Eirwen Davies
Eirwen Davies (1926 – 12 Mawrth 2014) oedd y cyflwynydd newyddion benywaidd cynta yng Nghymru a gweithiai drwy gyfrwng y Gymraeg ar doriad gwawr darlledu Cymraeg.
Eirwen Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1926 Pum Heol |
Bu farw | 12 Mawrth 2014 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, cyflwynydd newyddion |
Cyflogwr |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe'i magwyd yng Nghwm Gwendraeth a roedd yn byw Pum Heol ger Llanelli. Cychwynnodd adrodd tua 7 neu 8 mlwydd oed a chafodd wersi gan Tommy Williams. Cafodd gyngor i wrando ar y radio i ddysgu sut i adrodd a bu'n cystadlu mewn eisteddfodau lleol. Cystadlodd yn y gystadleuaeth adrodd am y tro cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog 1945 ac enillodd yn adrodd y darn "Seimon, mab Jona". Cyfarfu I. D. Hooson, awdur y darn, yn y rhagbrawf.[1] Mynychodd Ysgol Ramadeg Llanelli a perfformiodd mewn dramau yn ystod y cyfnod yma. Roedd ei bryd ar fod yn actores a gwnaeth gais i astudio yn RADA, Llundain. Cafodd ei derbyn gan y coleg drama ond gwrthododd ei thad iddi fynd gan ddweud fod angen swydd mwy sicr arni.
Gyrfa
golyguPenderfynodd geisio am swydd gyda'r BBC yng Nghaerdydd a gwnaeth ei chlyweliad yn swyddfa'r BBC yn Plas y Parc. Y drefn oedd ei bod yn eistedd o flaen meicroffôn mewn stafell wag ac adrodd darn o stori, gan weld neb ond clywed llais anhysbys o'r uchelseinydd. Cafodd wybod o fewn pythefnos ei fod yn llwyddiannus.
Ar y pryd roedd yn gweithio yn llawn amser fel ysgrifenyddes gyda'r Bwrdd Glo ac roedd yn cael amser i fynd i weithio ar y cyfryngau.
Cychwynnodd weithio ar y radio, yn gyntaf ar raglenni i ysgolion ac yna drama radio Teulu'r Mans ar ddiwedd y 1950au. Cychwynodd weithio yn achlysurol i TWW yn 1958 gan adrodd storïau i blant amser tê, unwaith yr wythnos. Wedyn daeth y cyfle i adrodd y newyddion ar deledu TWW yn 1958. Un diwrnod nid oedd y darllenwyr newyddion eraill ar gael a chafodd wahoddiad i ddod fewn, ac ar ddiwedd y darllediad gofynnodd y cynhyrchydd Wyn Roberts iddi ddod nôl eto yr wythnos ganlynol. Wedi sawl ymddangosiad cafodd gynnig swydd llawn amser gan Wyn Roberts a gadawodd ei swydd yn y Bwrdd Glo.[1]
Cyflwynodd y rhaglen Gymraeg O Ddydd i Dydd am y tro cyntaf ar 1 Mehefin 1960 ac am rai blynyddoedd wedyn ar TWW. Wedyn daeth yn adnabyddus fel un o gyflwynwyr y rhaglen newyddion ddyddiol Y Dydd.[2] Yn ystod ei chyfnod cafodd gyhoeddi'r newyddion am ddyn yn glanio ar y lleuad. Yn ôl rhai, hi oedd y cyflwynwraig benywaidd cyntaf yng ngwledydd Prydain.[3]
Yn 1966 cafodd ei chydnabod fel Personoliaeth y Flwyddyn.
Marwolaeth
golyguBu farw ar y 12 Fawrth 2014 yn Ysbyty Athrofaol, Caerdydd.[2] Dywedodd Gwilym Owen a fu’n bennaeth Newyddion yn HTV "ei chryfder mawr oedd ei thrylwyredd ac mi fyddai’n talu i rai o ddarlledwyr heddiw edrych ar hen dapiau ohoni...Roedd hi'n gwbl, gwbl broffesiynol."[4]
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Beti a'i Phobol - Eirwen Davies (19 Mai 2005).
- ↑ 2.0 2.1 Obituary - Eirwen Davies. Media Wales. Adalwyd ar 24 Ebrill 2016.
- ↑ VIP's trip back in time (en) , Llanelli Star, 26 Mehefin 2013. Cyrchwyd ar 10 Ebrill 2014.
- ↑ Arloeswraig ‘gwbl broffesiynol’ , Golwg360, 13 Mawrth 2014. Cyrchwyd ar 10 Ebrill 2014.