Eglwys Sant Rhychwyn
Saif Eglwys Sant Rhychwyn (a gaiff hefyd ei hadnabod fel Eglwys Llywelyn neu Eglwys Llanrhychwyn) ym mhentref Llanrhychwyn tua dwy filltir i'r gorllewin o Drefriw, Sir Conwy (SH77486161). Dyma eglwys y plwyf, a gysegrwyd i Sant Rychwyn. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I ac yn ôl rhai haneswyr dyma eglwys hynaf Cymru.[1]
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trefriw |
Sir | Trefriw |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 217.8 metr |
Cyfesurynnau | 53.1375°N 3.83299°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
Manylion | |
Hanes
golyguDywedir i'r eglwys wreiddiol gael ei sefydlu yn y 7g gan Sant Rhychwyn a oedd yn un o feibion Helig ap Glannog yn ôl traddodiad. Ceir llun dychmygol o Rychwyn gyda Dewi Sant yn eglwys Llanrwst. Ei wylmabsant yw 12 Gorffennaf. Roedd Helig ap Glannog yn dywysog Cymreig a reolodd gryn dipyn o dir, gan gynnwys Ynys Seiriol oddi ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn. Dywedir y boddwyd y tir hwn ac ar ôl llyncu mul, cofleidiodd Helig a’i feibion y bywyd crefyddol.[2]
Yn ôl traddodiad roedd y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, yn blino ar deithio yr holl ffordd o'r llys yn Nhrefriw i eglwys Llanrhychwyn ac felly cododd Llywelyn eglwys newydd iddi yn Nhrefriw yn y flwyddyn 1220.
Mae'r fedyddfaen cyn hyned a'r eglwys ei huna, ac fe'i gosodwyd ar bedestal ar ffurf dau ris. Ceir sawl ffenest liw canoloesol, mae'r un a welir ar y dde'n dyddio'n ôl i o leiaf 1533. Credir fod y drws derw soled a'r gloch hefyd yn perthyn i'r 13g - cloch a ddaeth o Abaty Maenan, o bosibl. Mae gwaith pren yr allor yn mynd yn ôl i 1616 a'r pulpud i 1691. Yn 1614 y gwnaed y ffiol ac mae'n waith celf hynod o gain.[3]
Llywelyn a Siwan
golyguCredir fod gan Llywelyn Fawr blasty hela o'r enw'r "Tŷ Du" rhywle'n y cyffiniau - o bosib i gyfeiriad Llyn Geirionnydd - ond ni wyddom bellach yr union leoliad. Roedd gan Llywelyn hefyd gysylltiad agos gyda mynachod yr ardal. Cefnogodd Llywelyn y myneich o Abaty Aberconwy (a symudwyd yn ddiweddarach i Abaty Maenan)[4] Wedi i Llywelyn a Siwan briodi, beichiogodd Siwan (gyda Dafydd) ac yn ôl yr hanes, roedd y daith i'r capel hwn yn Llanrhychwyn - taith o tua dwy filltir i fyny'r allt - cryn siwrnai i ferch feichiog. Dywedir i Lywelyn godi capel arbennig ar ei chyfer yn Nhrefriw, a dethlir y cysylltiad brenhinol yn ffenest liw'r eglwys bresennol (sef y Santes Fair).
Rhannau
golygu-
Y fedyddfaen
-
Trawstiau'r nenfwd
-
Pulpud
-
Allor syml
-
Drws derw
Y Ffenestr liw
golygu-
Ffenestr liw Canoloesol gyda Mair, Crist ar Groes ac Ioan; oddi tano: Dewi Sant.[5]
Llyfryddiaeth
golygu- Harold Hughes a H. L. North, The Old Chuches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, 1984).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Coflein; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 26 Hydref 2014
- ↑ www.snowdoniaheritage.info; adalwyd 26 Hydref 2014
- ↑ An Inventory of the Ancient Monuments in Caernarvonshire: I East ..., Volume 1 gan Y Comisiwn Brenhinol dros Henbion; adalwyd 26 Hydref 2014.
- ↑ E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947).
- ↑ Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 26 Hydref 2014.