Effaith amaethyddiaeth ar yr amgylchedd

Effaith amgylcheddol amaethyddiaeth yw’r effaith y mae arferion ffermio gwahanol yn ei chael ar yr ecosystemau o’u cwmpas.[1] Mae'r effaith yn amrywio'n fawr ac yn seiliedig ar arferion y ffermwyr. Bydd cymunedau ffermio sy'n ceisio lleihau effeithiau amgylcheddol trwy addasu eu harferion yn troi at arferion amaethyddol cynaliadwy. Mae effaith negyddol amaethyddiaeth yn hen fater sy'n parhau i fod yn bryder hyd yn oed wrth i arbenigwyr ddylunio dulliau arloesol o leihau dinistr a gwella eco-effeithlonrwydd.[2] Er bod rhywfaint o fugeiliaeth dda i'r amgylchedd, mae arferion magu anifeiliaid yn y dull modern yn tueddu i fod yn fwy dinistriol i'r amgylchedd nag arferion sy'n canolbwyntio ar ffrwythau, llysiau a biomas. Mae allyriadau amonia o wastraff gwartheg yn parhau i godi pryderon ynghylch llygredd amgylcheddol, a hynny yn ei dro'n cynyddu effeithiau newid hinsawdd.[3]

Effaith amaethyddiaeth ar yr amgylchedd
Enghraifft o'r canlynoleffaith amgylcheddol Edit this on Wikidata
Cynaeafu modern

Wrth werthuso effaith amaethyddiaeth fodern ar yr amgylchedd, mae arbenigwyr yn defnyddio dau fath o ddangosydd: "yn seiliedig ar fodd" (means-based), sy'n seiliedig ar ddulliau cynhyrchu'r ffermwr, a "seiliedig ar effaith" (effect-based), sef yr effaith y mae dulliau ffermio'n ei chael ar yr Amgylchedd. Enghraifft o ddangosydd sy'n seiliedig ar fodd fyddai ansawdd dŵr o'r Ddaear, sy'n cael ei effeithio gan faint o nitrogen a roddir yn y pridd. Byddai dangosydd sy'n adlewyrchu colli nitrad i ddŵr daear yn seiliedig ar effaith.[4] Mae'r gwerthusiad sy'n seiliedig ar fodd yn edrych ar arferion ffermwyr, ac mae'r gwerthusiad ar sail effaith yn ystyried effeithiau gwirioneddol y system amaethyddol. Er enghraifft, gallai’r dadansoddiad ar sail modd edrych ar blaladdwyr a dulliau ffrwythloni y mae ffermwyr yn eu defnyddio, a byddai dadansoddiad ar sail effaith yn ystyried faint o CO sy’n cael ei ollwng neu beth yw cynnwys nitrogen y pridd.[4]

Mae effaith amaethyddiaeth ar yr amgylchedd yn cynnwys effeithiau ar amrywiaeth o wahanol ffactorau: y pridd, dŵr, yr aer, amrywiaeth yr anifeiliaid, pobl, planhigion, a'r bwyd a gynhyrchir. Mae'n cyfrannu at nifer enfawr o broblemau amgylcheddol sy'n achosi diraddio'r amgylcheddol gan gynnwys: newid hinsawdd, datgoedwigo, colli bioamrywiaeth,[5] parthau marw, peirianneg genetig, problemau dyfrhau, llygryddion, diraddio pridd, a gwastraff sbwriel.[6] Oherwydd pwysigrwydd amaethyddiaeth i fywyd, mae'r gymuned ryngwladol wedi ymrwymo i gynyddu cynaliadwyedd cynhyrchu bwyd fel rhan o Nod Datblygu Cynaliadwy 2: “Diwedd newyn, sicrhau diogelwch bwyd a gwell maeth a hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy”.[7] Nododd adroddiad 2021 Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig "Making Peace with Nature" fod amaethyddiaeth yn gyrru'r diwydiant ac sydd ar yr un pryd dan fygythiad oherwydd diraddio amgylcheddol.[8] Paradocs diddorol.

Yn ôl problemau amgylcheddol golygu

Newid hinsawdd golygu

Mae newid hinsawdd ac amaethyddiaeth bartneriaid agos iawn, gyda'r ddau'n digwydd ar raddfa fyd-eang. Rhagwelir y bydd cynhesu byd-eang yn cael effaith sylweddol ar amodau sy'n effeithio ar amaethyddiaeth, gan gynnwys tymheredd, dyodiad a dŵr ffo rhewlifol. Mae'r amodau hyn yn pennu cynhwysedd cludo'r biosffer i gynhyrchu digon o fwyd ar gyfer pobol ac anifeiliaid dof. Mae lefelau carbon deuocsid cynyddol hefyd yn cael effeith niweidiol a buddiol ar gynnyrch cnydau. Gall asesiad o effeithiau newid hinsawdd byd-eang ar amaethyddiaeth helpu i ragweld ac addasu ffermio er mwyn cynyddu cynhyrchiant amaethyddol. Er bod effaith net newid hinsawdd ar gynhyrchiant amaethyddol yn ansicr, mae'n debygol y bydd yn symud y parthau tyfu addas ar gyfer cnydau unigol. Bydd addasu i'r newid daearyddol hwn yn golygu costau economaidd sylweddol a bydd yn effeithio ar gymdeithasau di-ri. Un esiampl o hyn yw Cotton 2050 sy'n asesu effaith newid hinsawdd ar y diwydiant cotwm, ledled y byd.[9]

Mae'r rhan fwyaf o'r allyriadau methan yn deillio o ddefnyddio da byw, yn enwedig anifeiliaid cnoi cil fel gwartheg a moch. Mae gan dda byw eraill, fel dofednod a physgod, allyriadau llawer llai.[10] Mae rhai atebion i'r broblem yn cael eu datblygu i wrthsefyll allyriadau anifeiliaid cnoi cil ee drwy ddefnyddio bio-nwy o dail,[11] dethol genetig,[12][13] imiwneiddio, [14] cyflwyno bacteria methanotroffig i'r rwmen,[15][16] addasu diet a rheoli pori.[17][18] [19] Mae rhai newidiadau diet (fel gydag Asparagopsis taxiformis) yn caniatáu gostyngiad o hyd at 99% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr anifeiliaid cnoi cil.[20][21] Oherwydd yr effeithiau negyddol hyn, ac effeithlonrwydd ffermio mae un amcangyfrif yn sôn am ddirywiad mawr mewn gwartheg, mewn rhai gwledydd erbyn 2030.[22][23]

Datgoedwigo golygu

Datgoedwigo yw clirio coedwigoedd y Ddaear ar raddfa fawr ac yn arwain at lawer o ddifrod. Un o'r rhesymau dros datgoedwigo yw er mwyn gwneud lle ar gyfer porfa neu gnydau. Yn ôl yr amgylcheddwr Seisnig Norman Myers, mae 5% o ddatgoedwigo o ganlyniad i ransio gwartheg, 19% oherwydd torri coed, 22% oherwydd y sector cynyddol o blanhigfeydd olew palmwydd, a 54% oherwydd ffermio torri-a-llosgi.[24]

Mae datgoedwigo yn achosi colli cynefin i filiynau o rywogaethau, ac mae hefyd yn sbardun i newid hinsawdd. Gweithreda coed fel sinc carbon : hynny yw, maen nhw'n amsugno carbon deuocsid, nwy tŷ gwydr diangen, allan o'r atmosffer. Drwy gael gwared ar goed, rhyddheir carbon deuocsid i'r atmosffer a gadewir llai o goed ar ôl i amsugno'r swm cynyddol o garbon deuocsid yn yr aer. Yn y modd hwn, mae datgoedwigo'n gwaethygu newid hinsawdd. Pan fydd coed yn cael eu tynnu o goedwigoedd, mae'r priddoedd yn tueddu i sychu oherwydd nad oes cysgod bellach, ac nid oes digon o goed i gynorthwyo yn y cylch dŵr trwy ddychwelyd anwedd dŵr yn ôl i'r amgylchedd. Heb unrhyw goed, gall tirweddau a fu unwaith yn goedwigoedd droi'n anialwch diffrwyth. Mae gwreiddiau'r goeden hefyd yn helpu i ddal y pridd gyda'i gilydd, felly pan fyddant yn cael eu tynnu, gall llithriadau llaid (tirlithriadau) ddigwydd hefyd. O dynnu coed o'u cynefin, ceir amrywiadau eithafol mewn tymheredd.[25]

Amaethyddiaeth gynaliadwy golygu

Amaethyddiaeth gynaliadwy yw’r syniad y dylai amaethyddiaeth ddigwydd mewn ffordd sy’n golygu y gellir parhau i gynhyrchu’r hyn sy’n angenrheidiol heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i wneud yr un peth.

Mae'r cynnydd esbonyddol yn y boblogaeth yn y degawdau diwethaf wedi cynyddu'r arfer o droi tir amaethyddol i ateb y galw am fwyd sydd yn ei dro wedi cynyddu effeithiau negyddol ar yr amgylchedd. Dal i godi mae poblogaeth y byd, ond ni all barhau i godi am byth.

Gall amaethyddiaeth gael effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth hefyd.[5] Mae ffermio organig yn gyfres o arferion cynaliadwy amlochrog a all gael llai o effaith ar yr amgylchedd. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion mae ffermio organig yn arwain at lai o gynnyrch fesul ardal / uned.[26] Felly, bydd mabwysiadu amaethyddiaeth organig yn eang yn gofyn am glirio tir ychwanegol ac echdynnu adnoddau dŵr i fodloni'r un lefel o gynhyrchu. Canfu dadansoddiad Ewropeaidd fod ffermydd organig yn tueddu i fod â chynnwys uwch o ddeunydd organig yn y pridd a cholledion llai o faetholion fesul uned o arwynebedd cae ond allyriadau amonia uwch.[27] Mae llawer yn credu bod systemau ffermio confensiynol yn achosi llai o fioamrywiaeth gyfoethog na systemau organig. Gwelwyd fod gan ffermio organig gyfoeth rhywogaethau o dros 30% yn uwch na ffermio confensiynol, ar gyfartaledd. ac mae gan systemau organig 50% yn fwy o organebau hefyd.[28]

Cyfeiriadau golygu

  1. Frouz, Jan; Frouzová, Jaroslava (2022). Applied Ecology (yn Saesneg). doi:10.1007/978-3-030-83225-4. ISBN 978-3-030-83224-7.
  2. Gołaś, Marlena; Sulewski, Piotr; Wąs, Adam; Kłoczko-Gajewska, Anna; Pogodzińska, Kinga (October 2020). "On the Way to Sustainable Agriculture—Eco-Efficiency of Polish Commercial Farms" (yn en). Agriculture 10 (10): 438. doi:10.3390/agriculture10100438.
  3. Naujokienė, Vilma; Bagdonienė, Indrė; Bleizgys, Rolandas; Rubežius, Mantas (April 2021). "A Biotreatment Effect on Dynamics of Cattle Manure Composition and Reduction of Ammonia Emissions from Agriculture" (yn en). Agriculture 11 (4): 303. doi:10.3390/agriculture11040303.
  4. 4.0 4.1 van der Warf, Hayo; Petit, Jean (December 2002). "Evaluation of the environmental impact of agriculture at the farm level: a comparison and analysis of 12 indicator- methods". Agriculture, Ecosystems and Environment 93 (1–3): 131–145. doi:10.1016/S0167-8809(01)00354-1.
  5. 5.0 5.1 Garnett, T.; Appleby, M. C.; Balmford, A.; Bateman, I. J.; Benton, T. G.; Bloomer, P.; Burlingame, B.; Dawkins, M. et al. (2013-07-04). "Sustainable Intensification in Agriculture: Premises and Policies". Science (American Association for the Advancement of Science (AAAS)) 341 (6141): 33–34. Bibcode 2013Sci...341...33G. doi:10.1126/science.1234485. ISSN 0036-8075. PMID 23828927.
  6. Tilman, David; Balzer, Christian; Hill, Jason; Befort, Belinda L. (2011-12-13). "Global food demand and the sustainable intensification of agriculture" (yn en). Proceedings of the National Academy of Sciences 108 (50): 20260–20264. doi:10.1073/pnas.1116437108. ISSN 0027-8424. PMC 3250154. PMID 22106295. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3250154.
  7. United Nations (2015) Resolution adopted by the General Assembly on 25 September 2015, Transforming our world: the 2030 Agenda for Sustainable Development (A/RES/70/1)
  8. United Nations Environment Programme (2021). Making Peace with Nature: A scientific blueprint to tackle the climate, biodiversity and pollution emergencies. Nairobi. https://www.unep.org/resources/making-peace-nature
  9. [https://www.wtwco.com/en-GB/Insights/campaigns/cotton-2040 www.wtwco.com; gwefan Willis Towers Watson; adalwyd 26 Tachwedd 2022.
  10. Livestock Farming Systems and their Environmental Impact
  11. Monteny, Gert-Jan; Bannink, Andre; Chadwick, David (2006). "Greenhouse Gas Abatement Strategies for Animal Husbandry, Agriculture, Ecosystems & Environment". Agriculture, Ecosystems & Environment 112 (2–3): 163–70. doi:10.1016/j.agee.2005.08.015.
  12. "Bovine genomics project at Genome Canada". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-10. Cyrchwyd 2020-02-04.
  13. Canada is using genetics to make cows less gassy
  14. Joblin, K. N. (1999). "Ruminal acetogens and their potential to lower ruminant methane emissions". Australian Journal of Agricultural Research 50 (8): 1307. doi:10.1071/AR99004. https://archive.org/details/sim_australian-journal-of-agricultural-research_1999_50_8/page/1307.
  15. The use of direct-fed microbials for mitigation of ruminant methane emissions: a review
  16. Parmar, N. R.; Nirmal Kumar, J. I.; Joshi, C. G. (2015). "Exploring diet-dependent shifts in methanogen and methanotroph diversity in the rumen of Mehsani buffalo by a metagenomics approach". Frontiers in Life Science 8 (4): 371–378. doi:10.1080/21553769.2015.1063550.
  17. Boadi, D. (2004). "Mitigation strategies to reduce enteric methane emissions from dairy cows: Update review". Can. J. Anim. Sci. 84 (3): 319–335. doi:10.4141/a03-109. https://archive.org/details/sim_canadian-journal-of-animal-science_2004-09_84_3/page/319.
  18. Martin, C. et al. 2010. Methane mitigation in ruminants: from microbe to the farm scale. Animal 4 : pp 351-365.
  19. Eckard, R. J. (2010). "Options for the abatement of methane and nitrous oxide from ruminant production: A review". Livestock Science 130 (1–3): 47–56. arXiv:etal. doi:10.1016/j.livsci.2010.02.010.
  20. Machado, Lorenna; Magnusson, Marie; Paul, Nicholas A.; de Nys, Rocky; Tomkins, Nigel (2014-01-22). "Effects of Marine and Freshwater Macroalgae on In Vitro Total Gas and Methane Production". PLOS ONE 9 (1): e85289. Bibcode 2014PLoSO...985289M. doi:10.1371/journal.pone.0085289. ISSN 1932-6203. PMC 3898960. PMID 24465524. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3898960.
  21. "Seaweed could hold the key to cutting methane emissions from cow burps - CSIROscope". CSIROscope. 2016-10-14.
  22. Rethink X: food and agriculture
  23. Rethinking agriculture report
  24. Hance, Jeremy (May 15, 2008). "Tropical deforestation is 'one of the worst crises since we came out of our caves'". Mongabay.com / A Place Out of Time: Tropical Rainforests and the Perils They Face. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 29, 2012.
  25. "Deforestation". National Geographic. Cyrchwyd 24 April 2015.
  26. Seufert, Verena; Ramankutty, Navin; Foley, Jonathan A. (25 April 2012). "Comparing the yields of organic and conventional agriculture". Nature 485 (7397): 229–232. Bibcode 2012Natur.485..229S. doi:10.1038/nature11069. PMID 22535250.
  27. Tuomisto, H.L.; Hodge, I.D.; Riordan, P.; Macdonald, D.W. (December 2012). "Does organic farming reduce environmental impacts? – A meta-analysis of European research". Journal of Environmental Management 112: 309–320. doi:10.1016/j.jenvman.2012.08.018. PMID 22947228.
  28. Bengtsson, Janne; Ahnström, Johan; Weibull, Ann-Christin (2005-04-01). "The effects of organic agriculture on biodiversity and abundance: a meta-analysis" (yn en). Journal of Applied Ecology 42 (2): 261–269. doi:10.1111/j.1365-2664.2005.01005.x. ISSN 1365-2664. https://archive.org/details/sim_journal-of-applied-ecology_2005-04_42_2/page/261.

Darllen pellach golygu

Dolenni allanol golygu