Eisteddfod Caerfyrddin 1819
Eisteddfod a gynhaliwyd yn nhref Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin yng Ngorffennaf 1819 oedd Eisteddfod Caerfyrddin 1819. Trefnwyd yr eisteddfod gan gymdeithasau Cymraeg a chlerigwyr lleol. Er nad oedd yn Eisteddfod Genedlaethol fel y cyfryw (nas crëwyd tan y 1860au), mae'n ddigwyddiad o bwys yn hanes datblygiad y sefydliad hwnnw gan mai dyma'r tro cyntaf i Orsedd y Beirdd gael ei chysylltu'n swyddogol ag eisteddfod.
Enghraifft o'r canlynol | eisteddfod |
---|---|
Dyddiad | 1819 |
Lleoliad | Caerfyrddin |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cynhaliwyd yr eisteddfod o'r 8fed i'r 10fed Gorffennaf 1819, yng Ngwesty'r Ivy Bush yn nhref Caerfyrddin. Dim ond gwahoddedigion oedd yn bresennol, ac roeddent yn cynnwys dynion amlwg fel Thomas Burgess, Esgob Tyddewi (y prif noddwr), Gwallter Mechain, Edward Jones (Bardd y Brenin), Daniel Ddu o Geredigion, a Iolo Morganwg a'i fab Taliesin. Bu'r Parch. Joseph Harris (Gomer), golygydd Seren Gomer, yn bresennol hefyd a chedwir ar glawr ei adroddiad llygad-dyst o'r ŵyl.
Enillodd Gwallter Mechain dair o'r prif gystadlaethau, am gyfres o englynion, awdl goffa i Syr Thomas Picton a thraethawd ar Farddas.
Bu cryn dipyn o rwysg yn y seremonïau a chynheliwyd cyngerddau o gerddoriaeth Gymreig gyda'r nos : roedd rhoi'r urddas hyn i ganu'r delyn a'r crwth ynddo'i hun yn newyddbeth yng Nghymru'r cyfnod, am fod llawer o arferion diwylliant gwerin Cymru wedi cael eu collfarnu gan yr Ymneilltuwyr ac eraill. Edward Jones (nad oedd yn cael alw yn "Fardd y Brenin" eto) oedd y beirniad.
Ond y prif ddiddordeb hanesyddol yw'r trefniadau a wnaed gan Iolo Morganwg, yn hen ŵr 72 oed, i hyrwyddo ei syniadau ffug hynafiaethol am yr Orsedd "Derwyddol" a'i defodau. Gosodwyd cylch o gerrig bychain i fyny ar lawnt y gwesty ac urddwyd beirdd ac "ofyddion" (clerigwyr gan fwyaf) â rhubanau a glymwyd ar eu breichiau gan Iolo ei hun. Dadweinwyd y Cledd ganddynt i gyd hefyd. Er i Orsedd Beirdd Prydain gael ei sefydlu gan Iolo cyn hynny, dyma'r tro cyntaf iddi ddod yn rhan swyddogol o eisteddfod, a gosodwyd y cynseiliau ar gyfer seremoni gyfarwydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru heddiw.
Cyfeiriadau
golygu- Joseph Harris (Gomer), "Hanes Eisteddfod Caerfyrddin", yn Gweithiau awdurol y diweddar Barch. Joseph Harris (Gomer) (Llanelli, 1839)
- Melville Richards, "Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg", yn Twf yr Eisteddfod: Tair Darlith, gol. Idris Foster (Aberystwyth: Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1968)