdowne, o gefnogi Ffrainc yn erbyn yr Almaen yn ystod argyfwng Moroco (1905–06), a rhoddai ei awdurdod i gudd-gynadleddau rhwng staffiau milwrol Prydain a Ffrainc. Ym 1907 daeth i gytundeb ag Ymerodraeth Rwsia gan ddod â therfyn i'r Gêm Fawr, sef y cystadlu rhwng y ddwy ymerodraeth dros reolaeth Canolbarth Asia. Parhaodd Grey yn ei swydd wedi i H. H. Asquith olynu Campbell-Bannerman yn Brif Weinidog yn Ebrill 1908. Addawodd gefnogaeth ei wlad unwaith eto i'r Ffrancod yn erbyn yr Almaen yn ystod argyfwng Agadir (1911), gan galedu cynghrair milwrol "y Cytundeb Triphlyg" rhwng Prydain, Ffrainc, a Rwsia, yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn sgil dechrau'r rhyfel hwnnw ym 1914, llwyddodd Grey i ddwyn perswâd ar y cabinet i ddatgan rhyfel yn erbyn yr Almaen yn ffurfiol er mwyn sicrhau niwtraliaeth Gwlad Belg, yn hytrach na thrwy'r cynghrair anffurfiol â Ffrainc. Bu Grey hefyd yn gyfrifol, trwy Gytundeb Llundain (1915), am sicrhau y byddai'r Eidal yn ymladd yn y rhyfel ar ochr y Cytundeb Triphlyg.
Ymddeolodd Grey o swydd yr Ysgrifennydd Tramor ar 5 Rhagfyr 1916, yr un pryd ag ymddiswyddo'r Prif Weinidog Asquith, a derbyniodd ei is-iarllaeth. Aeth ar daith i Unol Daleithiau America ym 1919 mewn ymgais aflwyddiannus i ddadlau o blaid ymaelodaeth y wlad honno â Chynghrair y Cenhedloedd. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Twenty-five Years, 1892–1916, ym 1925, ac yn yr hwnnw ymddengys ei ddyfyniad enwog am ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf: "Mae’r lampau yn diffodd ar hyd a lled Ewrop, ni fyddwn yn eu gweld nhw wedi cynnau eto yn ein hoes ni." Bu farw yn Fallodon, Northumberland, yn 71 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Sir Edward Grey, 3rd Baronet. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Hydref 2021.
Darllen pellach
golygu- T. G. Otte, Statesman of Europe: A Life of Sir Edward Grey (Llundain: Allen Lane, 2020)