Eglwys Fihangel Sant, Betws-y-Coed
Saif Eglwys Fihangel Sant (hen enw: Llanfihangel) ar lan Afon Conwy, 100m i'r Dwyrain o orsaf reilffordd Betws-y-Coed ym mhentref Betws-y-Coed, Gwynedd. Rhif cofrestriad Cadw: 3229.[1] Amgueddfa yw'r adeilad, bellach, ers 1994, pan drosglwyddwyd yr adeilad o'r Eglwys yng Nghymru i Gymdeithas Cyfeillion yr Eglwys, a dyma adeilad hynaf pentref Betws-y-Coed.[2]
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Betws-y-coed |
Sir | Betws-y-coed |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 17.2 metr |
Cyfesurynnau | 53.0926°N 3.79939°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Cysegrwyd i | Mihangel |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Bangor |
Mae corff yr eglwys un gell, a'r gangell, yn dyddio i ganrif 14, ond credir y bu yma eglwys cyn hynny a bod y safle yn un hynafol iawn ac mae'r fedyddfaen yn brawf o hyn - o ganrif 12. Eglwys un gell ydoedd am ganrifoedd, cyn adeiladu estyniad yn 1843 gyda nawdd gan Willoughby de Eresby o Gastell Gwydir, gerllaw. Oherwydd nad oedd yn ddigon mawr i ddal y cynnydd ym mhoblogaeth y pentref yng nghanrif 20 (a'r ymwelwyr), adeiladwyd eglwys llawer mwy yng nghanol y pentref: Eglwys y Santes Fair, Betws-y-Coed.[1]
Mae Eglwys Fihangel Sant, neu Llanfihangel fel y galwyd hi ers talwm, yn hen iawn. Mae'n sefyll rhwng yr orsaf reiffordd ac Afon Conwy, ar ochr ddwyreiniol y pentref. Dichon ei bod wedi'i chysegru i sant lleol ar un adeg cyn cael ei ail-gysegru i Sant Fihangel, efallai yng nghyfnod y Normaniaid. Mae bedyddfaen yr eglwys yn perthyn i'r 12g, yn ôl pob tebyg. Mae'r hen borth yn dyddio o 1750.[1]
Ar y mur o bobtu'r allor, ceir dau furlun gydag ysgrifen Gymraeg arnynt a cheir llawer o englynion ar y cerrig beddau yn y fynwent. Mae un o'r ffenestri'n cynnwys hen wydr o ffenestr liw cynharach. Tyfa tair ywen hynafol ym mynwent yr eglwys. Yn nyfroedd Afon Conwy ger yr eglwys gellir gweld hen gerrig camu a ddefnyddid ar un adeg i groesi'r afon. Yn ymyl yr eglwys yn ogystal ceir pont grog haearn a phren ar gyfer cerddwyr.[2]
Beddfaen cerfiedig Gruffudd ap Dafydd Goch
golygu- Prif: Gruffudd ap Dafydd Goch
Uchelwr Cymreig oedd Gruffudd ap Dafydd Goch (bl. ail hanner canri 14), a oedd yn un o wyrion y Tywysog Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd Tywysog Cymru, ac felly'n perthyn i Linach Aberffraw. Roedd yn fab i Ddafydd Goch, mab Dafydd ap Gruffudd. Trigai yng nghwmwd Nant Conwy (Sir Conwy).
Y tu ôl i'r allor ceir beddfaen cerfiedig Gruffudd fab Dafydd Goch, un o wyrion Dafydd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Mae'r cerflun yn dangos Gruffudd yn ei arfwisg lawn ac yn dwyn yr arysgrif,
- HIC JACET GRVFYD AP DAVYD GOCH : AGNVS DEI MISERE ME
- (Yma y gorwedd Gruffudd ap Dafydd Goch: Boed i Oen Duw fod yn drugarhaol wrthyf)[1][3]
Nid yw'r feddfaen yn y man gwreiddiol ac mae'n debyg mai ar fedd cisg y byddai wedi gorwedd ar un adeg. Ceir ychydig o baent arni hefyd, a chredir ei bod wedi'i pheintio'n lliwgar ar un adeg.[2]
Llyfryddiaeth
golygu- Harold Hughes a Herbert L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; adargraffiad 1984)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 30 Ebrill 2016.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Gwefan Cyfeillion Eglwys Fihangel Sant; adalwyd 30 Ebrill 2016.
- ↑ Harold Hughes a H. L. North, The Old Chuches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, 1984).
-
Beddfaen Gruffudd
-
Darnau o wydr o ffenestr liw cynharach
-
Gweddi'r Arglwydd yn Gymraeg
-
Elor i gario cyrff y meirw
-
Englyn gan Dewi Tudur: Un wastad hynod union...