Edward Treharne
Roedd Edward Llewellyn Treharne (22 Mawrth, 1862 – 29 Rhagfyr, 1904) yn feddyg ac yn flaenwr rygbi'r undeb Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Bontypridd a Chaerdydd, a rygbi rhyngwladol i Gymru. Roedd yn aelod o dîm rhyngwladol cyntaf Cymru a chwaraeodd yn erbyn Lloegr ym 1881.
Edward Treharne | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mawrth 1862 Rhondda Cynon Taf |
Bu farw | 29 Rhagfyr 1904 y Barri |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, meddyg |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Pontypridd |
Cefndir
golyguGanwyd Treharne ym Mhentre'r Rhondda, plwyf Ystradyfodwg, yn blentyn i David Treharne, asiant tir ac Elizabeth (née Thomas) ei wraig. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysgol Ramadeg Y Bont-faen.[1]
Gyrfa
golyguAr ôl gadael yr ysgol aeth Treharne i weithio fel cynorthwyydd meddygol mewn meddygfa leol. Aeth i Goleg Meddygol Ysbyty Sant Bartholomeus, Llundain am hyfforddiant meddygol. Wedi llwyddo yn arholiadau'r Coleg Brenhinol y Llawfeddygon a'r Meddygon aeth i Brifysgol Caeredin lle cwblhaodd gradd mewn meddygaeth Wedi gorffen ei hyfforddiant agorodd meddygfa yn Nhregatwg, Y Barri ym 1888. [1] Yn ogystal â bod yn feddyg teulu roedd Treharne hefyd yn gwasanaethu fel llawfeddyg yr heddlu ac yn rhoi tystiolaeth feddygol mewn llysoedd barn ar ran yr heddlu. [2] Roedd yn gwasanaethu hefyd fel Swyddog Meddygol Bwrdd Gwarcheidwaid y Tlodion Caerdydd dros ardal Ddwyreiniol y Barri. [3]
Yn ogystal â bod yn feddyg roedd Dr Treharne yn ŵr gweithgar yn y gymuned. Roedd yn aelod o Fwrdd Lleol y Barri, a Bwrdd Ysgolion Y Barri. Ar y bwrdd ysgol roedd yn bleidiol iawn i sicrhau bod plant Cymraeg eu hiaith yn cael addysg trwy'r Gymraeg. Er ei fod yn Geidwadwr o ran gwleidyddiaeth, ac yn gwasanaethu fel Cadeirydd Cangen y Barri o'r blaid [4] gwasanaethodd fel llywydd cangen Tregatwg o Gymru Fydd hefyd. [1] Roedd yn aelod o'r Seiri Rhyddion [5] ac yn flaenllaw yng ngweithgareddau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion. [6] Ym 1896 fe'i penodwyd yn Ynad Heddwch ar Fainc Ynadon Sir Forgannwg. [7] Roedd yn aelod o Gyngor Dosbarth y Barri [8] ac yn aelod o Gyngor Sir Forgannwg. [9]
Gyrfa rygbi
golyguDechreuodd Treharne i chware rygbi i dîm Ysgol Ramadeg Y Bont-faen. Ymunodd a thîm Pontypridd ym 1880 [10] Pan gafodd ei alw i fod yn aelod o dîm Cymru ym 1881 daeth hefyd y cyntaf o lawer o chwaraewyr Pontypridd i gynrychioli ei wlad. Cafodd Cymru crasfa gan Loegr yn ei gêm ryngwladol cyntaf gan golli o 13 cais ac 8 gôl i ddim.
Chwaraewyd pencampwriaeth rygbi'r pedair gwlad (a datblygodd i'r pum gwlad ac wedyn i'r chwe gwlad) am y tro cyntaf yn nhymor 1882/83. Dewiswyd Treharne ar gyfer gêm agoriadol y bencampwriaeth, yn erbyn Lloegr. Colli bu hanes Cymru eto ond gyda chanlyniad mwy parchus o 2 Gôl, 4 Cais i ddim.
Gemau rhyngwladol
golyguCymru[11]
- Lloegr 1881, 1883
Teulu
golyguBu Treharne yn briod ddwywaith. Ym 1885 priododd Lydia Elizabeth (Nelly) Billings, bu iddynt dau fab, bu farw'r mab ieuengaf Leslie Llewellyn ar faes y gad yn Ffrainc ym 1915. Bu farw Nellie ym mis Mehefin 1897. [12] Ym 1899 priododd ei ail wraig Margaret Louise Crooke, [13] ni fu iddynt blant.
Marwolaeth
golyguBu farw Treharne yn sydyn yn ei gartref yn Llangatwg yn 42 mlwydd oed o drawiad ar y galon. [14] Claddwyd ei weddillion ym mynwent Merthyr Dyfan, Y Barri.[15]
-
Treharne yn y rheng ôl, yr ail o'r dde, gyda thîm rhyngwladol cyntaf Cymru, 1881
-
Margaret Louise ail wraig Dr Treharne
Llyfryddiaeth
golygu- Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883–1983. Llundain: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
- Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
- Harris, Gareth; Evans, Alan (1997). Pontypridd RFC, The Early Years. Rugby Unlimited. ISBN 0-9531714-0-X.
- Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrecsam: Bridge Books. ISBN 1-872424-10-4.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "BARRY DISTRICT SCHOOL BOARD - Barry Dock News". South Wales Advertising, Printing, and Publishing Company. 1892-12-16. Cyrchwyd 2021-04-25.
- ↑ "CROWN COURT - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1893-03-22. Cyrchwyd 2021-04-25.
- ↑ "Y DEHEU - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1902-07-26. Cyrchwyd 2021-04-25.
- ↑ "DR E TREHARNE OF CADOXTON BARRY - Barry Dock News". South Wales Advertising, Printing, and Publishing Company. 1893-12-01. Cyrchwyd 2021-04-25.
- ↑ "MASONIC GATHERING AT CADOXTON BARRY - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1894-10-04. Cyrchwyd 2021-04-25.
- ↑ "BETH A WNEIR YN NGHYMRU - Papur Pawb". Daniel Rees. 1900-02-24. Cyrchwyd 2021-04-25.
- ↑ "GLAMORGAN MAGISTRATES - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1896-03-05. Cyrchwyd 2021-04-25.
- ↑ "District Council Elections - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1897-03-19. Cyrchwyd 2021-04-25.
- ↑ "COUNTY COUNCIL ELECTION - Barry Dock News". South Wales Advertising, Printing, and Publishing Company. 1898-03-04. Cyrchwyd 2021-04-25.
- ↑ Ponty Net Hall of Fame adalwyd 25 Ebrill 2021
- ↑ Smith (1980), pg 463.
- ↑ "Family Notices - Barry Dock News". South Wales Advertising, Printing, and Publishing Company. 1897-06-11. Cyrchwyd 2021-04-25.
- ↑ "MARRIAGE OF DR TREHARNE BARRY - The Western Mail". Abel Nadin. 1899-04-27. Cyrchwyd 2021-04-25.
- ↑ "THE LATE DR E TREHARNE JP CADOXTON BARRY - Barry Dock News". South Wales Advertising, Printing, and Publishing Company. 1905-01-06. Cyrchwyd 2021-04-25.
- ↑ "Edward Llewellyn Treharne (1862-1904) - Find A..." www.findagrave.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-25.