Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Rhyl 1953
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1953 yn y Rhyl, Sir y Fflint (Sir Ddinbych bellach).
Enghraifft o'r canlynol | un o gyfres reolaidd o wyliau |
---|---|
Dyddiad | 1953 |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
Lleoliad | Y Rhyl |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Y Ffordd | - | E. Llwyd Williams |
Y Goron | Y Llen | - | Dilys Cadwaladr |
Y Fedal Ryddiaith | Neb yn deilwng |
Dilys Cadwaladr oedd y ferch gyntaf i gael ei choroni yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Gan fod gwobrwyo merch yn brifardd yn ddigwyddiad prin yr adeg yma, galwyd tafarn ar Ffordd Rhuddlan o'r enw "The Crowned Bard" i gofio'r achlysur; mae dal yno heddiw. Nid oedd yna gytundeb ar goroni Dilys Cadwaladr. Roedd Saunders Lewis yn daer dros goroni gwaith Dyfnallt Morgan tra yr oedd J. M. Edwards a T. H. Parry-Williams yn unfryd yn erbyn. Yn ôl Saunders Lewis, mae'r gerdd yn disgrifio "terfyn gwareiddiad Cymraeg mewn cwm diwydiannol a'r llen haearn rhwng yr hen fywyd Cymreig a'r bwyd di-Gymraeg sy'n ei ddisodli."[1] Ceir pwyslais ar yr elfen lafar a cheir enghraifft hyfryd o dafodiaith Morgannwg. Ceir testun Y Llen yn unig gyfrol barddoniaeth Dyfnallt Morgan, Y Llen a Myfyrdodau Eraill.
Anerchodd Megan Lloyd George y dorf yno hefyd ac mae tâp o'i llais ar gael gan y BBC.
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Rhyl – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn y Rhyl
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyfansoddiadau 1953, tud. 73